Back
Cymuned Gabalfa yn dod at ei gilydd i fynd i'r afael â graffiti ar furlun newydd ei baentio

01/11/24

Mae murlun cymunedol a gafodd ei fandaleiddio ychydig ddyddiau ar ôl iddo gael ei gwblhau wedi cael ei adfer i'w gyflwr gwreiddiol.

A tunnel with a painted wallDescription automatically generated

Roedd prosiect cydweithredol, yn cynnwys timau, ysgolion a phartneriaid allanol Cyngor Caerdydd, i greu murluniau newydd lliwgar wedi trawsnewid tanffordd Gabalfa yn Rhodfa'r Gorllewin cyn i'r waliau gael eu maeddu â phaent melyn gan fandaliaid.

Fodd bynnag, roedd y gymuned yn gyflym i weithredu a daeth at ei gilydd i olchi'r graffiti cyn iddo gael cyfle i sychu.

Roedd y murlun yn ben llanw wythnosau o waith gan grwpiau amrywiol ac ysgolion lleol a rhoddodd olwg newydd fywiog i'r twnnel tanddaearol, rhywbeth yr oedd y gymuned leol yn falch ohono. Maen nhw bellach wedi adfer y gwaith celf drwy weithred sy'n dathlu pŵer ymgysylltiad y gymuned a'r ymdeimlad o falchder yn yr ardal.

Mae Prosiect Cyfnewidfa Gabalfa Unify, sy'n cynnwys Tîm Cwricwlwm Caerdydd, Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd, Tîm Gofalu Tai Cyngor Caerdydd, wedi'i ariannu gan y Gronfa Ffyniant Gymdeithasol. Wedi'i arwain yn greadigol gan Unify Creative, daeth ag ysgolion lleol, partneriaid dinas ac aelodau o'r gymuned ynghyd i ail-ddychmygu ac ailgynllunio'r danffordd, gan ei throi'n ofod diogel a bywiog sy'n ennyn balchder cymunedol.

Cymerodd chwe ysgol leol, gan gynnwys UCD Bryn y Deryn, Ysgol Gyfun Glantaf, Ysgol Gynradd Gabalfa, Ysgol Gynradd Glan Ceubal, Ysgol Gynradd Gatholig Sant Joseff, Ysgol Arbennig Meadowbank, a Chanolfan Adnoddau Arbenigol Glantaf, ran yn y prosiect. Gweithiodd myfyrwyr o'r ysgolion hyn, ochr yn ochr â phobl ifanc o Glwb Ieuenctid Gabalfa, yn agos gyda Unify Creative i archwilio themâu hunaniaeth a chymuned, gan greu gwaith celf sy'n adlewyrchu eu safbwyntiau unigryw ar Gabalfa a'i le yn eu bywydau.

Mae Prosiect Cyfnewidfa Gabalfa Unify wedi cynrychioli taith greadigol o ddarganfyddiad a mynegiant i'r gymuned leol.  Drwy gydol tymor y gwanwyn a'r haf, bu'r myfyrwyr yn archwilio eu hanes a'u diwylliant lleol, gan gydweithio ag artistiaid a gwneuthurwyr ffilm lleol i greu'r murlun sydd bellach yn gorchuddio'r danffordd. Mae'r gwaith celf yn crynhoi ysbryd cyfunol Gabalfa, wrth fynd i'r afael â phryderon y gymuned ynghylch diogelwch a phydredd trefol. Chwaraeodd Tîm Cwricwlwm Caerdydd rôl allweddol, gan dywys pobl ifanc drwy'r broses greadigol a'u helpu i ddod â'u syniadau'n fyw. Cefnogwyd y prosiect gan bartneriaid amrywiol, gan gynnwys Into Film Cymru, Buffon Media, ac Archifau Morgannwg, ochr yn ochr â Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd. Roedd y cydweithio yn sicrhau bod y prosiect wedi'i integreiddio'n ddwfn i gwricwlwm yr ysgol, gan ddarparu gwerth addysgol ac artistig i'r myfyrwyr a gymerodd ran.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Mae'r prosiect hwn wedi adfywio tanffordd Gabalfa yn llwyr ac yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fydd ysgolion, sefydliadau ac aelodau o'r gymuned leol yn gweithio gyda'i gilydd i ddathlu a chyfrannu at weledigaeth gyffredin o gymuned a chreadigrwydd. Nid yn unig y mae'r fenter wedi dod â lliw a bywyd i'r danffordd ond mae hefyd wedi dod ag ymdeimlad o falchder cymunedol iddi, un y mae'r trigolion lleol wedi ei amddiffyn yn briodol trwy ddangos y fandaliaid hyn na fydd gweithredoedd gwrthgymdeithasol o'r fath yn cael eu goddef."

Mae prosiect Tanffordd Cyfnewidfa Gabalfa yn rhan o ymdrech ehangach gan Gyngor Caerdydd i adfywio mannau cyhoeddus drwy gelf. Ariannwyd amser a deunyddiau artistiaid Unify Creative gan y CFfG i gefnogi Prosiect Cyfnewidfa Gabalfa Unify a gwnaed paentiad arall gan wirfoddolwyr, aelodau o'r gymuned leol a gyda chymorth Tîm Gofalu'r Adran Dai.

Mae Canolfan Ieuenctid a Chymunedol Gabalfa wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd diogel a meithringar i bobl ifanc yng Nghaerdydd. Trwy raglenni a phartneriaethau amrywiol, nod y Ganolfan yw grymuso ieuenctid, meithrin ysbryd cymunedol, a chreu cyfleoedd ar gyfer twf personol a phroffesiynol.

Mae Tîm Gwasanaethau Gofalu y Cyngor yn parhau i chwilio am gyfleoedd i gydweithio ag artistiaid stryd lleol a thrigolion ar brosiectau yn y dyfodol. Mae'r tîm yn annog trigolion sy'n wynebu fandaliaeth barhaus ar waliau neu garejys sy'n wynebu'r cyhoedd i estyn allan os oes ganddynt ddiddordeb mewn gosod gwaith celf wedi'i ysgogi gan y gymuned yn y mannau hyn.

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect neu i holi am bartneriaethau yn y dyfodol, cysylltwch â Thîm Gwasanaethau Gofalu Cyngor Caerdydd drwy e-bost yn GwasanaethauYstadauRheoliTai@caerdydd.gov.uk