Back
A Allwn Ni Apelio Atoch Chi?

8/10/24
 
Ar hyn o bryd mae'r Cyngor yn recriwtio aelodau newydd i ymuno â'i banel Apeliadau Annibynnol Derbyn i Ysgolion.

Mae gan rieni a gofalwyr yr hawl gyfreithiol i apelio yn erbyn penderfyniad yr awdurdod derbyn i wrthod lle i'w plentyn yn yr ysgol o'u dewis ac mae'r apeliadau hyn yn cael eu clywed gan banel annibynnol o dri unigolyn.

Mae pob ysgol gymunedol yng Nghaerdydd, rhai cyfrwng Cymraeg a rhai Saesneg, yn cael eu gwasanaethu gan y Panel Apeliadau Annibynnol Derbyn i Ysgolion, sy'n dyfarnu ar apeliadau derbyn, yn ogystal ag apeliadau am waharddiadau parhaol o ysgolion.

Rydym yn awyddus i ychwanegu aelodau newydd i’r panel o gefndiroedd amrywiol sydd â sgiliau a phrofiadau gwahanol, sy'n cynnwys aelodau lleyg a'r rhai sydd â chefndir yn y byd addysg.

Ni ddylai aelodau lleyg fod ag unrhyw brofiad addysgu blaenorol nac wedi bod yn rhan o'r gwaith o reoli ysgol.  Fodd bynnag, ni fyddai profiad fel llywodraethwr ysgol neu helpu ysgol yn wirfoddol yn eich eithrio o'r categori hwn.  Byddai gan aelodau addysg brofiad mewn ysgolion, byddant yn gyfarwydd â'r amodau addysgol yn ardal Caerdydd, neu yn rhiant i blentyn mewn ysgol yng Nghaerdydd.

Dwedodd llefarydd ar ran y Cyngor: "Mae aelodau'r panel yn darparu gwasanaeth gwirfoddol pwysig iawn, gan wrando ar dystiolaeth i gynorthwyo a dod i gasgliad ar dderbyn plant a phobl ifanc, gan gynnwys pam mae rhiant yn teimlo mai ysgol benodol yw'r lle iawn i'w plentyn fynd iddo.   Mae gwaith aelod panel yn ddiddorol, yn heriol ond hefyd yn ffordd wirioneddol effeithiol o gyfrannu rhywbeth yn ôl i'r gymuned.

"Rydym yn awyddus i ychwanegu pobl newydd o wahanol oedrannau, o wahanol gefndiroedd ac ystod o sgiliau a phrofiadau i'n haelodaeth bresennol ar gyfer y panel er mwyn sicrhau bod y paneli annibynnol hyn yn adlewyrchu amrywiaeth y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu ledled y ddinas."

Dwedodd Siân sy’n aelod o'r panel ar hyn o bryd: "Fe ddes i’n aelod o'r panel gan fod y cyfle hwn yn golygu y gallwn fod yn rhan o rywbeth sy'n bwysig i'm cymuned.  Roeddwn i'n teimlo y gallwn gyfrannu'n gadarnhaol at fy nghymuned er bod hynny yn digwydd yn y cefndir."

Mae aelodau'r panel yn darllen papurau achos cyn clywed y gwrandawiad gan ystyried y polisïau perthnasol ynghylch derbyn i ysgolion ac os ydynt wedi'u cymhwyso'n gyfreithlon, yn cymryd rhan weithredol yn y gwrandawiad apêl a phenderfynu a ddylid cadarnhau neu wrthod yr apêl. Mae clerc y Panel Annibynnol yn rhoi cymorth i aelodau cyn a thrwy gydol y gwrandawiad.

Mae aelodau panel gwahardd yn ystyried apeliadau gan rieni neu ofalwyr y mae eu plant wedi cael eu gwahardd yn barhaol o ysgol.  Bydd y panel yn ystyried penderfyniad corff llywodraethu i gefnogi gwaharddiad parhaol a phenderfynu a ddylid cytuno â’u penderfyniad ai peidio.

Nid oes angen cymwysterau ffurfiol a darperir hyfforddiant llawn. Dylai fod gan ymgeiswyr ddiddordeb mewn addysg, gyda sgiliau gwrando da a'r gallu i wneud penderfyniadau diduedd.

Mae apeliadau'n digwydd mewn person ac o bell, o Ddydd Llun i Ddydd Gwener rhwng 9am a 5pm, gydol y flwyddyn er bod mwyafrif yr apeliadau'n cael eu clywed rhwng mis Ebrill a Gorffennaf.

Nid yw aelodau'n derbyn taliad am eu hamser ond ad-delir costau teithio a darperir lluniaeth.

I gael gwybod mwy am ddod yn aelod panel, ewch i www.caerdydd/panelapeliadauysgolion

ac i gael ffurflen gais, e-bostiwch  PanelDerbynaGwahardd@caerdydd.gov.uk