Back
Y Diweddariad: 11 Hydref 2024

Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, sy'n cynnwys:

  • Cartrefi modiwlaidd yn creu "amgylchedd diogel a chefnogol"
  • Mae'r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn cynnig buddion sylweddol i gymunedau ledled Caerdydd
  • Cyngor Caerdydd yn Wynebu Heriau Cyllidebol gyda Chostau a Galw Cynyddol
  • Gallwch brofi 'Under Neon Loneliness' yn ystod Gŵyl Gerdd Caerdydd

 

Cartrefi modiwlaidd yn creu "amgylchedd diogel a chefnogol"

Mae teuluoedd Caerdydd sy'n mynd trwy'r profiad gofidus o fod yn ddigartref wedi disgrifio sut mae cynllun tai modiwlar newydd y Cyngor yn Grangetown yn darparu amgylchedd diogel a chefnogol yn eu cyfnod o angen.

Mae'r datblygiad arloesol, Ffordd y Rhaffau, ar safle'r hen waith nwy ar Heol y Fferi yn darparu llety dros dro i 154 o deuluoedd tra bod y Cyngor yn gweithio gyda nhw i ddod o hyd i ateb tai mwy parhaol.

Wedi'u hadeiladu oddi ar y safle gan ddefnyddio dulliau adeiladu modern (DAM) a'u gostwng i'w safle terfynol ar y safle gyda'r holl waith sylfaen wedi'i gwblhau gan y datblygwr cenedlaethol, Wates Group, mae'r unedau olaf ar y datblygiad o gartrefi ynni-effeithlon iawn ag un i bedair ystafell wely wedi'u trosglwyddo i'r Cyngor yr wythnos hon.

Yn fuan iawn, bydd teuluoedd newydd yn symud i'r cartrefi newydd ar y safle, sydd hefyd yn cynnwys canolfan gymunedol lle mae amrywiaeth o wasanaethau a gweithgareddau cymorth gan y Cyngor a phartneriaid yn cael eu darparu ar gyfer preswylwyr.

Mae'r preswylydd presennol, Sophie, mam i ddau o blant ifanc, wedi bod yn byw yn Ffordd y Rhaffau ers deufis. Dywedodd:  "Mae'r llety'n hyfryd. Roedden ni mewn gwesty o'r blaen ac roedd pawb yn byw mewn ystafell gyfyngedig yn peri cryn dipyn o straen.

"Ond mae'n hyfryd yma, mae gennych chi eich annibyniaeth eich hun ond os oes angen help arnoch chi, mae'r staff yma i helpu trwy'r amser.

"Mae'n gymuned neis yma. Mae llawer yn digwydd bob amser. Mae'r ganolfan gymunedol yn wych i'r plant, mae'n amgylchedd braf.

"Dim ond dros dro yw hwn, ond mae'n teimlo fel cartref am nawr.  Fyddwn ni ddim yma am byth, ond mae'n braf bod yma am y tro."

Darllenwch fwy yma

 

Mae'r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn cynnig buddion sylweddol i gymunedau ledled Caerdydd

Mae dros 100 o sefydliadau yng Nghaerdydd wedi elwa o'r Gronfa Ffyniant Gyffredin yng Nghaerdydd. Cafodd y cynllun, a ariannwyd gan Lywodraeth y DU, ei roi ar waith ym mis Ebrill 2022 fel cyllid newydd i'r Rhaglen Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd ar ôl i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd.

Yna dyrannwyd cyllid i ranbarth De-ddwyrain Cymru ym mis Rhagfyr 2022, gyda dwy flynedd o gyllid wedi'i osod ar gyfer 2023/24 a 2024/25. Gwnaeth y cynghorau dan sylw osod y trefniadau llywodraethu angenrheidiol i weinyddu'r cynllun.

Yng Nghaerdydd, sefydlwyd meini prawf y gronfa yn unol â Strategaeth Cryfach, Tecach, Gwyrddach Caerdydd, gydag wyth cynllun grant ar wahân wedi'u sefydlu. Dyrannwyd y pot mwyaf o arian i gynllun 'galwad agored' gyda £5m ar gael, gan roi cyfle i grwpiau cymunedol, busnesau, mentrau a phartneriaethau ledled y ddinas wneud cais am gyllid grant. Rhydd adroddiad i Gabinet Cyngor Caerdydd ar 17 Hydref gipolwg ar y cynnydd a wnaed ers i'r cynllun ddechrau.

