Yn gynharach y mis hwn,
dyfarnwyd Gwobr Cynaliadwyedd Bill Ward i'r Cyngor, Atkins Realis a Knights
Brown yng Ngwobrau Peirianneg Sifil Ice Cymru 2024.
Mae'r Gwobrau Peirianneg Sifil
yn cydnabod unigolion a sefydliadau am arloesi, peirianneg glyfar, a
chynaliadwyedd yn y diwydiant yng Nghymru.
Mae dadorchuddio Camlas Gyflenwi’r Dociau sydd dan Ffordd
Churchill dros y 70 mlynedd diwethaf yn gam cyntaf mewn prosiect adfywio
ehangach, gyda chynlluniau i ymestyn y gamlas ar hyd Ffordd Churchill i
gysylltu â'r gamlas i'r de o Stryd Tyndall.
Gallai'r datblygiad newydd hwn agor y potensial i
ddarparu ardal drefol newydd gan gynnwys adfywio Stryd y Bont, Heol David, Heol
Charles, Stryd Tredegar, Cilgant Guildford, a Lôn y Barics.
Prif bwrpas Camlas Gyflenwi’r Dociau yw rheoli dŵr wyneb,
gan ganiatáu i ddŵr glaw basio drwy erddi glaw pwrpasol, fel y gellir glanhau'r
dŵr cyn mynd i mewn i'r gamlas yn y pen draw.
Mae'r dyluniad yn sicrhau bod modd dargyfeirio’r 3,500m2
o ddŵr o'r garthffos gan leihau'r gost a'r ynni o drin y dŵr hwn drwy'r orsaf
pwmpio carthion ym Mae Caerdydd
Mae ailymddangosiad Camlas Gyflenwi’r Dociau hefyd yn
darparu cynefin dŵr newydd yng nghanol y ddinas, gan greu man cyhoeddus newydd,
seddi awyr agored, ardal berfformio ar ffurf amffitheatr a dwy bont droed i
groesi'r dŵr. Mae cynefinoedd dŵr arnofiol hefyd wedi'u gosod, gyda dyfrgwn
wedi’u gweld yn ddiweddar yn gorffwys ar y platfform cyn parhau â'u diwrnod.
Yn y 1830au, roedd camlas gyflenwi’r dociau yn rhedeg o
Afon Taf yn y Gored Ddu i lawr i Ddociau Caerdydd i gynnal lefelau'r dŵr yn Noc
Bute Caerdydd. Roedd hyn yn caniatáu i'r doc weithredu 24 awr y dydd, hyd yn
oed ar lanw isel, gan wasanaethu Camlas Morgannwg 25 milltir o hyd o Ferthyr
Tudful i Gaerdydd i ddod â dur a haearn i lawr i'r ddinas.
Gorchuddiwyd Camlas Morgannwg rhwng 1948 a 1950 a
gorchuddiwyd Camlas Gyflenwi’r Dociau ar Ffordd Churchill gyda thrawstiau
concrit ac adeiladwyd y lôn gerbydau drosti.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Newid
Hinsawdd, Cynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Dan De’Ath:
"Hoffwn ddiolch i dîm y prosiect a'n contractwyr am gyflawni'r cynllun
hwn, a fydd yn gatalydd ar gyfer buddsoddi pellach yn y rhan hon o'r ddinas.
Mae'r cyngor wedi nodi ein dyheadau ar gyfer Cwr y Gamlas yn y dyfodol ac mewn
amser, a thrwy gyfleoedd cyllido yn y dyfodol gallai'r weledigaeth hon
drawsnewid y rhan hon o ganol y ddinas, gan greu ardal newydd fywiog i
drigolion ac ymwelwyr ei mwynhau."