Back
Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol yn tynnu sylw at gynnydd sylweddol yng nghanol heriau parhaus

16/10/24 

Mae Adroddiad Blynyddol Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Caerdydd ar gyfer 2023/24 wedi amlinellu cynnydd sylweddol ar draws meysydd allweddol er gwaethaf y galw mawr am wasanaethau a heriau cymhleth drwy gydol y flwyddyn ddiwethaf.

Mae'r adroddiad yn dangos ymrwymiad parhaus y Cyngor i wella bywydau preswylwyr, gyda chyflawniadau nodedig yn y Gwasanaethau Plant ac Oedolion.

Ymhlith yr uchafbwyntiau allweddol mae gweithredu'r Strategaeth Llety o fewn y Gwasanaethau Plant yn llwyddiannus, sydd wedi gwella digonolrwydd lleoliadau. Yn y Gwasanaethau Oedolion, mae cyflwyno'r Strategaeth Heneiddio'n Dda yn parhau ac wedi sicrhau canlyniadau cadarnhaol i breswylwyr hŷn, gydag ystod gynyddol o weithgareddau lles cymunedol ar gael.

Er gwaethaf galwparhaus am wasanaethau,pwysau cyllidebol a chymhlethdod cynyddol o ran anghenion, mae'r adroddiad yn tynnu sylw at sawl cyflawniad pwysig arall, gan gynnwys:

Gwasanaethau Plant

  • Ehangu darpariaeth Cymorth i Deuluoedd i gynnwys cymorth y tu allan i oriau
  • Ffurflen atgyfeirio a phroses gofrestru Cymorth Cynnar ar-lein newydd ar gyfer mynediad cyflymach i wybodaeth, cyngor a chymorth
  • Caerdydd wedi'i henwi'n ddinas gyntaf y DU sy'n dda i blant gan atgyfnerthu'r uchelgais a'r ymrwymiad i blant a phobl ifanc ar draws y ddinas

 

Gwasanaethau Oedolion

  • Cynhaliodd Hybiau Cymunedol 1,514 o ddigwyddiadau i gefnogi pobl i aros yn gysylltiedig ac yn gymdeithasol, gyda 16,779 o gyfranogwyr yn cymryd rhan
  • Darparodd ein Hybiau Gofal 7,599 o sesiynau gofal dydd yn ystod y flwyddyn, gyda 45,270 awr o ofal yn cael eu darparu.
  • Ar gyfartaledd rhoddwyd gofal i 44 o bobl bob wythnos ar ôl iddynt gael eu rhyddhau o'r ysbyty
  • Agorodd fflatiau Cynllun Byw yn y Gymuned Addison House ar gyfer preswylwyr hŷn sy'n hyrwyddo byw'n annibynnol, y cyntaf o 10 sy'n cael eu darparu drwy'r rhaglen
  • Cafodd 177 o ddinasyddion fynediad i'r Gwasanaeth Mentoriaid Lles a weithredir gan ein Gwasanaeth Hybiau Cymunedol

 

Gwasanaethau Cymdeithasol

  • Mae 93,836 o brydau bwyd wedi'u dosbarthu gan Pryd ar Glud trwy gydol y flwyddyn
  • Mae 1,366 o bobl wedi cofrestru gydag Academi Gofalwyr Caerdydd ers mis Hydref 2021, gyda 93 o ofalwyr newydd yn cael eu helpu i gael swydd yn 2023-24

 

Wrth sôn am yr adroddiad, dywedodd y Cynghorydd Ash Lister, yr Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Cymdeithasol, sy'n ymwneud â'r Gwasanaethau Plant: "Mae'r cynnydd anhygoel sydd wedi'i wneud er gwaethaf heriau parhaus yn dyst i'n holl staff a'n partneriaid am eu gwaith anhygoel parhaus wrth gefnogi'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein dinas."

"Mae symud cydbwysedd gofal yn parhau i fod yn nod i ni ac rydym yn canolbwyntio ein hymdrechion i sicrhau bod y gwasanaethau cywir yn cael eu darparu gan y bobl iawn ar yr adeg iawn, fel bod pob unigolyn yn ein cymuned yn derbyn y gofal y maen nhw'n ei haeddu."

Ychwanegodd y Cynghorydd Leonora Thomson, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Wasanaethau Oedolion: "Mae'r adroddiad eleni yn adlewyrchu ymroddiad a gwydnwch ein timau a'n darparwyr gofal a gomisiynwyd wrth ddarparu gofal a chymorth o ansawdd uchel i bobl Caerdydd. Er gwaethaf wynebuheriau cyllidebol ac adnoddau parhaus, rydym wedi parhau i wneud cynnydd o ran darparu gwasanaethau a strategaethau hanfodol sy'n gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl. Mae'r Cyngor yn parhau i ganolbwyntio ar wella ei wasanaethau ymhellach, gan weithio i fodloni gofynion cynyddol a sicrhau bod gan bob preswylydd fynediad i'r cymorth sydd ei angen arno/arni."

Trafodwyd yr adroddiad yng nghyfarfod pwyllgor Cabinet y Cyngor heddiw. Mae'r adroddiad llawn ar gael i'w ddarllenyma