Back
Buddugoliaeth 'Mynwent y Flwyddyn' sy'n torri record i Fynwent Draenen Pen-y-graig

24.10.24

 

Mae Mynwent Draenen Pen-y-graig wedi cael ei henwi'n 'Fynwent y Flwyddyn' am y pedwerydd tro sy'n torri'r record.

Yn flaenorol, enillodd y fynwent y 'Wobr Aur' yng nghategori mynwent fawr y gystadleuaeth genedlaethol fawreddog hon, a gynhaliwyd gan y Bwrdd Ymwybyddiaeth Goffa, yn 2016, 2020 a 2021.

Mae'r gwobrau, a gyflwynwyd yn gynharach y mis hwn yng ‘Nghonfensiwn ac Arddangosfa Dysgu y Sefydliad Rheoli Mynwentydd ac Amlosgfeydd', yn adlewyrchu'r safonau cynnal a chadw uchel ar y safle ac ansawdd a dewis y gwasanaethau a gynigir i'r rhai sydd mewn profedigaeth.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd sy'n gyfrifol am Wasanaethau Profedigaeth, y Cynghorydd Norma Mackie:  "Mae'r tîm ym Mynwent Draenen Pen-y-graig yn ymfalchïo mewn darparu gwasanaeth cyfeillgar, dibynadwy a phroffesiynol o ansawdd uchel ac mae cael ei henwi'n 'Fynwent y Flwyddyn' yn gydnabyddiaeth wych am eu gwaith."

Dywedodd Philip Potts, o'r Bwrdd Ymwybyddiaeth o Goffáu:"Mae'r gwobrau'n gyfle gwych i wobrwyo staff sy'n gweithio'n galed a dangos y rôl ganolog y gall mynwentydd a meysydd eglwys ei chwarae yn y gymuned. Maen nhw'n fannau o harddwch heddychlon i fyfyrio, yn ogystal â'u pwysigrwydd hanesyddol, cymdeithasol ac ecolegol.

"Perfformiodd y tîm yng Nghyngor Caerdydd yn eithriadol drwy gydol y cyfnod beirniadu helaeth sy'n canolbwyntio ar Safonau'r Diwydiant, Arfer Da a Rhyddid Dewis."

Cefnogir a chymeradwyir Gwobr Mynwent y Flwyddyn gan Gymdeithasau blaenllaw y diwydiant, gan gynnwys Sefydliad Rheoli Mynwentydd ac Amlosgfeydd (ICCM),yFfederasiwn Awdurdodau Claddu ac Amlosgi(FBCA), Cymdeithas Clercod Cynghorau Lleol (SLCC), a Chofrestr Prydain o Seiri Coffa Achrededig (BRAMM).