Back
Swyddfeydd Craidd - Holi ac Ateb

16/10/24

Pam mae adeilad Neuadd y Sir newydd yn cael ei ystyried?

Mae adeilad presennol Neuadd y Sir yn llawer mwy na'r hyn sydd ei angen ar y Cyngor ar hyn o bryd. Ar hyn o bryd mae gan y Cyngor 277,000 troedfedd sgwâr o ofod swyddfa graidd, ond dim ond 100,000 troedfedd sgwâr sydd ei angen.

Mae gan adeilad presennol Neuadd y Sir broblemau cynnal a chadw sylweddol. Mae'r systemau mecanyddol, trydanol ac awyru ar ddiwedd eu hoes weithredol, ac felly mae'r adeilad yn ddrud i'w gynnal. Mae'r atebolrwydd cynnal a chadw cyffredinol yn anfforddiadwy.

 

Beth am adnewyddu adeilad presennol Neuadd y Sir yn hytrach nag adeiladu adeilad newydd?

Mae'r gost o adnewyddu Neuadd y Sir i fodloni safonau modern yn uchel iawn. Mae'r gost amcangyfrifedig ar gyfer ailwampio'r adeilad yn gyfan gwbl yn fwy na £100 miliwn, sy'n llawer mwy costus nag adeiladu swyddfa newydd. Hefyd, mae costau rhedeg yr adeilad presennol yn uchel oherwydd ei faint a'i aneffeithlonrwydd, ac mae'r adeilad yn llawer mwy nag sydd ei angen ar y Cyngor.

 

Os yw'r adeilad presennol yn fwy na'r angen, beth am ddefnyddio rhan o Neuadd y Sir bresennol a rhentu'r gweddill?

Dim ond drwy gadw'r adeiniau swyddfa a'r creiddiau grisiau presennol y gellir cadw'r adeilad. Byddai cadw 2 o'r 4 adain yn dal i arwain at ardal sylweddol fwy nag sydd ei angen ar y Cyngor.

Byddai'r buddsoddiad cyfalaf sydd ei angen ar gyfer adnewyddu'r adeiladu yn rhannol, gan gynnwys cadw'r adeiniau gogleddol a dwyreiniol, tri chraidd a'r ystafelloedd pwyllgor, yn dal yn sylweddol uwch na chost adeilad newydd. Yn ogystal, byddai'r costau rhedeg parhaus ar gyfer adeilad a gadwyd yn rhannol yn uwch na'r costau ar gyfer adeilad newydd, mwy effeithlon.

Oherwydd graddau'r gwaith adnewyddu sydd ei angen, a'r ffaith y byddai'r adeilad yn dal i fod yn llawer mwy na'r hyn sydd ei angen, byddai budd carbon adnewyddu'r adeilad yn rhannol yn ddibwys. Byddai gan yr adeilad yr un cyfyngiadau gweithredol â'r adeilad presennol hefyd o'i gymharu ag adeilad newydd a byddai aflonyddwch sylweddol tra bod y gwaith yn mynd rhagddo. 

O ystyried cost adnewyddu, mae'n annhebygol y byddai'r Cyngor yn dod o hyd i denant i feddiannu'r gofod dros ben oherwydd byddai'r rhent y byddai angen ei godi i dalu'r costau hyn yn llawer uwch na'r rhenti uchaf sy'n cael eu talu yng Nghaerdydd ar hyn o bryd. Yn debyg i'r Cyngor, gallai darpar denant gael adeilad newydd modern sy'n addas i'r diben, a hynny'n rhatach. 


Beth am adnewyddu a defnyddio'r gofod swyddfa yn Neuadd y Ddinas?

Canfuwyd bod cost adnewyddu swyddfa Neuadd y Ddinas i fodloni safonau Gradd A ac i gydymffurfio â strategaeth Caerdydd Un Blaned fwy na dwbl cost adeiladu gofod swyddfa newydd. Byddai hyd yn oed adnewyddu'r swyddfeydd i'r graddau lleiaf er mwyn gallu eu defnyddio yn y tymor byr yn costio swm tebyg i adeiladu gofod newydd sbon, ond dim ond hyd oes byr fyddai ganddynt cyn bod angen cynnal gwaith ychwanegol sylweddol.

