Back
Hybiau a Llyfrgelloedd yn cefnogi gwasanaeth profi STI cymunedol
16/10/24

Mae hybiau a llyfrgelloedd ledled Caerdydd yn cefnogi'r gwaith o gynnal gwasanaeth Profi a Phostio GIG Cymru, gan roi mynediad cyflym a hawdd i becynnau hunansamplu ar gyfer heintiau a drosglwyddir yn rhywiol.

 

Bydd aelodau'r cyhoedd yn gallu ymweld ag unrhyw hyb neu lyfrgell ar draws y ddinas a gofyn am becyn prawf am ddim ar gyfer ystod o heintiau, gan gynnwys clamydia a Gonorea, HIV, Syffilis, Hepatitis B, a Hepatitis C.

 

Mae'r fenter yn ceisio helpu pobl y mae'n well ganddynt beidio ag ymweld â lleoliad gofal iechyd i gael eu profi, y rhai nad oes ganddynt fynediad digidol i brynu hunan-brofion ar-lein, unigolion heb gyfeiriad sefydlog ac ymwelwyr â'r ddinas.

 

Bydd taflenni gwybodaeth am y ffurflenni cais am wasanaeth a phecyn, y gall cwsmeriaid sydd angen pecyn prawf eu cwblhau a'u trosglwyddo i staff os yw'n well ganddynt beidio â gofyn, ar gael ym mhob hyb a llyfrgell.

Mae pecynnau profion yn cynnwys popeth sydd ei angen i gymryd samplau ac ar ôl eu cwblhau gartref neu mewn lleoliad preifat arall, gellir selio'r rhain ac yna eu postio mewn pecynnau dienw, parod i labordy i'w dadansoddi.

 

Yna dychwelir y canlyniadau i unigolion o fewn tair wythnos drwy neges destun os ydynt yn negyddol. Bydd y gwasanaeth iechyd rhywiol lleol yn cysylltu â'r unigolyn i drefnu triniaeth a gofal am ddim a chyfrinachol os yw canlyniad y prawf yn bositif.

 

Dywedodd Julie Sangani, yr Aelod Cabinet dros Iechyd y Cyhoedd a Chydraddoldeb: "Mae ffocws cryf ar fentrau iechyd a lles yn ein hybiau a'n llyfrgelloedd felly rydym yn falch o fod yn darparu'r gwasanaeth profi STI cymunedol hwn mewn partneriaeth â'r tîm iechyd rhywiol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, gwasanaethau iechyd rhywiol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Llwybrau Carlam Caerdydd a’r Fro.

 

"Mae yna amryw o resymau pam y byddai'n well gan rywun gasglu pecyn hunansamplu o gyfleuster cymunedol yn hytrach na mynd i glinig neu dderbyn pecyn profi i'w cyfeiriad cartref felly mae hwn yn wasanaeth cyfrin a chyfleus i aelodau'r cyhoedd."