Back
Canolfan Ieuenctid Gabalfa wedi'i gweddnewid mewn 18 mis trwy brosiectau partneriaeth llwyddiannus

 

25/10/2024

Mae Canolfan Ieuenctid a Chymunedol Gabalfa wedi cynnal digwyddiad arbennig i ddathlu ei gweddnewidiad rhyfeddol a'r cydweithrediad llwyddiannus â phartneriaid amrywiol wrth gyflawni pum prosiect arloesol.

Roedd y digwyddiad yn dangos canlyniadau pum prosiect mawr a ddatblygwyd gyda chyfraniad a chreadigrwydd pobl ifanc:

Caffi Fan Ceffylau:Bydd fan ceffylau a roddwyd gan Boskalis Westminster yn cael ei thrawsnewid yn gaffi a fydd yn cael ei redeg gan bobl ifanc, gan roi sgiliau a hyder gwerthfawr iddynt. Bydd Galliford Try yn cynorthwyo i osod a dodrefnu'r fan ceffylau ar sail syniadau a dyheadau'r bobl ifanc.

Datblygu Ystafell Amlgyfrwng:Mewn cydweithrediad â Tool Station, Barclaycard, Dulux a Volunteer It Yourself (VIY), mae gwaith datblygu'r stiwdio wedi rhoi cymwysterau i bobl ifanc o'r gymuned mewn saernïaeth, paentio ac addurno, ac iechyd a diogelwch

Ystafell amlgyfrwng wedi'i chwblhau:Bydd y prosiect hwn, mewn partneriaeth â Sound Progression, yn creu stiwdio gerddoriaeth yng Ngogledd Caerdydd,gan gefnogi darpar artistiaid ifanc o gymunedau lleol i ddatblygu sgiliau ysgrifennu caneuon a chreu cerddoriaeth, yn ogystal â mireinio sgiliau cynhyrchu a recordio.

Bydd y fenter hon yn ategu gwaith Gwasanaeth Cerdd Caerdydd, yn unol ag uchelgeisiau'r Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Addysg Cerddoriaeth a Strategaeth Gerdd Caerdydd. Bydd hyn yn galluogi pobl ifanc i achub ar amrywiaeth o gyfleoedd yn eu cymuned eu hunain, mewn man diogel a gefnogir gan weithwyr ieuenctid, gyda'r fantais o fewnbwn ac arweiniad o ansawdd gan ystod o weithwyr proffesiynol.

Unify:Gan ymgysylltu â phum ysgol leol, mae'r prosiect hwn yn cynnwys creu celf graffiti i wella a harddu ardaloedd o Gabalfa, gan arwain at arddangosfa.

Gardd Les/Ardal Dysgu Awyr Agored:Mae'r fenter hon yn cynnwys cynnal a chadw beiciau, rhaglenni Dug Caeredin a chyfleusterau lles fel pwll tân, gan hyrwyddo dysgu yn yr awyr agored ac ymgysylltu â'r gymuned.

Adnewyddu Gabalfa:Gyda chymorth partneriaid amrywiol, mae'r Ganolfan wedi'i hail-lunio i fod yn fwy croesawgar a chyffrous i bobl ifanc, gan greu lle y gallant fod yn falch ohono.

Roedd y digwyddiad hefyd yn cynnwys prosiect ymgynghori cymunedol lle defnyddiodd pobl ifanc "maptionnaire" i nodi ardaloedd diogel ac anniogel yng Ngabalfa, gan feithrin ymdeimlad o berchnogaeth a chyfrifoldeb dros eu cymuned.

Siaradodd Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Addysg Cyngor Caerdydd yn y digwyddiad gan ailadrodd pwysigrwydd cydweithredu: "Mae'r digwyddiad hwn yn dathlu ac yn dangos pwysigrwydd ac effaith cydweithredu rhwng awdurdodau lleol a phartneriaid busnes i ddarparu amwynderau a chyfleoedd i gymunedau.  O Gaffi Fan Ceffylau i ddatblygu Ystafell Amlgyfrwng Cerddoriaeth, ni fyddai'r prosiectau hyn wedi bod yn bosibl heb y cydweithredu rhwng busnesau, partneriaid ac awdurdodau lleol.

"Mae annog partneriaid i ddefnyddio eu hymrwymiadau Gwerth Cymdeithasol a Chyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol er budd plant a phobl ifanc yn gallu cael effaith anfesuradwy ar fywydau pobl ifanc ac wrth edrych i'r dyfodol, mae cymaint mwy y gallwn ei gyflawni gyda'n gilydd."

Dywedodd y Cynghorydd Peter Bradbury, yr Aelod Cabinet dros Drechu Tlodi, Cydraddoldeb a Chefnogi Pobl Ifanc: "Dros y 18 mis diwethaf, mae Canolfan Ieuenctid a Chymunedol Gabalfa wedi datblygu o fod heb ddarpariaeth ieuenctid llawn amser i gynnig amrywiaeth eang o ymrwymiadau a chlybiau, dros chwe diwrnod yr wythnos.

"Mae'r digwyddiad arbennig hwn wedi arddangos taith y Ganolfan wrth iddi ehangu ei gwasanaethau a'i chyfleoedd i'r bobl ifanc yn y gymuned ac mae'n dyst i bŵer cydweithredu rhwng Awdurdodau Lleol a sefydliadau'r sector preifat a gwirfoddol."

Partneriaid sy'n Cyfranogi:

Addewid Caerdydd a Thîm Cwricwlwm Addewid Caerdydd

Gwasanaethau Ieuenctid Caerdydd

@Boskalis Westminster

Galliford Try a phartneriaid

Mace

Euroclad

Barclaycard

Volunteer It Yourself (VIY)

Tool Station

Dulux

Unify

Sound Progression

Hope Espresso

Fferm y Fforest