Back
Y Diweddariad: 18 Hydref 2024

Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, sy'n cynnwys:

  • Cymorth i drigolion hŷn hawlio Credyd Pensiwn
  • Hybiau a llyfrgelloedd yn cynnig croeso cynnes unwaith eto
  • Caerdydd Yn Ennill Gwobr O Fri - 'gwobr Aur Lleoedd Bwyd Cynaliadwy'
  • Landlord Caerdydd yn Colli Apêl Ar Ôl Cael Dirwy o £37,000

 

Cymorth i drigolion hŷn hawlio Credyd Pensiwn

Mae tîm Cyngor ar Arian Cyngor Caerdydd yn annog pobl hŷn yn y ddinas, i wirio a ydyn nhw'n gymwys i hawlio Credyd Pensiwn.

Mae Credyd Pensiwn yn fudd-dal gwerthfawr, sy'n werth £2,677 y flwyddyn ar gyfartaledd i bobl gymwys o oedran Pensiwn y Wladwriaeth.  Mae ar gael i hawlwyr cymwys hyd yn oed os oes ganddynt incwm neu gynilion eraill neu os ydynt yn berchen ar eu cartref eu hunain.  

Er hynny, mae gwerth mwy na £12.3m o Gredyd Pensiwn yn peidio â chael ei hawlio yng Nghaerdydd, gydag amcangyfrif o 4,300 o hawliadau wedi'u methu yn y ddinas.

Mae ein tîm Cyngor Ariannol yn annog unrhyw un sy'n ansicr a ydynt yn gymwys i gysylltu cyn gynted â phosibl.  Gall y tîm wirio a oes gan berson hawl i Gredyd Pensiwn, yn ogystal â helpu i sicrhau nad yw preswylwyr yn colli allan ar unrhyw fudd-daliadau neu ostyngiadau eraill a allai helpu i wneud y mwyaf o'u hincwm.

Darllenwch fwy yma

 

Hybiau a llyfrgelloedd yn cynnig croeso cynnes unwaith eto

Mae mannau Croeso Cynnes ar y ffordd yn ôl yn hybiau a llyfrgelloedd Caerdydd eto eleni i helpu cwsmeriaid sy'n poeni am gostau gwresogi eu cartrefi eu hunain.

Wrth i'r tywydd oeri, o ddydd Llun 21 Hydref, bydd ein hybiau a'n llyfrgelloedd unwaith eto yn cynnig croeso cynnes i gwsmeriaid, gan gynnig amgylchedd diogel a chynnes lle gallant gwrdd ag eraill i sgwrsio, darllen llyfr, manteisio ar wasanaethau a chael gwybod am y cymorth sydd ar gael.

Dyma drydedd flwyddyn y fenter, sy'n ceisio helpu unrhyw un yn y ddinas sy'n poeni am gostau byw, gan gynnwys prisiau ynni, dros y misoedd oerach.

Mae croeso i bobl alw heibio i unrhyw un o hybiau neu lyfrgelloedd y ddinas yn ystod eu horiau agor arferol. Ewch i  https://hybiaucaerdydd.co.uk/  am fanylion. Bydd lluniaeth poeth ar gael hefyd ond mae'r amserau'n amrywio o leoliad i leoliad.

Darllenwch fwy yma

 

Caerdydd Yn Ennill Gwobr O Fri - 'gwobr Aur Lleoedd Bwyd Cynaliadwy'

Mae dinas Caerdydd wedi ennill Gwobr Aur Lleoedd Bwyd Cynaliadwy, gan gydnabod llwyddiant ei dull cydgysylltiedig o ddatblygu system fwyd gynaliadwy ac iach.

Mae Caerdydd yn un o ddim ond pedwar lle yn y DU i ennill statws Aur, gan ddilyn ôl troed Brighton & Hove, Bryste a Chaergrawnt.

Cafodd y cais am y wobr ei arwain gan Bwyd Caerdydd, sef 'partneriaeth fwyd' sy'n cwmpasu'r ddinas gyfan ac yn cynnwys unigolion a sefydliadau sy'n cysylltu'r bobl a'r prosiectau sy'n gweithio i hyrwyddo bwyd iach, amgylcheddol gynaliadwy a moesegol ledled y ddinas.

Enillodd Caerdydd Wobr Arian Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yn 2021 a dechreuodd Bwyd Caerdydd raglen ymgysylltu ac ymgynghori ledled y ddinas i greu Strategaeth Bwyd Da Caerdydd, gyda'r nod o ennill y Wobr Aur eleni. Mae'r strategaeth yn cynnwys pum nod ar gyfer bwyd - Caerdydd iach; Caerdydd amgylcheddol gynaliadwy; economi leol ffyniannus; system fwyd deg a chysylltiedig; a mudiad bwyd grymusol.

Darllenwch fwy yma

 

Landlord Caerdydd yn Colli Apêl Ar Ôl Cael Dirwy o £37,000

Mae landlord o Gaerdydd a gafodd ddirwy o £37,000 am droseddau diogelwch difrifol yn ei eiddo rhent yn Broadway, Adamsdown, wedi cael apêl yn erbyn y ddirwy ei wrthod, ac mae bellach yn wynebu bil o ychydig dros £42,521, i'w dalu o fewn chwe mis.

Roedd Mr Nazir Ahmed, 67, o Heol Albany, Caerdydd, yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener diwethaf (11 Hydref). Wedi'i gynrychioli gan ei ferch, gofynnodd am ohirio casglu tystiolaeth gan Heddlu De Cymru i gefnogi ei honiad nad oedd yn gallu gwneud y gwaith atgyweirio angenrheidiol oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol honedig a sgwatwyr yn yr adeilad.

Fodd bynnag, canfu'r llys nad oedd yr esgus hwn yn ddigonol a gwrthododd ohirio'r achos.

Daeth y materion i'r amlwg ym mis Ebrill 2023 pan gysylltodd Heddlu De Cymru â Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru oherwydd pryderon am yr eiddo. Yn fuan wedyn, fe wnaeth swyddogion y cyngor a'r gwasanaeth tân archwilio'r eiddo a chanfod rhestr hir o amodau annerbyniol ar gyfer eiddo rhent.

Roedd yr eiddo Fictoraidd deulawr ar Broadway wedi ei rannu'n bedwar fflat heb ganiatâd cynllunio nac unrhyw drafod gydag adran rheoli adeiladu'r cyngor, na chwmni rheoli adeiladau preifat.

Roedd y canfyddiadau allweddol yn cynnwys:

  • Nid oedd y mynediad i'r eiddo yn ddiogel.
  • Roedd y drysau tân i'r holl fflatiau yn ddiffygiol.
  • Cafodd y cyflenwad trydan i'r eiddo cyfan ei ddatgysylltu oherwydd ymdrechion parhaus i osgoi'r mesuryddion.
  • Heb drydan, nid oedd dim larwm tân yn gweithio, gwres, golau, na phŵer i redeg offer trydanol fel yr oergell a'r rhewgell.
  • Roedd pla o gnofilod.
  • Roedd cyfleusterau'r gegin yn anniogel ac annerbyniol.
  • Nid oedd cwpwrdd y mesurydd trydan wedi'i ddiogelu rhag tân.

Darllenwch fwy yma