1.10.24
Fel Therapydd Galwedigaethol, mae Reuben Morris yn treulio ei ddyddiau'n gyrru ar strydoedd Caerdydd i ymweld â chleientiaid yn eu cartrefi. Ef yw'r cyntaf i gyfaddef y byddai'n "anodd iawn" gwneud ei waith heb gar - ond chwe blynedd yn ôl, fe wnaeth y dewis gwyrdd a newid i gerbyd trydan a nawr, er gwaethaf y milltiroedd y mae'n eu gwneud bob dydd, dyw e byth yn gwario ceiniog ar betrol.
"Ges i Nissan Leaf rhad ar Gumtree a hynny," eglura Reuben, "oedd fy llwybr i mewn i dechnoleg werdd. Ers hynny, mae wedi dod yn dipyn o ddibyniaeth. Sylweddolais y gallwn ei wefru o baneli solar, ac aeth popeth o'r fan honno. Nawr mae gennym fatris storio a phwmp gwres hefyd ac mae ein cyflenwr ynni'n ein talu ni!"
Reuben, yn gwefru ei gerbyd trydan.
Trafnidiaeth yw achos mwyaf allyriadau carbon yng Nghaerdydd - yn rhoi cyfrif am 35% o'r 1.78 miliwn o dunelli o CO2e sy'n cael ei gynhyrchu yn y ddinas bob blwyddyn, felly mae pob dewis gwyrdd sy'n cael ei wneud gan bobl fel Reuben heddiw - boed hynny'n cerdded neu'n beicio ychydig yn fwy neu'n newid i gerbyd trydan - yn ychwanegu at ddyfodol mwy disglair yfory.
Gyda rhwydwaith cynyddol o ryw 200 o wefrwyr cerbydau trydan sydd ar gael i'r cyhoedd bellach ar gael yng Nghaerdydd, a disgwylir i fwy gael eu cyflwyno fel rhan o ymateb Caerdydd Un Blaned Cyngor Caerdydd i'r argyfwng hinsawdd yn ogystal â chan y sector preifat, mae'r seilwaith i gefnogi cerbydau trydan yn gwella, ond mae Reuben yn cyfaddef iddo fod yn bryderus am bellter batri'r car i ddechrau.
"Prynais y car o Abertawe. Ges i'r trên lan i'w gasglu a'i yrru'n ôl a dwi'n cofio dod nôl a bod yn ofnus iawn na fyddwn yn cyrraedd - ond mae hynny wedi lleihau. Nid wyf erioed wedi rhedeg allan o bŵer mewn 6 blynedd, felly dwi byth yn poeni amdano. Nid yw'n gerbyd trydan â phellter batri arbennig o uchel, ond os nad oes gennych y math hwnnw o swydd, os nad ydych yn gynrychiolydd gwerthu neu rywbeth tebyg, anaml y byddwch yn neidio yn y car ac yn gyrru 300 milltir - mae pob man yng Nghaerdydd yn gwbl hygyrch i mi."
"Dwi'n bragmatig amdano serch hynny - mae gen gerbyd gwersylla sy'n cael ei bweru gan betrol i'w ddefnyddio ar gyfer gwyliau ac ambell daith - ond ni fyddaf yn cael car petrol eto os oes gen i ddewis. Mae'r profiad gyrru yn llawer gwell a dwi'n ddigon ffodus i fod â thramwyfa, felly dwi'n plygio i mewn gartref, yn ei wefru dros nos ac mae gymaint yn fwy cyfleus na defnyddio gorsafoedd petrol."
Gyda cherbyd trydan yn gwneud y rhan fwyaf o'i deithiau car, a chan mai allyriadau domestig o bethau fel goleuadau a gwres yw'r ail ffynhonnell fwyaf o allyriadau yng Nghaerdydd, trodd sylw Reuben at ychwanegu hyd yn oed mwy o dechnoleg werdd i'w gartref.
