Back
Addewid Caerdydd yn rhoi cynnig ar Hanner Marathon Caerdydd i annog darparu lleoliadau profiad gwaith i bobl ifanc

03/10/24

Bydd pedwar aelod ymroddedig o dîm Addewid Caerdydd yn cymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd y dydd Sul yma, ond yn hytrach na rhoddion ariannol, maen nhw'n gofyn i gyflogwyr 'gyfrannu' lleoliadau profiad gwaith i helpu i drawsnewid bywydau pobl ifanc yn y ddinas.

A group of people holding up a shirtDescription automatically generated

Mae Addewid Caerdydd, sef menter y Cyngor sy'n gweithio gyda phartneriaid allanol i gyflwyno plant a phobl ifanc i'r ystod enfawr o gyfleoedd sydd ar gael iddynt ym myd gwaith, wedi cyhoeddi eu cynllun i redeg dros addewidion i ddarparu profiad gwaith. Y nod yw grymuso plant a phobl ifanc o'r 129 o ysgolion ledled y ddinas.

Nod cyfranogiad y tîm yn y marathon yw tynnu sylw at y rôl hanfodol y mae cyflogwyr yn ei chwarae wrth ddarparu cyfleoedd profiad gwaith i bobl ifanc ac yn tynnu sylw at bwysigrwydd lleoliadau gwaith wrth wella sgiliau, datblygiad addysgol, uchelgeisiau a dyheadau gyrfa myfyrwyr.

Mae Addewid Caerdydd yn credu bod cysylltu addysg â byd gwaith yn hanfodol ar gyfer llunio gweithlu'r dyfodol. Trwy gymryd rhan yn y marathon, mae'r tîm yn gobeithio meithrin cysylltiadau a chydweithio ystyrlon rhwng ysgolion a chyflogwyr, a fydd o fudd i bobl ifanc Caerdydd yn y pen draw. Bydd cyflogwyr sy'n addo lleoliadau profiad gwaith yn cael y cyfle i lunio gweithlu'r dyfodol, cwrdd â'r genhedlaeth nesaf o bobl ifanc a fydd yn ymuno â byd gwaith ac yn ymgysylltu â nhw i ddylanwadu ar ddatblygiad y sgiliau a'r agweddau cywir ar gyfer mynd i fyd gwaith.

Mae Addewid Caerdydd yn gofyn i fusnesau roi lleoliadau profiad gwaith ar gyfer eu "Gwobr Beth Nesaf?", sy'n rhaglen profiad gwaith ddeinamig sydd wedi'i dylunio i bontio'r bwlch rhwng dysgu academaidd a'r byd proffesiynol i fyfyrwyr. Gyda'r nod o baratoi cyfranogwyr ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol, mae'r rhaglen yn cynnig cyfuniad o brofiad gwaith ymarferol, datblygu sgiliau, ac arweiniad gyrfaol ac mae disgyblion yn derbyn gwobrau i ddangos yr hyn y maent wedi'i gyflawni ar ddiwedd eu lleoliad a'u gwaith theori.

Dywedodd Rheolwr Rhaglen Addewid Caerdydd, Victoria Highgate: "Ein nod wrth gymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd yw ysbrydoli cyflogwyr, busnesau ac arweinwyr diwydiant i addo eu cymorth trwy gynnig lleoliadau profiad gwaith."

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, a'r Aelod Cabinet dros Addysg:  "Mae lleoliadau profiad gwaith yn cynnig cyfleoedd dysgu ymarferol amhrisiadwy i bobl ifanc, cyfle i brofi gwahanol ddiwydiannau, a chipolwg ar lwybrau gyrfa posibl. Mae'r lleoliadau hyn yn helpu pobl ifanc yn y ddinas i gael swydd sy'n eu galluogi i gyrraedd eu potensial llawn wrth gyfrannu at dwf economaidd y ddinas ac mae'n rhoi cyfle i fusnesau gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl ifanc

"Hoffwn longyfarch y tîm ar y paratoadau corfforol a'r ymdrechion personol y maent yn eu gwneud trwy redeg Hanner Marathon Caerdydd a diolch i'r staff am eu cymorth gyda'r digwyddiad a threfnu'r lleoliadau profiad gwaith hanfodol hyn i ddisgyblion ledled y ddinas."

Ymunwch â ni ar ein taith a chefnogwch Addewid Caerdydd trwy gynnig lleoliadau profiad gwaith. Gadewch i ni redeg gyda'n gilydd ar gyfer dyfodol mwy disglair!

Os oes gennych ddiddordeb mewn cofrestru lleoliad profiad gwaith neu gefnogi menter Addewid Caerdydd, ewch i  https://forms.office.com/e/1HRmwBe7tn

I gael gwybod mwy am Addewid Caerdydd, ewch i:  www.addewidcaerdydd.co.uk