Back
Cyngor Caerdydd yn Wynebu Heriau Cyllidebol gyda Chostau a Galw Cynyddol

11/10/2024

Mae Cyngor Caerdydd yn wynebu heriau cyllidebol sylweddol bedwar mis yn unig i mewn i flwyddyn ariannol 2024/25.  Mae adroddiad monitro diweddaraf y gyllideb yn datgelu gorwariant blynyddol net rhagamcanol o £8.865 miliwn ar ddiwedd mis Gorffennaf 2024.  Cyfuniad o gostau cynyddol, galw cynyddol am wasanaethau, a chyfyngiadau cyllidebol sy'n sail i'r gorwariant hwn.

Gofynnir i Gabinet y Cyngor ystyried mesurau i fynd i'r afael â'r pwysau ariannol yma yn ei gyfarfod ddydd Iau, 17 Hydref. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at yr anawsterau y mae'r Cyngor yn eu hwynebu, gan gynnwys diffygion incwm, costau daliant heb eu cyllidebu, a phwysau mewn meysydd gwasanaeth amrywiol.

Mae'r pwyntiau allweddol o'r adroddiad yn cynnwys:

Datblygu Economaidd:  Gorwariant rhagamcanol o £1.65 miliwn oherwydd diffygion incwm ar gyfer Digwyddiadau ac Arlwyo Neuadd y Ddinas, costau daliant heb eu cyllidebu yn Neuadd Dewi Sant, a phwysau o fewn Gwasanaethau Eiddo a Phrosiectau Mawr.

Addysg: Gorwariant rhagamcanol o £4 miliwn, yn bennaf o ganlyniad i bwysau o ran y galw a phrisiau o fewn Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol a chostau ychwanegol ar gyfer lleoliadau ADY.

Gwasanaethau Plant: Gorwariant rhagamcanol o £5 miliwn yn bennaf oherwydd lleoliadau allanol a chostau cynyddol o fewn pecynnau IAAP.

Er gwaethaf yr heriau hyn, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gymryd camau i leihau gorwariant a gwella'r sefyllfa ariannol gyffredinol.  Mae camau lliniaru yn cael eu rhoi ar waith, gan gynnwys defnyddio cronfeydd hapddigwyddiadau a chronfeydd wrth gefn clustnodedig. Mae'r Cyngor hefyd yn archwilio cyfleoedd i gyflawni arbedion effeithlonrwydd yn ystod y flwyddyn a mesurau gwario rheoledig i liniaru sefyllfa'r llinell isaf.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Weaver, yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad: "Rydyn ni'n wynebu heriau ariannol digynsail, ond rydyn ni'n ymrwymedig i gymryd y camau angenrheidiol i fynd i'r afael â'r problemau hyn. Rydyn ni'n canolbwyntio ar sicrhau ein bod yn parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol i'n preswylwyr tra'n rheoli ein cyllideb yn effeithiol."

Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd monitro a rheoli sefyllfa ariannol y Cyngor yn fanwl dros y misoedd nesaf. Bydd y Cyngor yn parhau i adolygu cyfleoedd i sicrhau effeithlonrwydd a rheolaeth ariannol dynn dros weddill y flwyddyn ariannol.

Nid yw'r gorwariant rhagamcanol ym Mis 4 yn cynnwys unrhyw ragdybiaethau uwchlaw'r dyfarniad cyflog sydd eisoes wedi'i gyllidebu o gyfradd safonol o £1,250, cyfartaledd o 3.8% (Cyd-gyngor Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Llywodraeth Leol) ar gyfer 2024/25. Mae'r trafodaethau cyflog presennol yn parhau, a bydd canlyniad unrhyw setliad a gyrhaeddir - boed yn uwch neu'n is - yn cael ei adlewyrchu mewn adroddiadau monitro yn y dyfodol.

Mae rhaglen buddsoddi cyfalaf y Cyngor yn chwarae rhan hanfodol wrth ysgogi'r economi leol a darparu gwasanaethau lleol.  Fodd bynnag, mae chwyddiant costau adeiladu a ffactorau allanol eraill yn peri risgiau cyflenwi a fforddiadwyedd i brosiectau.  Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i sicrhau bod prosiectau'n symud ymlaen o fewn fframwaith cyffredinol y gyllideb a bod gorwariannau'n cael eu lleihau hyd yr eithaf.

Bydd y Cabinet yn ystyried yr adroddiad a'r camau gweithredu ynddo fel rhan o broses monitro ariannol y Cyngor ar gyfer 2024/25. Mae'r Cyngor yn parhau i ganolbwyntio ar fynd i'r afael â'r heriau ariannol a sicrhau bod ei gyllideb yn gynaliadwy yn y tymor canolig.

Bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn ystyried yr adroddiad yn ei gyfarfod nesaf o 2pm ddydd Iau 17 Hydref.  Gallwch wylio ffrwd fyw o'r cyfarfod hwnnw ymaAgenda ar gyfer y Cabinet ddydd Iau 17 Hydref, 2024, 2.00pm : Cyngor Caerdydd (moderngov.co.uk)