Nawr, gyda phaneli solar ar ei do a batri i storio'r ynni, ynghyd â phwmp gwres o'r ddaear i gynhesu ei gartref teuluol diwedd teras a adeiladwyd yn y 1970au, mae ei ynni - gan gynnwys gwres, dŵr poeth a thrydan - yn costio tua £10 y mis iddo am y rhan fwyaf o'r flwyddyn. Yna, o fis Mai i fis Awst, pan fydd ei gartref yn cynhyrchu mwy o ynni solar nag y gall ef a'i deulu ei ddefnyddio, mae'r ynni sydd heb ei ddefnyddio'n cael ei allforio i'r Grid Cenedlaethol, ac mae ei gwmni ynni yn ei dalu ef.
Mae hynny i gyd tua £320 o elw ar ynni bob blwyddyn - ynghyd â'r arbedion mae Reuben yn eu gwneud o beidio talu am betrol.
"Mae gen i solar dwyrain-gorllewin, ac nid dyma'r cynllun a argymhellir, ond mae gen i baneli ar ddwy ochr y to ac ar hyn o bryd, rwy'n gwefru fy ngherbyd, yn gwneud fy holl filltiroedd gwaith, fy holl filltiroedd siopa, yr holl ddefnydd sylfaenol o'r car, ac mae gen i ddŵr poeth o'r pwmp gwres ac ar hyn o bryd, "mae'n ychwanegu gyda gwên, "Rwy'n cael tua £100 y mis gan fy nghyflenwr ynni.
"Hyd yn oed yn ystod y gaeaf, pan mae angen i ni fewnforio rhywfaint o drydan o'r grid, mae'r solar yn dal i wneud gwahaniaeth i'n biliau. Nid ydyn ni wedi gorfod newid ein hymddygiad o gwbl, rydyn ni'n byw fel arfer gydag e - yr unig beth rydyn ni wedi'i ddarganfod, diolch i'n mesurydd deallus, yw bod y gawod drydan yn defnyddio cymaint o drydan â gwefru car, felly rydyn ni'n tueddu i gael bath!
"Mae 'na lawer o wybodaeth negyddol ar gael am bympiau gwres, ond maen nhw'n eu defnyddio nhw yn Sgandinafia ac maen nhw'n gweithio - ni sydd yn hwyr i'r parti. Mae'n sicr yn gweithio i'n tŷ ni. Fy mhrofiad i yw ei fod yn llawer mwy cyfforddus, drwy'r amser.
"Dwi'n meddwl am hyn i gyd fel buddsoddiad - ry'n ni'n agosáu at ymddeol ac mae'r syniad y bydd costau ynni yn lleihau wrth i ni fynd yn hŷn yn fonws go iawn."
Mae Cynllun Ynni Ardal Leol Caerdydd yn amcangyfrif, i gyrraedd targed Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru sero-net erbyn 2050, y bydd angen gosod 160,000 o bympiau gwres yn y ddinas, ynghyd â 510MW o solar PV ar doeau (sy'n cyfateb i 115,000 o doeau domestig) a 26,000 o wefrwyr cerbydau trydan, mewn tai preifat ac ar dir sy'n hygyrch i'r cyhoedd.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Newid Hinsawdd, Cynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Dan De'Ath: "Rydyn ni'n gweithredu ar newid hinsawdd drwy ein strategaeth Caerdydd Un Blaned ond mae angen i bobl ledled y ddinas ymuno â ni i wneud dewisiadau mwy gwyrdd.
"All neb wneud y cyfan, ond gall pawb wneud rhywbeth. Boed hynny'n dewis yr opsiwn iach o gerdded neu feicio lle bo hynny'n bosib, bwyta mwy o fwyd lleol a chynaliadwy, neu fynd ymhellach a newid i gerbyd trydan neu osod paneli solar neu bwmp gwres yn eich cartref - mae pob dewis gwyrdd bach yn helpu."
I ddarganfod mwy am Caerdydd Un Blaned a gwybodaeth am y ffordd y gallwch wneud dewisiadau mwy gwyrdd ar gyfer dyfodol mwy disglair, ewch i'r wefan www.caerdyddunblaned.co.uk