Back
Y newyddion gennym ni - 14/10/24

Image

11/10/24 - Cyngor Caerdydd yn Wynebu Heriau Cyllidebol gyda Chostau a Galw Cynyddol

Mae Cyngor Caerdydd yn wynebu heriau cyllidebol sylweddol bedwar mis yn unig i mewn i flwyddyn ariannol 2024/25. Mae adroddiad monitro diweddaraf y gyllideb yn datgelu gorwariant blynyddol net rhagamcanol o £8.865 miliwn ar ddiwedd mis Gorffennaf 2024.

Darllenwch fwy yma

 

Image

11/10/24 - Gallwch brofi 'Under Neon Loneliness' yn ystod Gŵyl Gerdd Caerdydd

Yn sefyll yn uchel yng nghanol dinas Caerdydd mae cynhwysydd llongau du dirgel. Yr unig arwydd o'r hyn sydd y tu mewn yw'r geiriau llachar 'Under Neon Loneliness.'

Darllenwch fwy yma

 

Image

11/10/24 - Adeiladu Maes Parcio Aml-lawr newydd ym Mae Caerdydd

Mae'r dyluniad manwl bellach wedi'i gwblhau ar gyfer y maes parcio aml-lawr newydd arfaethedig yng Nglanfa'r Iwerydd, a fydd yn golygu creu'r un nifer o leoedd parcio ceir â'r maes parcio presennol, ond ar ardal lawer llai er mwyn gallu adfywio'r safle.

Darllenwch fwy yma

 

Image

11/10/24 - Mae'r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn cynnig buddion sylweddol i gymunedau ledled Caerdydd

Mae dros 100 o sefydliadau yng Nghaerdydd wedi elwa o'r Gronfa Ffyniant Gyffredin yng Nghaerdydd.

Darllenwch fwy yma

 

Image

09/10/24 - Adfer perl bensaernïol yn nghanol dinas Caerdydd yn agosáu

Gallai un o adeiladau gorau Caerdydd weld bywyd o'r newydd ar ôl bod yn wag am dros flwyddyn, os yw Cyngor Caerdydd yn cytuno ar becyn benthyciadau ariannol i dalu am gostau adnewyddu.

Darllenwch fwy yma

 

Image

09/10/24 - "Dim ond dros dro yw hwn, ond mae'n teimlo fel cartref am nawr."

Mae teuluoedd Caerdydd sy'n mynd trwy'r profiad gofidus o fod yn ddigartref wedi disgrifio sut mae cynllun tai modiwlar newydd y Cyngor yn Grangetown yn darparu amgylchedd diogel a chefnogol yn eu cyfnod o angen.

Darllenwch fwy yma

 

Image

08/10/24 - A Allwn Ni Apelio Atoch Chi?

Ar hyn o bryd mae'r Cyngor yn recriwtio aelodau newydd i ymuno â'i banel Apeliadau Annibynnol Derbyn i Ysgolion.

Darllenwch fwy yma

 

Image

08/10/24 - Datblygiad cartrefi arloesol y dyfodol wedi'i gwblhau

Mae gwaith i drawsnewid hen safle ysgol uwchradd yn nwyrain y ddinas i fod yn lleoliad mwy na 200 o gartrefi newydd i Gaerdydd bellach wedi'i gwblhau.

Darllenwch fwy yma

 

Image

07/10/24 - Cyngor Caerdydd i gefnogi gosod hyd at 100 o wefrwyr cerbydau trydan newydd yn ystod y ddwy flynedd nesaf

Gallai hyd at 100 o fannau gwefru cerbydau trydan newydd gael eu gosod gyda chymorth Cyngor Caerdydd dros y ddwy flynedd nesaf.

Darllenwch fwy yma