Back
Cyngor Caerdydd i gefnogi gosod hyd at 100 o wefrwyr cerbydau trydan newydd yn ystod y ddwy flynedd nesaf

7.10.24

Gallai hyd at 100 o fannau gwefru cerbydau trydan newydd gael eu gosod gyda chymorth Cyngor Caerdydd dros y ddwy flynedd nesaf.

Mae'r cynlluniau yn rhan o ‘Fap Ffyrdd Seilwaith Cerbydau Trydan' newydd ei gyhoeddi i gynorthwyo'r broses o drosglwyddo i gerbydau trydan, sydd hefyd yn nodi cynllun yr awdurdod lleol i ganolbwyntio'n gyntaf ar gefnogi mannau gwefru cerbydau trydan cyhoeddus mewn ardaloedd sydd â lefelau isel o leoedd parcio oddi ar y stryd gan gynnwys y Mynydd Bychan, Gabalfa, Cathays, y Rhath, Penylan, Adamsdown, Glan-yr-afon, Treganna, Grangetown a Butetown.

Mae'r map yn rhan o ymateb Un Blaned Caerdydd y Cyngor i newid hinsawdd, sydd â'r nod o leihau'r 1.6 miliwn tunnell o allyriadau carbon sy'n cael eu creu yn y ddinas bob blwyddyn, y mae 41% ohonynt yn dod o drafnidiaeth ar hyn o bryd.

Gwefrwyr safonol (7kW) a rhai gwefrwyr cyflym (hyd at 50kW) fydd y gwefrwyr newydd gan mwyaf. Byddant yn cael eu darparu, eu gweithredu a'u cynnal heb unrhyw gost net i'r Cyngor, mewn partneriaeth â'r sector preifat drwy broses dendro gystadleuol. Y bwriad yw gosod y rhain 'ar strydoedd' neu mewn meysydd parcio lleol.

Ar y cyd â gwaith y Cyngor, disgwylir y bydd nifer y safleoedd cyhoeddus masnachol yn parhau i dyfu'n sylweddol ar draws y ddinas, gan arwain at oddeutu 600-700 o fannau gwefru yn 2025/2026 - i fyny o'r ffigur presennol o tua 200 o fannau gwefru cerbydau trydan hygyrch i'r cyhoedd heddiw.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Newid Hinsawdd, Cynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Dan De'Ath: "Gyda mwy a mwy o bobl yn gwneud dewisiadau mwy gwyrdd fel newid i gerbyd trydan, mae dadansoddiad y galw'n awgrymu y gallai fod angen tua 2,000 o socedi gwefru cyhoeddus yng Nghaerdydd erbyn 2030.

"Er y bydd llawer o gyfleusterau gwefru yn y ddinas yn cael eu darparu'n fasnachol neu gan gartrefi preifat gyda'u lle parcio oddi ar y stryd eu hunain, bydd angen i ni sicrhau bod cyfleusterau gwefru ar gael mewn ardaloedd heb fawr o le parcio oddi ar y stryd - gan ddechrau gyda chyflwyno 100 man gwefru arall dros y ddwy flynedd nesaf."

Gyda'r farchnad cerbydau trydan yn parhau i ddatblygu a newid yn gyflym, mae'r Cyngor yn bwriadu parhau i adolygu'r dull gweithredu. O ran opsiynau technoleg - sy'n cynnwys sianeli palmentydd, gwefrwyr pedestal a mannau gwefru celfi stryd, mae'r map yn dod i'r casgliad "nad oes bwled arian" ac y gallai cryfderau a gwendidau pob technoleg gyd-fynd â gwahanol sefyllfaoedd yn fwy effeithiol.

Yn ogystal, bydd y Cyngor yn archwilio cyfleoedd masnachol ar gyfer gwefru cyrchfannau ar gyfer gwefru cyflym a chwim a pholisïau i gefnogi ehangu cyfleusterau gwefru yn y Cynllun Datblygu Lleol newydd.

Bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn trafod y Map Seilwaith Cerbydau Trydan mewn cyfarfod a fydd yn cael ei gynnal am 2pm ddydd Iau 17 Hydref. Bydd yr holl bapurau sy'n ymwneud â'r cyfarfod ar gael cyn hynny, ynghyd â gwe-ddarlledu byw ar y diwrnod, yma: https://cardiff.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=143&MId=8224&LLL=1

Cyn y Cabinet, bydd y Pwyllgor Craffu Amgylcheddol yn craffu ar y Map Seilwaith Cerbydau Trydan yn eu cyfarfod cyhoeddus am 4.30pm ddydd Iau 10 Hydref. Mae'r holl bapurau sy'n ymwneud â'r cyfarfod craffu ar gael yn https://cardiff.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=142&MId=8471&LLL=0 lle bydd gwe-ddarlledu byw o'r cyfarfod hefyd ar gael ar y diwrnod.