Back
Cymorth i drigolion hŷn hawlio Credyd Pensiwn


16/10/24

Mae tîm Cyngor ar Arian Cyngor Caerdydd yn annog pobl hŷn yn y ddinas, i wirio a ydyn nhw'n gymwys i hawlio Credyd Pensiwn.

Mae Credyd Pensiwn yn fudd-dal gwerthfawr, sy'n werth £2,677 y flwyddyn ar gyfartaledd i bobl gymwys o oedran Pensiwn y Wladwriaeth.  Mae ar gael i hawlwyr cymwys hyd yn oed os oes ganddynt incwm neu gynilion eraill neu os ydynt yn berchen ar eu cartref eu hunain.  

Er hynny, mae gwerth mwy na £12.3m o Gredyd Pensiwn yn peidio â chael ei hawlio yng Nghaerdydd, gydag amcangyfrif o 4,300 o hawliadau wedi'u methu yn y ddinas.

Mae ein tîm Cyngor Ariannol yn annog unrhyw un sy'n ansicr a ydynt yn gymwys i gysylltu cyn gynted â phosibl.  Gall y tîm wirio a oes gan berson hawl i Gredyd Pensiwn, yn ogystal â helpu i sicrhau nad yw preswylwyr yn colli allan ar unrhyw fudd-daliadau neu ostyngiadau eraill a allai helpu i wneud y mwyaf o'u hincwm.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Bradbury, yr Aelod Cabinet dros Drechu Tlodi a Chefnogi Pobl Ifanc: “Mae’r swm o £12m nad yw’n cael ei hawlio yng Nghaerdydd yn un enfawr.  Gallai hawlio Credyd Pensiwn wneud cymaint o wahaniaeth i gynifer o bobl hŷn y ddinas, felly rydym yn gwneud ein gorau i wneud pobl yn ymwybodol a'u hannog i adael i ni wirio ar eu rhan a allant hawlio."

Yn ogystal â darparu incwm ychwanegol, mae hawlio Credyd Pensiwn hefyd yn datgloi ystod o gymorth arall i hawlwyr a allai olygu tua £10,000 y flwyddyn, fesul person.  Mae hyn yn cynnwys help gyda biliau gwresogi, costau tai, biliau'r dreth gyngor, a'r drwydded deledu.

Aeth y Cynghorydd Bradbury yn ei flaen i ddweud: "Mae newidiadau i'r cynllun talu tanwydd gaeaf eleni yn golygu bod angen i bensiynwyr cymwys fod yn hawlio Credyd Pensiwn er mwyn gallu cael taliad tanwydd y gaeaf o hyd at £300, felly mae'n hanfodol bod pobl yn cysylltu â ni yn fuan iawn, fel nad ydyn nhw'n colli allan."

I fod yn gymwys ar gyfer taliad Tanwydd y Gaeaf, mae angen i bobl gymwys wneud cais am Gredyd Pensiwn cyn 21 Rhagfyr 2024. 

Mae'r tîm Cyngor Ariannol ar gael chwe diwrnod yr wythnos yn Hyb y Llyfrgell Ganolog ac mewn cymorthfeydd allgymorth mewn hybiau cymunedol ledled y ddinas drwy gydol yr wythnos. Gallwch weld pryd y byddan nhw yn ymweld â'ch hyb leol yma: https://www.cardiffmoneyadvice.co.uk/cy/cysylltu/

ffonio 029 2087 1071 neu e-bostio hybcynghori@caerdydd.gov.uk