·
Contract wedi'i ddyfarnu ar gyfer adeiladu Ysgol Uwchradd
Willows newydd
·
Pino Palladino (a chyfeillion) i chwarae yng Ngŵyl Dinas
Gerdd Caerdydd
·
Ysgol Pen y Pîl; yn ymrwymedig at ddarparu addysg o
ansawdd uchel a meithrin ymdeimlad cryf o gymuned meddai Estyn
Gall Cyngor Caerdydd
gyhoeddi bod y contract i gyflawni'r prif waith adeiladu ar Ysgol Uwchradd
Willows wedi'i ddyfarnu i Morgan Sindall Construction.
Bydd y buddsoddiad addysg
gwerth mwy na £60 miliwn, yn darparu amgylcheddau addysg o ansawdd rhagorol i
gefnogi a gwella dysgu ac addysgu, yn ogystal â chyfleusterau chwaraeon
cynhwysfawr, gan gynnwys neuadd chwaraeon, campfa, stiwdio ddrama a chaeau gwair
a fydd ar gael i'r cyhoedd eu defnyddio y tu allan i oriau ysgol.
Bydd y cynllun diweddaraf
sydd i'w gyflawni o dan raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Band B, Cyngor
Caerdydd a Llywodraeth Cymru, yn golygu y bydd yr Ysgol Uwchradd Willows
bresennol yn cael ei hadleoli a'i hailadeiladu i ddarparu lle i 900 o ddysgwyr
rhwng 11 ac 16 oed yn ogystal â 30 lle mewn Canolfan Adnoddau Arbennig ar gyfer
disgyblion ag Anghenion Dysgu Cymhleth. Bydd cyfleusterau gwell i gerddwyr i
gefnogi trefniadau teithio llesol ar safle'r ysgol newydd hefyd yn cael eu
darparu fel rhan o'r cynllun.
Ym mis Mai, cymeradwyodd
Pwyllgor Cynllunio Cyngor Caerdydd i'r llety newydd sbon gael ei adeiladu ar
dir oddi ar Heol Lewis yn Sblot ac mae'r gwaith galluogi sy'n gysylltiedig â'r
cynllun wedi'i wneud gan Morgan Sindall Construction ers mis Awst 2023.
Mae'r gwaith galluogi yn
cynnwys gorchymyn cau ar Heol Lewis a gwaith priffyrdd perthnasol i ganiatáu i
ddatblygiadau fynd rhagddynt, adeiladu llwybrau teithio llesol i berimedr
dwyreiniol y safle a dymchwel adeiladau presennol ar Heol Portmanmor ac ar safle
Marchnad Sblot.
Er mwyn paratoi ar gyfer
dechrau'r prif waith, mae gosod cyfleustodau newydd ac adleoli gwasanaethau
presennol, cloddio a gwaith tir, gan gynnwys cael gwared ar ddeunydd halogedig
ar ôl tarfu ar y tir a gosod ffensys diogel o gwmpas ffin y safle hefyd yn cael
eu cyflawni.
Pino Palladino (a
chyfeillion) i chwarae yng Ngŵyl Dinas Gerdd Caerdydd
Mae Pino Palladino, un o
chwaraewyr bas enwocaf y byd, wedi perfformio ar dros 1,000 o recordiadau gan
artistiaid yn cynnwys Adele, The Who, D'Angelo, Ed Sheeran, Nine Inch Nails,
Eric Clapton, Gary Numan, B.B. King, Bryan Ferry ac eraill.
Nawr, bydd y cyfansoddwr, y
cynhyrchydd a'r bas sydd wedi ennill yng Ngwobrau’r Grammy yn camu i'r llwyfan
ar gyfer ei sioe gyntaf yn ei dref enedigol o dan ei enw ei hun mewn 30
mlynedd, fel rhan o Ŵyl Dinas Gerdd gyntaf Caerdydd, gyda chefnogaeth Llywodraeth
Cymru a Chyngor Caerdydd.
Mae'r tocynnau hefyd yn cynnwys cyfle i
gael cipolwg unigryw ar yrfa 40 mlynedd yn y diwydiant cerddoriaeth lle bu’n
gweithio gyda phob math o artist, o Phil Collins i Perfume Genius, ac o John
Mayer i J Dilla, wrth iddo sgwrsio gyda'r
DJ 6Music, Huw Stephens, yn trafod pob agwedd ar gerddoriaeth – o'r caneuon
mae'n eu caru, i'w arddull bas unigryw -
a sut y lluniodd Caerdydd ei ddylanwadau cerddorol.
Yn ymuno â Pino ar lwyfan
Neuadd Dora Stoutzker, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ar nod Lun 14 Hydref
bydd yr offerynnwr taro Chris Dave, a anwyd yn Houston, sydd wedi chwarae gyda
rhai o'r enwau mwyaf nodedig y byd jazz ac R&B ac fe'i disgrifiwyd unwaith
fel "y drymiwr mwyaf peryglus sydd ar dir y byw," gan Questlove o The
Roots.