Byddai defnyddio Neuadd y Ddinas i ddiwallu anghenion swyddfa'r Cyngor cyfan yn gofyn am ddefnyddio'r adeilad cyfan gan gynnwys y gofod digwyddiadau nad yw wedi'i ffurfweddu'n briodol ar gyfer llety swyddfa. Ystyriodd y Cyngor ddefnyddio'r gofod swyddfa presennol o dua 35,000 troedfedd sgwâr yn Neuadd y Ddinas fel ffordd o ostwng faint o ofod swyddfa newydd oedd ei angen, ond roedd hyn hefyd yn cael ei ystyried yn rhy ddrud o gymharu ag adeiladu o'r newydd.

 

Beth yw'r cynlluniau ar gyfer defnyddio Neuadd y Ddinas yn y dyfodol, felly?

Bydd blaen Neuadd y Ddinas, sy'n Lleoliad Digwyddiadau, yn ailagor ar ôl cwblhau'r gwaith cynnal a chadw presennol ym mis Ionawr 2026.

Mae'r rhan fwyaf o'r swyddfeydd yn Neuadd y Ddinas wedi bod yn segur am gyfnod hir oherwydd y gwaith adnewyddu sydd ei angen. Mae'r Cyngor yn parhau i fod yn ymrwymedig i sicrhau'r defnydd hirdymor llawn o Neuadd y Ddinas a bydd yn parhau i weithio i sicrhau cyllid i uwchraddio'r hen ardal swyddfa fel y gellir ei defnyddio yn y dyfodol. Mae gwaith bellach wedi dechrau i archwilio defnyddiau posibl yn y dyfodol a bydd hyn yn cael ei adrodd yn ôl i'r Cabinet maes o law.

 

Beth am effaith amgylcheddol adeiladu Neuadd y Sir newydd a pheidio ag adnewyddu'r un presennol?

Mae'n anochel y bydd effaith yn sgil y gwaith sy'n gysylltiedig ag adeiladu adeilad newydd. Fodd bynnag, gan fod yr adeilad newydd yn sylweddol llai na'r gwaith o adnewyddu Neuadd y Sir, ac oherwydd y byddai adnewyddu Neuadd y Sir yn gofyn am ailadeiladu'r adeilad bron yn gyfan gwbl i fodloni Rheoliadau Adeiladu, gan gadw dim ond y sylfeini a'r ffrâm adeiladu, byddai'r adeilad newydd yn dal i gael llai o effaith ymlaen llaw.

Bydd yr adeilad swyddfa newydd hefyd yn sero net o ran gweithgarwch gweithredol, gan gyd-fynd ag ymrwymiadau Caerdydd Un Blaned a dyheadau sero net y Cyngor.

Wrth ystyried effaith prosiectau adeiladu, y dull a dderbynnir yw edrych ar effaith dros gyfnod o 60 mlynedd, a elwir yn Garbon Gydol Oes, gan ystyried y carbon ymlaen llaw ochr yn ochr â'r effaith weithredol flynyddol.

Byddai'r opsiwn i gael adeilad newydd yn cael yr effaith Carbon Gydol Oes leiaf oherwydd byddai'n llai ac yn fwy effeithlon i'w weithredu nag adnewyddu'r adeilad presennol. Bydd yr adeilad newydd yn arbed tua 26,230 tunnell o CO2 yn gyffredinol o gymharu ag adnewyddu'r adeilad presennol, yn ôl y rhagamcanion.

 

Sut gall adeiladu adeilad newydd fod yr opsiwn rhataf?

Mae'r gost o adnewyddu adeilad presennol Neuadd y Sir i fodloni safonau modern yn uchel iawn. Mae'r gost amcangyfrifedig ar gyfer adnewyddu'r adeilad yn llawn dros £100 miliwn. Mae hyn yn cynnwys mynd i'r afael â materion cynnal a chadw sylweddol, uwchraddio systemau mecanyddol, trydanol ac awyru, a sicrhau cydymffurfiaeth â Rheoliadau Adeiladu modern. I'r gwrthwyneb, mae'r gost o adeiladu adeilad newydd yn hanner hynny. Mae'r adeilad presennol fwy na 2.5 gwaith maint yr adeilad newydd arfaethedig.

