Back
Datblygiad cartrefi arloesol y dyfodol wedi'i gwblhau
8/10/24
 

Mae gwaith i drawsnewid hen safle ysgol uwchradd yn nwyrain y ddinas i fod yn lleoliad mwy na 200 o gartrefi newydd i Gaerdydd bellach wedi'i gwblhau.

Mae pob un o'r 214 o gartrefi yn Llwyn Aethnen, y safle mwyaf yng ngham 2 rhaglen Cartrefi Caerdydd y Cyngor gyda'r datblygwr cenedlaethol Wates Group, bellach wedi'u hadeiladu, gan greu cymuned newydd ddeniadol a modern i breswylwyr yn y datblygiad oddi ar Heol Casnewydd, Tredelerch.

Mae'r datblygiad hynod arloesol, sydd wedi ennill gwobrau cenedlaethol am ei gynaliadwyedd, ei wydnwch yn erbyn yr hinsawdd ac ôl troed carbon isel, yn gyfuniad o gartrefi dwy, tair, pedair a phum ystafell wely, yn cynnwys 65 o dai cyngor newydd a 149 eiddo a adeiladwyd i'w gwerthu ar y farchnad agored.

Mae partneriaeth Cartrefi Caerdydd, fydd wedi creu 1,700 o gartrefi newydd i'r ddinas erbyn diwedd ei oes 10 mlynedd, wedi gweithio gyda'r cwmni gwasanaethau ynni cynaliadwy o Gaerdydd, Sero, i ymgorffori technolegau carbon isel yn y datblygiad a Chymdeithas Adeiladu Sir Fynwy sy'n darparu cynnyrch 'morgais gwyrdd' i brynwyr cartrefi.

"Mae'r cartrefi wedi'u cynllunio i Safon Dylunio Cartrefi Caerdydd - meincnod uchel y Cyngor, sydd â ffocws ar leihau allyriadau carbon, effeithlonrwydd ynni ac ansawdd dylunio wrth ei galon, wrth i ni anelu at adeiladu cartrefi newydd ar gyfer y dyfodol sy'n hyrwyddo creu lleoedd a chymunedau cynaliadwy.

 

Mae cartrefi’r cyngor a’r rhai preifat yn cynnwys pympiau gwres o'r ddaear, paneli PV, batris storio, mannau gwefru cerbydau trydan a Systemau Ynni Deallus.

Canolbwynt y datblygiad yw’r Tŷ Addison pedwar llawr – Cynllun Byw yn y Gymuned newydd cyntaf y cyngor i gael ei gwblhau, yn darparu 44 o fflatiau i bobl hŷn i hyrwyddo byw'n annibynnol.

 

Gyda chefnogaeth Cronfa Gofal Tai Llywodraeth Cymru, mae'r fflatiau wedi'u hadeiladu i'r safon uchaf, gyda chyfleusterau ar y safle’n cynnwys lolfeydd, gerddi, a theras cymunedol to ac ystafell feddygol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau:   "Mae Llwyn Aethnen yn edrych yn wych. Rwy'n falch iawn o'r cartrefi rydyn ni’n eu creu ledled y ddinas gyda'n partneriaid Wates ac nid yw'r datblygiad arloesol hwn yn eithriad – cartrefi modern, eang gyda nodweddion uwch-dechnoleg sy'n cynnig cyfle i breswylwyr wneud arbedion sylweddol ar eu biliau ynni.

 

"Mae Cartrefi Caerdydd yn parhau i ddarparu cartrefi cyngor newydd ledled y ddinas, ac yn chwarae rhan annatod yn ein rhaglen datblygu tai cyngor ehangach. Ar adeg o alw digynsail am gartrefi fforddiadwy o ansawdd da, rydym wedi ymrwymo i gynlluniau ar gyfer mwy na 4,000 o gartrefi newydd i'r ddinas yn y blynyddoedd i ddod."

 

Dywedodd Chris Parks, Cyfarwyddwr Prosiect – Wates Residential:  "Rydym yn falch iawn o weld Llwyn Aethnen wedi'i gwblhau. Yn Wates, rydyn ni'n ailddychmygu lleoedd i bobl ffynnu - ac mae Llwyn Aethnen yn enghraifft wych o hyn. Mae'r cartrefi newydd cynaliadwy o ansawdd uchel hyn a adeiladwyd mewn cymunedau cyfeillgar yn dangos sut olwg ddylai fod ar ddyfodol datblygiadau, yn darparu cartrefi newydd mawr eu hangen tra'n gwarchod ein mannau cyffredin a'n planed."


Dywedodd James Williams, Prif Swyddog Gweithredola Chyd-sylfaenydd Sero: "Mae Llwyn Aethnen yn enghraifft wych o sut y gallwn adeiladu a darparu cymunedau cynaliadwy. Mae wedi bod yn wych gallu cefnogi Cyngor Caerdydd a Wates yn y prosiect hwn, a helpu preswylwyr i wneud yn fawr o'r technolegau adnewyddadwy yn eu cartrefi."