Back
Hybiau a llyfrgelloedd yn cynnig croeso cynnes unwaith eto

15/10/24
 
Mae mannau Croeso Cynnes ar y ffordd yn ôl yn hybiau a llyfrgelloedd Caerdydd eto eleni i helpu cwsmeriaid sy'n poeni am gostau gwresogi eu cartrefi eu hunain.

Wrth i'r tywydd oeri, o ddydd Llun 21 Hydref, bydd ein hybiau a'n llyfrgelloedd unwaith eto yn cynnig croeso cynnes i gwsmeriaid, gan gynnig amgylchedd diogel a chynnes lle gallant gwrdd ag eraill i sgwrsio, darllen llyfr, manteisio ar wasanaethau a chael gwybod am y cymorth sydd ar gael.

Dyma drydedd flwyddyn y fenter, sy'n ceisio helpu unrhyw un yn y ddinas sy'n poeni am gostau byw, gan gynnwys prisiau ynni, dros y misoedd oerach.

Mae croeso i bobl alw heibio i unrhyw un o hybiau neu lyfrgelloedd y ddinas yn ystod eu horiau agor arferol. Ewch i https://hybiaucaerdydd.co.uk/ am fanylion. Bydd lluniaeth poeth ar gael hefyd ond mae'r amserau'n amrywio o leoliad i leoliad.

Yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cyng. Lee Bridgeman: "Mae ein mannau Croeso Cynnes wedi cael croeso da iawn eu hunain gan gwsmeriaid dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac wrth i amseroedd barhau i fod yn anodd i lawer wrth fynd i mewn i'r gaeaf hwn, rydym am estyn y croeso hwnnw am flwyddyn arall.

 

"Mae ein hybiau a'n llyfrgelloedd yn fannau cymunedol gwych, gan gynnig ystod eang o gymorth i breswylwyr. Bydd ein timau cyfeillgar wrth law i gynnig cymaint o gyngor a chymorth  i unrhyw un sy'n dod i'r mannau croeso cynnes."

Mae ystod eang o gyngor a chymorth ar gael mewn hybiau ledled y ddinas, o dai, hawlio budd-daliadau gan gynnwys Credyd Pensiwn, cymorth â dyledion, gwybodaeth am grantiau a gostyngiadau a llawer mwy.  Gall unrhyw un sy'n chwilio am gymorth gysylltu â thîm Cyngor Ariannol y Cyngor hefyd ar 029 2087 1071 neu e-bostio hybcynghori@caerdydd.gov.uk

Ewch i www.cyngorariannolcaerdydd.co.uk