Back
Cyngor Caerdydd yn bwriadu gweithredu'n gyflym i gadw prosiect Campws y Tyllgoed ar y trywydd iawn

17/10/24

Mae Cyngor Caerdydd wedi datblygu cynlluniau i ddiogelu prosiect Campws y Tyllgoed, gwerth £108 miliwn, yn sgil ISG Construction Ltd yn mynd i ddwylo'r gweinyddwyr.   

A construction site with cranes and buildingsDescription automatically generated    

Mae'r cyngor yn gobeithio y bydd ei gynigion brys yn arbed cannoedd o swyddi, yn lleihau oedi a chostau, ac yn sicrhau bod y prosiect yn parhau i fod ar y trywydd iawn gan darfu cyn lleied â phosib.

Ar ôl i ISG Construction Ltd fynd i ddwylo'r gweinyddwyr ar 19 Medi 2024, cymerodd y cyngor gamau ar unwaith i sicrhau'r safle wrth ddatblygu cynlluniau i gael y prosiect ar waith cyn gynted â phosib. Mae'r cyngor wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r gweinyddwr a'r ymgynghorwyr allanol i gyflawni cynllun brys sy'n sicrhau parhad. Prif nodau'r cyngor yw cael gweithwyr yn ôl ar y safle cyn gynted â phosib, sicrhau bod gweithwyr yn cael eu talu am waith a wneir, lleihau oedi, cadw costau i lawr, diogelu swyddi, a diogelu'r gadwyn gyflenwi wrth warchod y buddsoddiad cyhoeddus sydd eisoes wedi ei wneud yn un o brosiectau addysg mwyaf y DU.

Mae'r cyngor bellach yn gweithio ar frys i roi contractau ar waith, yn lle'r rhai presennol, gydag is-gontractwr a oedd wedi bod yn gweithio ar y prosiect. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu trosglwyddo contractau'r is-gontractwr o ISG Construction Ltd i bartner newydd. Bydd y cwmni adeiladu hwn ar waith dros dro hyd nes y gellir cynnal proses dendro lawn i ddod o hyd i gontractwr i ymgymryd â'r safle cyfan a chwblhau'r prosiect. Bydd y broses ail-dendro yn dechrau yn gynnar ym mis Tachwedd.

Bydd gwneud hyn yn galluogi'r cyngor i gynnal cynnydd ar y prosiect heb gyfnod aros estynedig. Byddai peidio â gwneud hyn yn arwain at waith yn dod i ben ar y safle am gyfnod estynedig wrth i broses gaffael lawn gael ei chynnal. Byddai hefyd yn arwain at ddiddymu'r gadwyn gyflenwi, colli swyddi, oedi hwy, a chynnydd sylweddol tebygol yn y gost.    

Er gwaethaf yr heriau, mae'r cyngor yn canolbwyntio ar orffen y prosiect pwysig hwn.   Bydd Campws y Tyllgoed newydd yn cynnig cyfleusterau addysgol o ansawdd uchel, a fydd o fudd i'n cymuned. Bydd y campws yn cynnwys cyfleusterau o'r radd flaenaf ar gyfer Ysgol Uwchradd Cantonian, Ysgol Riverbank, ac Ysgol Uwchradd Woodlands, gan ddarparu amgylcheddau addysgol modern i fyfyrwyr.  

Yn ei gyfarfod ddydd Iau, 17 Hydref, cytunodd Cabinet Cyngor Caerdydd ar y camau gweithredu brys i roi contractau ar waith, yn lle'r rhai ISG presennol, ac i ddechrau ymarfer tendro ar gyfer y gwaith sy'n weddill i gwblhau Campws y Tyllgoed gan darfu cyn lleiaf â phosib.    

Rydym yn gwerthfawrogi cefnogaeth ein trigolion a'n rhanddeiliaid wrth i ni weithio tuag at ddyfodol gwell i system addysg Caerdydd.  

Llinell amser ar gyfer Prosiect Campws y Tyllgoed:

  1. Camau gweithredu ar unwaith (Hydref 2024) 
    • Diogelu'r safle a sicrhau bod mesurau diogelwch ar waith.
    • Cyflogi tîm safle'r ISG yn y byrdymor.  
    • Agor sianeli cyfathrebu gyda'r gadwyn gyflenwi a'r gweinyddwyr.  
    • Parhau i weithio gydag ymgynghorwyr cyfreithiol a masnachol. 

 

  1. Rhoi contractau newydd i Bartner y Gadwyn Gyflenwi (Hydref - Tachwedd 2024)  
    • Rhoi contractau presennol ISG i'r partner newydd.
    • Sicrhau bod gwaith yn parhau ar y safle gyda chwmpas cyfyngedig.  

 

  1. Proses Dendro ar gyfer y Gwaith sy'n Weddill (Tachwedd 2024 - Mawrth 2025)
    • Dechrau'r ymarfer tendro ar gyfer y gwaith sy'n weddill.
    • Gwerthuso ceisiadau a dewis prif gontractwr newydd.  

 

  1. Ailddechrau'r Gwaith sy'n Weddill (Mawrth 2025)
    • Prif gontractwr newydd yn ymgymryd â'r prosiect. 
    • Gwaith adeiladu ar raddfa lawn yn ailddechrau ar y safle.

 

  1. Cwblhau Cerrig Milltir Allweddol (2025 - 2027) 
    • Chwefror 2027 (camau yn gynt os yn bosib)
    • Arolygiadau terfynol a throsglwyddo. 

 

Nod y llinell amser hon yw sicrhau bod y prosiect yn datblygu'n esmwyth ac yn cael ei gwblhau gyda chyn lleied o darfu â phosib, yn diogelu swyddi, ac yn cynnal ansawdd y cyfleusterau addysgol.