Meddai Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas: "Bydd y prosiectau llwyddiannus sydd wedi derbyn cyllid hyd yma yn cael effaith gadarnhaol ar economi leol Caerdydd, yn rhoi hyfforddiant a chymorth i bobl ifanc, a gwella lles cymunedol mewn rhannau o'r ddinas. Gwyddom y bydd llawer mwy yn cael ei gyflawni eleni o gynlluniau sydd wedi bod yn llwyddiannus yn eu ceisiadau am gyllid ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol. Yr hyn sydd wedi bod yn bwysig gyda'r cynllun hwn yw cael arian allan i'n cymunedau cyn gynted ag y byddwn wedi gallu gwneud hynny.

"Dydyn ni dal ddim yn gwybod beth yw'r trefniadau ariannu ar gyfer y flwyddyn nesaf - neu yn wir os oes unrhyw rai - ond mae'r cyllid yma'n hanfodol i gynnal rhywfaint o'r gwaith a wneir gan y Cyngor a sefydliadau'r trydydd sector, felly mae'n hanfodol i bobl a busnesau Caerdydd.

"Mae'n bwysig bod Caerdydd a'r rhanbarth ehangach yn cael setliad teg o ba gynllun olynol bynnag a fydd yn digwydd, i wneud yn iawn am golli cyllid gan yr Undeb Ewropeaidd, ac mae'n bwysig bod penderfyniad lleol yn y modd y caiff y cyllid hwnnw ei wario."

Darllenwch fwy yma

 

Cyngor Caerdydd yn Wynebu Heriau Cyllidebol gyda Chostau a Galw Cynyddol

Mae Cyngor Caerdydd yn wynebu heriau cyllidebol sylweddol bedwar mis yn unig i mewn i flwyddyn ariannol 2024/25.  Mae adroddiad monitro diweddaraf y gyllideb yn datgelu gorwariant blynyddol net rhagamcanol o £8.865 miliwn ar ddiwedd mis Gorffennaf 2024.  Cyfuniad o gostau cynyddol, galw cynyddol am wasanaethau, a chyfyngiadau cyllidebol sy'n sail i'r gorwariant hwn.

Gofynnir i Gabinet y Cyngor ystyried mesurau i fynd i'r afael â'r pwysau ariannol yma yn ei gyfarfod ddydd Iau, 17 Hydref. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at yr anawsterau y mae'r Cyngor yn eu hwynebu, gan gynnwys diffygion incwm, costau daliant heb eu cyllidebu, a phwysau mewn meysydd gwasanaeth amrywiol.

Mae'r pwyntiau allweddol o'r adroddiad yn cynnwys:

Datblygu Economaidd

Gorwariant rhagamcanol o £1.65 miliwn oherwydd diffygion incwm ar gyfer Digwyddiadau ac Arlwyo Neuadd y Ddinas, costau daliant heb eu cyllidebu yn Neuadd Dewi Sant, a phwysau o fewn Gwasanaethau Eiddo a Phrosiectau Mawr.

Addysg

Gorwariant rhagamcanol o £4 miliwn, yn bennaf o ganlyniad i bwysau o ran y galw a phrisiau o fewn Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol a chostau ychwanegol ar gyfer lleoliadau ADY.

Gwasanaethau Plant

Gorwariant rhagamcanol o £5 miliwn yn bennaf oherwydd lleoliadau allanol a chostau cynyddol o fewn pecynnau IAAP.

Er gwaethaf yr heriau hyn, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gymryd camau i leihau gorwariant a gwella'r sefyllfa ariannol gyffredinol.  Mae camau lliniaru yn cael eu rhoi ar waith, gan gynnwys defnyddio cronfeydd hapddigwyddiadau a chronfeydd wrth gefn clustnodedig. Mae'r Cyngor hefyd yn archwilio cyfleoedd i gyflawni arbedion effeithlonrwydd yn ystod y flwyddyn a mesurau gwario rheoledig i liniaru sefyllfa'r llinell isaf.

