Back
Ceisiadau am Leoedd Uwchradd ar gyfer Medi 2025 yn agor heddiw

23/09/24 

Bydd ceisiadau am leoedd uwchradd i ddechrau ym mis Medi 2025 yn agor heddiw (dydd Llun 23 Medi, 2024) ac mae teuluoedd yn cael eu hatgoffa y gall cyflwyno cais yn brydlon a nodi pum dewis gynyddu'r siawns o gael lle yn un o'r ysgolion maen nhw'n eu ffafrio.

A cartoon of a person with a bagDescription automatically generated

Mae Tîm Derbyn Cyngor Caerdydd wedi rhoi cyngor ac arweiniad cam wrth gam syml ar ffurf 7 darn o gyngor, i helpu teuluoedd sy'n gwneud cais am le mewn ysgol yng Nghaerdydd.

Mae'r wybodaeth ar gael ar-lein a thrwy  animeiddiad  wedi'i anelu at blant a theuluoedd, gan helpu i esbonio sut mae'r broses dderbyn yn gweithio a phwysigrwydd defnyddio'r holl bum dewis sydd ar gael. 

Pe bai teulu'n dewis rhoi un opsiwn ysgol yn unig, er enghraifft, maent yn cyfyngu'n fawr ar eu siawns o sicrhau ysgol maen nhw'n ei ffafrio.

Mae hefyd yn cwmpasu pethau megis:

  • Pwysigrwydd gwneud cais yn brydlon, erbyn y dyddiad cau cyhoeddedig ar gyfer gwneud cais
  • Manteision ystyried yr holl ysgolion yn yr ardal y mae'r plentyn yn byw ynddi trwy edrych ar eu gwefannau a darllen eu hadroddiadau Estyn
  • Gwneud yn siŵr bod y ffurflen gais yn cynnwys gwybodaeth hanfodol fel a oes gan y plentyn frawd neu chwaer yn yr ysgol neu unrhyw anghenion dysgu, meddygol neu gymdeithasol ychwanegol. 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Sarah Merry: "Ein nod o hyd yw sicrhau bod gan bob teulu yng Nghaerdydd fynediad at y wybodaeth, y gefnogaeth a'r ddealltwriaeth angenrheidiol er mwyn osgoi bod dan anfantais wrth wneud cais am le ysgol.

"Rydym am atgoffa teuluoedd nad yw rhestru un ysgol yn unig ar eu cais yn gwella'r tebygolrwydd o gael eu derbyn yno. Mewn gwirionedd, drwy beidio â defnyddio'r pum opsiwn sydd ar gael, gall teuluoedd leihau eu siawns o sicrhau lle yn un o'u hysgolion o ddewis.

"Er mwyn sicrhau bod y broses ymgeisio am ysgolion yn deg ac yn hygyrch i bawb, mae sawl menter ar waith, gyda'r nod o hyrwyddo system fwy teg ar gyfer dyrannu lleoedd mewn ysgolion yng Nghaerdydd. Un o'r rhain yw ein hymgyrch barhaus '7 Darn o Gyngor - Derbyn i Ysgolion', sy'n cynnig arweiniad a chefnogaeth glir, gan wneud y broses dderbyn yn fwy tryloyw a syml fel bod gan bob teulu gyfle cyfartal i sicrhau lle yn un o'u hysgolion o ddewis."

Mae gan Gyngor Caerdydd drefniadau derbyn i ysgolion cydlynol wedi'u hen sefydlu ac nawr, mae pob un o 12 ysgol uwchradd gymunedol y ddinas, a phump ysgol bartner, Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd, Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant, Ysgol Uwchradd Gatholig Corpus Christi, Ysgol Uwchradd Mair Ddihalog ac Ysgol Uwchradd Esgob Llandaf wedi ymuno â'r cynllun sy'n galluogi rhieni i gyflwyno pob ysgol a ffefrir ganddynt ar un cais ar-lein. Efallai y bydd angen i chi gyflwyno ffurflen ychwanegol a/neu fanylion pellach hefyd yn uniongyrchol i'ch ysgol (neu ysgolion) a dylech wirio polisi derbyn yr ysgol ar eu gwefan am ragor o fanylion.

Ychwanegodd y Cynghorydd Merry:  "Mae derbyniadau cydlynol Caerdydd yn helpu i symleiddio'r broses o wneud cais am le mewn ysgol drwy ganiatáu i rieni ddatgan eu trefn o ran yr ysgolion maen nhw'n eu ffafrio ar un cais. Mae hyn yn rhoi gwell cyfle i sicrhau ysgol maen nhw'n ei ffafrio yn y rownd gyntaf o dderbyniadau. 

Mae'r system hefyd yn atal rhieni rhag derbyn nifer o gynigion, a fyddai fel arall yn atal plant eraill rhag cael cynnig y lleoedd hyn, gan helpu i ddileu straen diangen i'r teuluoedd na fyddent fel arall yn sicrhau lle ac yn helpu i sicrhau ffordd decach a haws o wneud ceisiadau am leoedd ysgol.  Mae'r ymgyrch 7 darn o gyngor - Derbyn i Ysgolion yn cefnogi addewid Caerdydd i fod yn un o Ddinasoedd sy'n Dda i Blant cyntaf UNICEF yn y DU, gan osod hawliau a lleisiau plant a phobl ifanc wrth wraidd polisïau, strategaethau a gwasanaethau Caerdydd. 

Mae addysg Gymraeg ar gael i bawb p'un a yw'r Gymraeg neu'r Saesneg yn cael ei siarad gartref.  Mae gan Gaerdydd hefyd Uned Drochi'r Gymraeg sydd wedi ennill clod yn genedlaethol, sy'n gweithredu ers 2010, yn cefnogi'n llwyddiannus dros 400 o ddysgwyr heb unrhyw Gymraeg blaenorol i ddod yn rhugl a throsglwyddo i'n hysgolion cyfrwng Cymraeg hanner ffordd drwy eu taith addysg. 

Mae rhagor o wybodaeth am addysg Gymraeg ar gael yma ar ein gwefan newydd  Ein Dinas Ein Hiaith - Our City Our Language

Os oes unrhyw deuluoedd yn ansicr am unrhyw agwedd ar y broses, gallant gael cymorth gan ein staff yn Hybiau'r Cyngor ledled y ddinas neu drwy ffonio C2C ar 029 20872088.

I weld y canllawiau 7 darn o gyngor a'r animeiddiad ewch i:
https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Ysgolion-a-dysgu/Ysgolion/Gwneud-cais-am-le-mewn-ysgol/help-i-wneud-cais/Pages/default.aspx

Mae'r wybodaeth hefyd ar gael mewn sawl iaith gan gynnwys Arabeg, Bengaleg, Cantoneg, Tsieceg, Mandarin, Pwyleg, Portiwgaleg, Rwmaneg, Rwseg, Somalïeg, Wcreineg a Chymraeg wrth gwrs.

Bydd ceisiadau am le mewn ysgol uwchradd ym mis Medi 2025 yn cau ddydd Llun 18 Tachwedd 2024.

I wneud cais am le ysgol ewch i:https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Ysgolion-a-dysgu/Ysgolion/Gwneud-cais-am-le-mewn-ysgol/Ysgol-Uwchradd/Pages/default.aspx