Back
Teyrnged i Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Jane Henshaw

23/09/24

Mae Caerdydd yn galaru dros golli ei Harglwydd Faer uchel ei pharch, y Cynghorydd Jane Henshaw, a fu farw'n dawel wedi'i hamgylchynu gan deulu y penwythnos hwn.

 

Mae'r Cynghorydd Henshaw, sy'n cael ei hadnabod am ei hymroddiad a'i gwasanaeth diwyro i'r gymuned, yn gadael gwaddol o dosturi ac ymrwymiad i wasanaeth cyhoeddus.

 

Mynegodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Huw Thomas, ei dristwch mawr, gan ddweud, "Mae marwolaeth y Cynghorydd Jane Henshaw yn golled o'r mwyaf i Gaerdydd. Roedd hi'n eiriolwr diflino dros ein dinas a'i thrigolion, gan ymdrechu bob amser i wneud Caerdydd yn lle gwell i bawb.  Roedd ei hymroddiad i wasanaeth cyhoeddus heb ei ail, a bydd pawb oedd yn ei hadnabod yn gweld ei cholli'n fawr iawn."

 

Rhannodd y Dirprwy Arglwydd Faer, y Cynghorydd Helen Lloyd Jones, ei chydymdeimlad, gan ddweud, "Roedd Jane yn fflam o obaith a charedigrwydd yn ein cymuned. Roedd ei gwên yn heintus ac yn goleuo bywydau pawb a gyfarfu â hi. Roedd ei hymrwymiad i helpu'r rhai mewn angen yn wirioneddol ysbrydoledig.  Roedd ganddi allu unigryw i gysylltu â phobl a gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.  Roedd hi'n falch o fod yn Arglwydd Faer Caerdydd, ac o Sgowtiaid yr Arglwydd Faer ei Hun. Byddwn yn gweld ei heisiau."

Talodd y Prif Weithredwr, Paul Orders, deyrnged hefyd, gan ddweud, "Gadawodd caredigrwydd, gras ac awydd y Cynghorydd Henshaw i helpu'r rhai mewn angen ei farc ar bawb oedd yn ei hadnabod. Roedd hi'n ffynhonnell o dosturi i gynifer. Roedd empathi a chefnogaeth yr Arglwydd Faer i'w staff heb ei ail.  Mae ein meddyliau gyda'i theulu ar yr adeg anodd yma."

 Dywedodd y Cynghorydd John Lancaster, Arweinydd y Grŵp Ceidwadol yng Nghyngor Caerdydd:"Gyda thristwch a sioc fawr y dysgais am farwolaeth y Cynghorydd Henshaw. Roedd Jane yn ymroddedig i wasanaethu ei chymuned a'r ddinas ehangach, ac roedd yn arbennig o falch o wasanaethu fel Arglwydd Faer, gan fod yn arbennig o awyddus i ddefnyddio ei chyfnod er budd ei helusen Banc Bwyd Caerdydd.

“Bydd ei chynhesrwydd a'i chyfeillgarwch yn cael eu cofio gan Gynghorwyr ar bob ochr, ynghyd â'i chariad at natur a materion amgylcheddol.Ar ran y Grŵp Ceidwadol cyfan, hoffwn anfon ein cydymdeimlad at deulu Jane."

 
Dywedodd y Cynghorydd Rodney Berman, Arweinydd Grŵp y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghyngor Caerdydd: "Rwy'n hynod drist o glywed hyn. Roedd Jane yn eiriolwr mor angerddol dros ei chymuned, a chefais y pleser o wasanaethu gyda hi ar rai o bwyllgorau craffu'r cyngor dros nifer o flynyddoedd. Roedd ganddi bob tro gyfraniad gwerthfawr i’w wneud ac nid oedd arni ofn weithiau i ofyn cwestiynau lletchwith am y materion a oedd yn agos at ei chalon. Roedd pawb yn hoff iawn ohoni a'i pharchu'n fawr a bydd colled fawr ar ei hôl hi."

Roedd y Cynghorydd Henshaw yn cynrychioli ward Sblot ac roedd wedi bod yn gwasanaethu fel cynghorydd Llafur ers 2017. Cyflawnwyd nifer o bethau yn ystod ei chyfnod, gan gynnwys mentrau i wella seilwaith lleol, cefnogaeth i brosiectau cymunedol, ac ymdrechion i hyrwyddo cynhwysiant diwylliannol a chymdeithasol.

Un o'i chyfraniadau mwyaf nodedig oedd ei chefnogaeth i Fanc Bwyd Caerdydd, ei helusen ddewisol yn ystod ei chyfnod fel Arglwydd Faer.  Roedd hi wedi ymroi'n fawr i fynd i'r afael ag ansicrwydd bwyd a thlodi yn y gymuned. Wrth ymgymryd â'i rôl fel Arglwydd Faer, dwedodd y Cynghorydd Henshaw: "Trwy fy ngwaith ar y Cyngor, rwyf wedi gweld drosof fy hun y gwaith gwych y mae'r staff a'r gwirfoddolwyr yn yr elusen yn ei wneud, y modd y maen nhw'n newid bywydau yn y cyfnod anodd hwn ac yn helpu pobl allan o dlodi. Mae'n ffaith drist heddiw eu bod yn bodoli o gwbl, wrth gwrs, ond rwy'n benderfynol o helpu Banc Bwyd Caerdydd mewn unrhyw ffordd y gallaf eleni." 

Mae'r Cynghorydd Henshaw yn gadael ei phartner, Bill, pedwar o blant a phump o wyrion.  Bu ei merch, Angharad Anderson, yn ei chefnogi fel yr Arglwydd Faeres.

Fel arwydd o barch, bydd baneri'n hedfan ar hanner mast o adeiladau'r cyngor ar draws Caerdydd, wrth i'r ddinas nodi ei marwolaeth.

Mae ei theulu'n dymuno diolch i'r holl staff yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Canolfan Ganser Felindre a Hosbis Marie Curie am eu cefnogaeth, eu gofal a'u caredigrwydd.