Ar y gitâr, yn tynnu ar ei
gefndir mewn roc, gospel, jazz, R&B, blŵs a ffync gyda dogn sylweddol o
soul bydd Isaiah Sharkey. Yn hanu o deulu cerddorol yn Chicago, cydiodd Sharkey
yn ei gitâr gyntaf pan oedd yn 3 oed. Erbyn iddo gyrraedd 14 oed roedd yn
perfformio mewn clybiau yn Chicago ac ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach roedd
wedi denu sylw a diddordeb cewri'r diwydiant cerddoriaeth fel The Isley
Brothers, John Mayer, Patti LaBelle a llawer o rai eraill.
Ysgol Pen y Pîl; yn
ymrwymedig at ddarparu addysg o ansawdd uchel a meithrin ymdeimlad cryf o
gymuned meddai Estyn
Mae Ysgol Pen y Pîl, ysgol
gynradd Gymraeg yn Trowbridge, wedi cael ei chydnabod am ei hymrwymiad i
ddarparu addysg o ansawdd uchel ac am feithrin ymdeimlad cryf o gymuned, yn
dilyn arolygiad diweddar gan Estyn, Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant
yng Nghymru.
Roedd yr arolygiad yn
canmol pennaeth a thîm arwain yr ysgol am eu cyfeiriad clir a'u cydweithrediad
effeithiol, yn enwedig o fewn Ffederasiwn y Ddraig, a ffurfiwyd yn 2019. Mae'r bartneriaeth hon gydag Ysgol Gymraeg
Bro Eirwg wedi creu cymuned ddysgu ffyniannus sy'n dathlu diwylliant Cymru ac
yn darparu profiadau gwerthfawr i ddisgyblion.
Canodd yr arolygwyr glodydd
yr ysgol am ei hymroddiad i ofal a lles disgyblion, sy'n dylanwadu'n gadarnhaol
ar ymddygiad ac agweddau myfyrwyr ac amgylchedd cefnogol yr ysgol sy'n sicrhau
bod disgyblion yn teimlo eu bod yn cael eu parchu a'u gwerthfawrogi.
Cydnabuwyd athrawon yn yr
ysgol am gynllunio cyfleoedd pwrpasol sy'n helpu disgyblion i ddatblygu
ymdeimlad cryf o berthyn i'w cymuned leol ac i Gymru a nodwyd ystod o
weithgareddau difyr y tu mewn a'r tu hwnt i'r ystafell ddosbarth am ehangu
gorwelion disgyblion a gwella eu profiad addysgol.
Er bod gan bron pob disgybl
sy'n dod i mewn i'r ysgol sgiliau Cymraeg is na'r disgwyl, mae'r rhan fwyaf
ohonynt yn gwneud cynnydd sylweddol mewn cyfathrebu Cymraeg a Saesneg,
mathemateg a sgiliau digidol yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol.
Disgrifiwyd y ddarpariaeth
ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) fel rhai hynod
effeithiol, gyda'r rhan fwyaf o ddisgyblion yn gwneud cynnydd da dros amser.
Yn adroddiad cyffredinol
gadarnhaol, mae Estyn wedi gwneud un argymhelliad y bydd yr ysgol yn mynd i'r
afael ag ef yn ei chynllun gweithredu; Cynorthwyo disgyblion ymhellach i wella
eu dealltwriaeth o destunau ar draws pob maes dysgu.
Cynnig Setliad i Gyngor
Caerdydd mewn Anghydfod Treth Dirlenwi gyda CThEF
Mae Cyngor Caerdydd wedi dod i gytundeb
mewn egwyddor gyda CThEF i setlo anghydfod treth yn ymwneud â phridd a deunydd
a ddygwyd i hen safle tirlenwi Ffordd Lamby rhwng naw a saith mlynedd yn ôl i
gyfuchlinio a chapio'r safle.
Roedd yr anghydfod yn ymwneud ag
anghytundebau ynghylch cymhwyso rheolau treth dirlenwi newydd a chymhleth a
gyflwynwyd yn 2015 yn gywir, ac anghysondebau o ran sut y cofnodwyd rhywfaint
o’r gwastraff. Codir treth dirlenwi ar ddwy gyfradd yn dibynnu ar y math o
ddeunydd. Yn ystod y cyfnodau y mae’r anghydfod yn ymwneud â nhw, roedd cyfradd
safonol y dreth dirlenwi rhwng £82.60 ac £86.10 y dunnell, ac roedd y gyfradd
is rhwng £2.60 a £2.70 y dunnell.
Dadleuodd CThEF y dylid codi am y pridd, a
godir ar y gyfradd is fel arfer, ar y gyfradd uwch oherwydd methiannau
'gweinyddol' o ran sut y cafodd y deunydd ei drin pan gafodd ei dderbyn ar y
safle.
Roedd CThEF o'r farn bod y deunydd yn
destun profion cydymffurfio ychwanegol oherwydd ei briodoleddau, ond nid oedd y
Cyngor o'r farn bod y gofynion cydymffurfio yn berthnasol.