Back
Lovell a Chyngor Caerdydd yn dathlu Gosod y Garreg Gopa i’r bloc o fflatiau cyntaf mewn cynllun byw yn y gymuned yn Llan
4/10/24

Mae datblygwr partneriaethau blaenllaw Lovell a Chyngor Caerdydd wedi cynnal seremoni g
osod y garreg gopa i ddathlu’r to sy’n cael ei osod ar y bloc o fflatiau cyntaf ym Mhrosiect Byw yn y Gymuned Llaneirwg, a fydd yn darparu llety byw annibynnol o ansawdd uchel i bobl hŷn.

Wedi'i leoli ar Heol Crucywel, ar safle'r hen Ganolfan Ieuenctid a Chymunedol, bydd y datblygiad £17.2m yn darparu cyfanswm o 60 o fflatiau hunangynhwysol un a dwy ystafell wely ar gyfer rhent cymdeithasol, a fydd yn cael eu hadeiladu i safonau cynaliadwyedd uchel, wedi'u pweru gan system wresogi gymunedol ac yn elwa ar baneli solar.

Bydd y safle hefyd yn gartref i ystod eang o gyfleusterau cymunedol, gan gynnwys ystafelloedd gweithgareddau, lolfeydd i breswylwyr, ystafell iechyd, gerddi wedi'u tirlunio, mannau gwefru sgwteri trydan a mannau storio beiciau. Bydd y cynllun yn rhan o Ganolfan Ardal Llaneirwg ac o fewn pellter cerdded i gyfleusterau siopa lleol a Hyb Llaneirwg.

Mae ‘gosod y garreg gopa’ yn garreg filltir adeiladu sy’n cael ei dathlu yn y diwydiant pan fydd pwynt uchaf adeilad yn cael ei osod. Mae'r bloc o fflatiau cyntaf bellach wedi cyrraedd y cam hwn, ac mae gwaith ar y gweill ar y blociau sy'n weddill.

Mae'r gwaith adeiladu ar y prosiect cyfan, sy'n cael ei adeiladu gan Lovell fel cynllun dylunio ac adeiladu, i'w gwblhau yn haf 2025. Dros gyfnod y prosiect, bydd 884 o wythnosau prentisiaeth yn cael eu darparu, a bydd Lovell yn rhoi tua £350,000 o  werth cymdeithasol i gymuned Llaneirwg.

 

 

Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr rhanbarthol Lovell, James Duffett: " Rydym yn falch iawn bod ein tîm safle bellach wedi gosod to’r bloc o fflatiau cyntaf ac wedi cyflawni rhan uchaf y strwythur ym mhrosiect Byw yn y Gymuned Llaneirwg, ac mae'n anrhydedd cael dathlu'r garreg filltir hon gyda'n partner hirsefydlog Cyngor Caerdydd.

"Ers degawdau rydym wedi bod yn trawsnewid safleoedd tir llwyd yn gymunedau newydd cynaliadwy a ffyniannus, ac rydym yn gyffrous i ddod â'r un genhadaeth hon i Laneirwg. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cartrefi i breswylwyr y dyfodol y gallant fod yn falch ohonynt ac sydd â chyfleusterau cymunedol heb eu hail, a byddwn yn parhau i weithio i'r safonau uchaf wrth i ni ddod â'r safle hwn yn fyw."

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau yng Nghyngor Caerdydd: "Mae gan y Cyngor gynlluniau ar gyfer amrywiaeth o lety newydd i bobl hŷn ar draws y ddinas gan gynnwys rhagor o Gynlluniau Byw yn y Gymuned fel hwn. Roeddem yn falch iawn o lansio'r un cyntaf i'w gwblhau, Tŷ Addison, heb fod yn rhy bell o Laneirwg, ar Heol Casnewydd yn Nhredelerch, ddiwedd y llynedd. 

"Fel Tŷ Addison, bydd y cynllun newydd hwn yn Llaneirwg yn ymateb yn uniongyrchol i'r anghenion a nodwyd yn ein strategaeth Tai Pobl Hŷn, gan greu lle gwych i bobl hŷn fyw yn y gymuned.

"Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Lovell ar y prosiect cyffrous, carbon isel hwn a fydd nid yn unig yn cyfrannu at ein targed o greu 4,000 o gartrefi newydd yng Nghaerdydd, ond hefyd yn cefnogi ein gweledigaeth Caerdydd Un Blaned i fod yn ddinas garbon niwtral erbyn 2030."

Mae Lovell yn ddarparwr tai partneriaeth blaenllaw ac mae wedi bod yn adeiladu cymunedau ers dros 50 mlynedd. Am fwy o wybodaeth, ewch i https://corporate.lovell.co.uk/