Bydd yr adeilad newydd yn cael ei ddylunio i fod yn effeithlon iawn o ran ynni, gan ymgorffori inswleiddio a system gwresogi, oeri ac awyru modern. Bydd hyn yn lleihau'r ôl troed carbon gweithredol a'r costau rhedeg yn sylweddol o'i gymharu â'r adeilad presennol hyd yn oed pe bai'n cael ei adnewyddu. Bydd yn rhaid i adeilad sydd 2.5 gwaith yn fwy dalu llawer mwy o drethi, er enghraifft, ac mae hynny'n rhan fawr o'r costau rhedeg blynyddol.

 

Beth am symud i swyddfa sy'n bodoli eisoes yn rhywle arall yng Nghaerdydd?

Nid oes gofod swyddfa presennol ar gael yng Nghaerdydd sy'n bodloni gofynion y Cyngor.  Felly, dim ond fel opsiwn tymor byr y gellid ystyried symud i adeilad swyddfa sy'n bodoli eisoes mewn mannau eraill yng Nghaerdydd. Er mwyn ei wneud yn opsiwn hirdymor, byddai angen cynnal gwaith uwchraddio tebyg i adeilad presennol Neuadd y Sir a byddai hyn yn ddrud. 

Fel opsiwn tymor byr, byddai'n dal i gostio swm tebyg i adeiladu adeilad newydd, heb fanteision adeilad newydd pwrpasol. Y rheswm am hyn yw y byddai costau rhedeg yn dal i fod yn sylweddol uwch nag adeilad newydd a byddai angen talu rhent, a fyddai hefyd yn destun chwyddiant. Ar yr un pryd, byddai mewn gwirionedd yn oedi'r penderfyniad i adeiladu o'r newydd ac yn anochel byddai'n cynyddu cost yr ateb hirdymor oherwydd effaith chwyddiant. Er enghraifft, amcangyfrifir bod oedi o bum mlynedd i'r prosiect adeiladu newydd presennol yn cynyddu'r gost gyfalaf gan oddeutu £15m.  Mae hynny'n cyfateb i £3m yn ychwanegol y flwyddyn dros 5 mlynedd.

Mae'r penderfyniad i adeiladu Neuadd y Sir newydd hefyd yn rhan o strategaeth ehangach i adfywio Bae Caerdydd. Mae'r adeilad swyddfa newydd yn rhan allweddol o gynllun adfywio Glanfa'r Iwerydd, sy'n ceisio ysgogi buddsoddiad ehangach yn y sector preifat yn yr ardal.

 

Faint o arian fydd yn cael ei arbed drwy symud i adeilad Neuadd y Sir newydd?

Amcangyfrifir bod y gost o adnewyddu adeilad presennol Neuadd y Sir i fodloni safonau modern dros £100 miliwn. Ar y llaw arall, mae cost adeiladu adeilad newydd yn sylweddol is. Rhagwelir y bydd y buddsoddiad cyfalaf yn dod i hanner y swm hwnnw..

Bydd yr adeilad newydd yn cael ei ddylunio i fod yn effeithlon iawn o ran ynni, gan ymgorffori inswleiddio a system gwresogi, oeri ac awyru modern. Bydd hyn yn lleihau'r ôl troed carbon gweithredol a'r costau rhedeg yn sylweddol o'i gymharu â'r adeilad presennol. Rhagwelir y bydd y costau rhedeg yr adeilad newydd yn hanner costau rhedeg adeilad Neuadd y Sir wedi'i adnewyddu.

 

Beth yw manteision economaidd adeiladu adeilad Neuadd y Sir newydd i'r ardal ehangach?

Mae adeilad Neuadd y Sir newyddyn elfen allweddol o gynllun adfywio Glanfa'r Iwerydd, sy'n ceisio ysgogi buddsoddiad ehangach yn y sector preifat yn yr ardal.

Byddai'r penderfyniad i adeiladu swyddfa Cyngor newydd fel rhan o leoliad arfaethedig Caerdydd Fyw yn bleidlais fawr o hyder yn y safle a ddylai weithredu fel catalydd ar gyfer buddsoddiad sector preifat yng nghynllun adfywio Glanfa'r Iwerydd ac ardal ehangach Bae Caerdydd, gan ddenu busnesau, preswylwyr ac ymwelwyr newydd.

Mae cyfle hefyd i edrych ar dai cymdeithasol a allai helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng tai.