Back
"Dim ond dros dro yw hwn, ond mae'n teimlo fel cartref am nawr."
9/10/24

Mae teuluoedd Caerdydd sy'n mynd trwy'r profiad gofidus o fod yn ddigartref wedi disgrifio sut mae cynllun tai modiwlar newydd y Cyngor yn Grangetown yn darparu amgylchedd diogel a chefnogol yn eu cyfnod o angen.

Mae'r datblygiad arloesol, Ffordd y Rhaffau, ar safle’r hen waith nwy ar Heol y Fferi yn darparu llety dros dro i 154 o deuluoedd tra bod y Cyngor yn gweithio gyda nhw i ddod o hyd i ateb tai mwy parhaol. 

Wedi'u hadeiladu oddi ar y safle gan ddefnyddio dulliau adeiladu modern (DAM) a'u gostwng i'w safle terfynol ar y safle gyda'r holl waith sylfaen wedi'i gwblhau gan y datblygwr cenedlaethol, Wates Group, mae'r unedau olaf ar y datblygiad o gartrefi ynni-effeithlon iawn ag un i bedair ystafell wely wedi'u trosglwyddo i'r Cyngor yr wythnos hon.

Yn fuan iawn, bydd teuluoedd newydd yn symud i'r cartrefi newydd ar y safle, sydd hefyd yn cynnwys canolfan gymunedol lle mae amrywiaeth o wasanaethau a gweithgareddau cymorth gan y Cyngor a phartneriaid yn cael eu darparu ar gyfer preswylwyr.

Mae'r preswylydd presennol, Sophie, mam i ddau o blant ifanc, wedi bod yn byw yn Ffordd y Rhaffau ers deufis. Dywedodd:  "Mae'r llety’n hyfryd. Roedden ni mewn gwesty o'r blaen ac roedd pawb yn byw mewn ystafell gyfyngedig yn peri cryn dipyn o straen.

"Ond mae’n hyfryd yma, mae gennych chi eich annibyniaeth eich hun ond os oes angen help arnoch chi, mae'r staff yma i helpu trwy'r amser.

“Mae’n gymuned neis yma. Mae llawer yn digwydd bob amser. Mae'r ganolfan gymunedol yn wych i'r plant, mae'n amgylchedd braf.

"Dim ond dros dro yw hwn, ond mae'n teimlo fel cartref am nawr.  Fyddwn ni ddim yma am byth, ond mae'n braf bod yma am y tro."

Dywedodd Masuma, mam arall i ddau o blant: "Mae wedi bod yn dda iawn yma. Mae'n lle anhygoel ac mae yna bobl gyfeillgar. Mae'n ddiogel iawn. Mae llawer o weithgareddau yn cael eu cynnal. Os oes gennyf unrhyw broblemau, mae'r swyddogion bob amser yno i'm helpu.

"Mae'r byngalo yn hyfryd - ardal gegin ac ystafell fyw braf a llawn lle. A dwi’n dwlu ar yr ardd. Mae bod â rhywle i aros fel hyn wedi fy helpu'n fawr, yn feddyliol."

Gyda chyllid gan Raglen Gyfalaf Llety Pontio Llywodraeth Cymru, mae Ffordd y Rhaffau yn rhan o ymateb y Cyngor i'r pwysau aruthrol ar dai a gwasanaethau digartrefedd yn y ddinas dros y cyfnod diweddar a arweiniodd at yr awdurdod yn datgan argyfwng tai ym mis Rhagfyr 2023. Mae mwy o bobl nag erioed o'r blaen yn chwilio am help, gyda phrinder difrifol o dai fforddiadwy o ansawdd da yn y ddinas wrth wraidd yr argyfwng.

Yn y tymor hwy, mae gan y Cyngor gynlluniau i ddatblygu safle'r Gwaith Nwy i ddarparu tua 500 o gartrefi newydd, sef cymysgedd o gartrefi preifat a thai cyngor, i gyfrannu at darged yr awdurdod o adeiladu 4,000 o gartrefi newydd ar draws y ddinas. Wrth i’r cartrefi parhaol hyn gael eu datblygu fesul cam, gellir datgymalu'r cartrefi modiwlar a'u hailddefnyddio mewn lleoliadau eraill yn y ddinas mewn ymateb i'r angen am dai.

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau:   "Heb os, mae profi digartrefedd yn drawmatig, felly mae'n braf iawn clywed bod y teuluoedd sy'n aros yn Ffordd y Rhaffau yn gwerthfawrogi eu cartrefi dros dro a'r cymorth y maent yn ei dderbyn. Does neb eisiau bod yn byw mewn llety dros dro ond mae'r staff gwych yma yn ymroddedig i sicrhau bod pobl yn gyfforddus ac yn cael cymorth yn ystod eu harhosiad, wrth i ni weithio gyda nhw i ddod o hyd i gartref mwy parhaol sy'n dasg hynod heriol yn yr amgylchiadau presennol."

Dywedodd Curtis Hillberg, Cyfarwyddwr Prosiect – Wates Residential: "Rydym yn hynod falch o'n gwaith yn Grangetown. Yn Wates, rydym yn ail-lunio lleoedd i bobl ffynnu - a thrwy gydol y prosiect hwn rydym wedi gweithio gyda'r Cyngor i ddod o hyd i ffyrdd arloesol o ddarparu cartrefi ynni-effeithlon a chynaliadwy o ansawdd uchel i'r rhai sydd eu hangen fwyaf."

Yn ogystal â'i raglen datblygu tai lwyddiannus sy'n darparu mwy o dai fforddiadwy ledled y ddinas, caffaelodd y Cyngor ddau adeilad masnachol a thir gwag ym Mae Caerdydd yn ddiweddar i greu 250 yn rhagor o gartrefi yn gyflym.  Mae cynlluniau i brynu eiddo a fyddai'n darparu 280 o gartrefi newydd eraill hefyd wedi cael eu cymeradwyo gan y Cabinet.

Mwy yma https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/34192.html