04/10/24
Mae Addewid Caerdydd wedi ennill gwobr Sefydliad Sector Cyhoeddus y Flwyddyn fawreddog yng Ngwobrau Symudedd Cymdeithasol (SOMOs) y DU 2024.
Mae'r fenter gan Gyngor Caerdydd yn cynnwys partneriaeth ar draws y ddinas sy'n canolbwyntio ar godi dyheadau a chreu cyfleoedd i blant a phobl ifanc yn y ddinas. Mae'n dod ag ysgolion, busnesau a phartneriaid cymunedol at ei gilydd i helpu pobl ifanc i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i ffynnu yn y farchnad swyddi.
Cafodd Addewid Caerdydd ei gydnabod gan SOMO am ei 'gyfraniadau sylweddol at hyrwyddo symudedd cymdeithasol' drwy ddull arloesol a chydweithredol, sy'n helpu disgyblion drwy godi eu huchelgeisiau, a thrwy ddatblygu sgiliau hanfodol.
Mae Gwobrau Symudedd Cymdeithasol y DU, a lansiwyd yn 2017, wedi dod yn llwyfan allweddol ar gyfer hyrwyddo symudedd cymdeithasol ar draws pob sector. Bob blwyddyn, mae'r gwobrau'n denu ceisiadau gan sefydliadau blaenllaw ledled y DU sy'n ymgorffori mentrau symudedd cymdeithasol yn eu strategaethau busnes ac yn creu newid parhaol.
Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg: "Mae hyn yn newyddion gwych! Rwyf wrth fy modd bod y fenter hon wedi cael ei chydnabod am ei hymdrechion i ddarparu cyfleoedd sy'n paratoi pobl ifanc Caerdydd ar gyfer byd gwaith ac yn cyd-fynd â'n cenhadaeth ehangach o wireddu hawliau plant yng Nghaerdydd, yn dilyn ein cyflawniad o ddod y Ddinas sy'n Dda i Blant gyntaf y DU y llynedd.
"Mae'r wobr hon yn dyst i bŵer cydweithredu ac ymroddiad. Mae tîm Addewid Caerdydd yn gweithio'n galed i greu cyfleoedd ystyrlon i'n pobl ifanc. Da iawn bawb."
Dywedodd Rheolwr Rhaglen Addewid Caerdydd, Victoria Highgate: "Rydym wrth ein bodd o gael ein cydnabod fel Sefydliad Sector Cyhoeddus y Flwyddyn yng Ngwobrau Symudedd Cymdeithasol y DU. Mae'r wobr hon yn tynnu sylw at ymroddiad ein partneriaid, o addysgwyr i fusnesau, i greu cyfleoedd ystyrlon i bobl ifanc yng Nghaerdydd. Gyda'n gilydd, rydym yn gweithio i sicrhau bod yr holl bobl ifanc yn ein dinas, beth bynnag fo'u cefndir, yn cael cyfle i gyflawni eu potensial."
Mae cydnabyddiaeth Addewid Caerdydd yn SOMOs 2024 yn tanlinellu ei rôl fel arweinydd wrth hyrwyddo cydraddoldeb a chyfleoedd i'r genhedlaeth nesaf.
I gael gwybod mwy neu i gymryd rhan yn y fenter Addewid Caerdydd, ewch i;https://cardiffcommitment.co.uk/index.php/cy/