Darllenwch fwy yma

 

Gallwch brofi 'Under Neon Loneliness' yn ystod Gŵyl Gerdd Caerdydd

Yn sefyll yn uchel yng nghanol dinas Caerdydd mae cynhwysydd llongau du dirgel. Yr unig arwydd o'r hyn sydd y tu mewn yw'r geiriau llachar 'Under Neon Loneliness.'

I lawer, mae'r tri gair hynny'n dod ag atgofion o gân eiconig y Manic Street Preachers ym 1992, 'Motorcycle Emptiness'. Efallai y bydd eraill yn eu hadnabod fel teitl cerdd Patrick Jones, ond i Mark James, yr artist y tu ôl i'r gosodwaith, a ymddangosodd dros nos fel rhan o Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd - gŵyl gerddoriaeth tair wythnos newydd a gefnogir gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd, sy'n ceisio gwthio ffiniau arloesedd cerddoriaeth, perfformio a thechnoleg ac sy'n para tan 20 Hydref - maen nhw hefyd yn mynd ag ef yr holl ffordd i Japan.

"Pan ti'n teithio gyda'r gwaith," rhywbeth mae Mark wedi ei wneud yn gyson yn ystod gyrfa sydd wedi ei weld yn dylunio dros 100 o gloriau recordiau ac yn gweithio gydag artistiaid fel Queen, Maximo Park, DJ Shadow, Karl Hyde ac Amy Winehouse, yn ogystal â bod yn gydweithredwr ers amser gyda Gruff Rhys a Super Furry Animals, "mae 'na bwynt lle ti'n mynd a ti wedi cael bwyd, ac mae yna ddwy neu dair awr yn rhydd cyn mynd i'r gwely, a ti'n crwydro o gwmpas ar dy ben dy hun."

"Ro'n i yn Tokyo yn gynharach eleni ac mae'n achosi'r teimlad yna o fod Yn Unig o dan Neon. Mae yna adeiladau gwirioneddol dal ac mae'r arwyddion neon yn mynd yr holl ffordd i fyny'r ochr. Mae pob un yn far, bwyty, siop wahanol - gall fod pedwar llawr ar ddeg o bethau gwahanol yn digwydd."

Gyda thrac sain o recordiadau maes a wnaed yn Tokyo a'u cymysgu gan Cian Ciaran (Super Furry Animals, Das Koolies), defnydd clyfar o ddrychau, a deunaw arwydd neon a grëwyd yn unigryw yn hysbysebu bariau, bwytai a chlybiau, mae Under Neon Loneliness yn creu'r hyn mae Mark yn ei ddisgrifio fel "y teimlad o gamu i fyd arall, ond mae'n fyd dieithr ac mae'n llethol bron - yr un teimlad dwi'n meddwl oedd y Manics yn ei awgrymu yn y gân - a ti'n edrych i fyny ac mae'n ddiderfyn a ti jyst yn mynd, o fy Nuw!"

Bydd Under Neon Loneliness, a ariennir yn rhannol gan Caerdydd AM BYTH, yn cael ei arddangos yn Sgwâr Canolog Caerdydd tan ddiwedd Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd. Mae'r ŵyl, a fydd yn cynnwys Ms. Lauryn Hill sy'n chwalu rhwystrau a'r Fugees yn perfformio'r wythnos hon, eisoes wedi cynnwys  artistiaid electronig arloesol Leftfield ac Orbital, a'r bardd jazz a'r sacsoffonydd Alabaster DePlume, yn ogystal â thalentau hip-hop Cymreig Mace the Great a Sage Todz a'r cawr drwm a bas leol High Contrast. Mae'r ŵyl newydd hefyd yn cynnwys tri digwyddiad hirsefydlog yng nghalendr diwylliannol Caerdydd a Chymru - Gwobr Gerddoriaeth Gymreig, Gŵyl Llais a Sŵn - yn dod yn rhannau hanfodol o'r dathliadau mwy, uchelgeisiol dan faner Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd eleni.

Darllenwch fwy yma