Dyma'ch diweddariad dydd Mawrth, sy'n cynnwys:
Mae'r Maes Coffa yn agor ar Dir Castell Caerdydd
Mae seremoni agoriadol Maes Coffa Cenedlaethol Cymru 2024 wedi cael ei chynnal yng Nghastell Caerdydd, wrth i'r genedl baratoi ar gyfer Sul y Cofio blynyddol.
Ymunodd y Cynghorydd Helen Lloyd Jones, y Dirprwy Arglwydd Faer, â nifer o bwysigion eraill, gan gynnwys y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, a Jane Hutt AoS ar ran Llywodraeth Cymru, i dalu teyrnged mewn gwasanaeth Coffa arbennig gyda Dau Funud o Dawelwch.
Cyn y gwasanaeth cafodd yr holl bwysigion gyfle i ysgrifennu teyrngedau ac wedi hynny fe blannon nhw groesau ym Maes Coffa Cenedlaethol Cymru ar dir y castell.
Canolfan Ieuenctid Gabalfa wedi'i gweddnewid mewn 18 mis trwy brosiectau partneriaeth llwyddiannus
Mae Canolfan Ieuenctid a Chymunedol Gabalfa wedi cynnal digwyddiad arbennig i ddathlu ei gweddnewidiad rhyfeddol a'r cydweithrediad llwyddiannus â phartneriaid amrywiol wrth gyflawni pum prosiect arloesol.
Roedd y digwyddiad yn dangos canlyniadau prosiect mawr a ddatblygwyd gyda chyfraniad a chreadigrwydd pobl ifanc:
Y cynhwysion cywir i ddathlu Mis Plant Gofalwyr Maeth
Roedd blawd yn hedfan, toes yn troelli, saws pomodoro yn cael ei dywallt, ac roedd yna ddogn mawr o wenu a chwerthin mewn digwyddiad arbennig i ddathlu plant gofalwyr maeth yng Nghaerdydd yr wythnos diwethaf.
Roedd yn rysáit am noson lwyddiannus wrth i Faethu Cymru Caerdydd ddod â phlant o deuluoedd maeth y ddinas at ei gilydd ar gyfer noson llawn hwyl yn gneud pizza i nodi Mis Plant Gofalwyr Maeth.
Bob mis Hydref, mae'r ymgyrch flynyddol yn gyfle i gydnabod a dathlu'r cyfraniad hanfodol y mae plant gofalwyr maeth yn ei wneud i ofal maeth.
Mwynhaodd pedwar ar ddeg o blant a phobl ifanc o deulu Maethu Cymru Caerdydd noson gyda'i gilydd lle cawsant gyfle i rannu eu profiadau gyda'i gilydd, trafod y gefnogaeth y maent yn ei derbyn ac wrth gwrs, mwynhau'r pizzas blasus a wnaethant ym mwyty Eidalaidd Giovanni's ym Mae Caerdydd.