Back
Rhagor o gynlluniau ar gyfer rhagor o gartrefi


20/9/24

Mae cynlluniau ar gyfer 280 o dai cyngor newydd eraill i'r ddinas, i helpu i leddfu'r pwysau tai eithafol sy'n wynebu'r Cyngor, wedi cael eu cyhoeddi heddiw.

 

Mae mwy o bobl nag erioed o'r blaen yn ceisio cymorth digartrefedd ac mae llety dros dro y ddinas i gyd yn llawn.

 

Fel rhan o'i ymateb cyflym i'r argyfwng tai hwn, mae'r Cyngor yn cynnig caffael tri eiddo arall yn y ddinas a fyddai'n darparu 280 o unedau llety ychwanegol. Mae hyn yn ychwanegol at yr eiddo a'r tir sydd eisoes wedi'u prynu i helpu i fynd i'r afael â'r galw.

 

Bydd y cynlluniau newydd, sy'n cynnwys caffael bloc llety myfyrwyr presennol o 103 o fflatiau, gwesty gweithredol sy'n darparu mwy na 150 o unedau a Thŷ Amlfeddiannaeth 20 gwely, yn cael eu trafod gan y Cabinet yn ei gyfarfod nesaf ar 26 Medi.

 

Mae gwaith eisoes ar y gweill i ddarparu'r 250 o gartrefi newydd a gymeradwywyd gan y Cabinet ym mis Mai ac mae disgwyl i 33 o'r 99 uned llety i deuluoedd o ansawdd uchel mewn dau adeilad ym Mae Caerdydd fod yn barod erbyn mis Mawrth y flwyddyn nesaf, tra bydd y gweddill yn dilyn yn ddiweddarach yn 2025. Mae cynnydd hefyd yn cael ei wneud ar ddefnyddio 120 o gartrefi modiwlaidd ynni-effeithlon parod ar lain wag 1.87 erw ar Stryd Pen y Lanfa.

 

Dwedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau:   "Mae'r cynlluniau a gyhoeddwyd gennym yn gynharach eleni i gynyddu ystod a digonolrwydd llety yn y ddinas yn symud ymlaen yn dda, ond ni fydd y rhain yn unig yn ddigon i ddiwallu'r pwysau rydyn ni'n ei brofi nawr, a'r hyn sydd o'n blaenau dros y flwyddyn i ddod.

 

"Mae heriau newydd yn dod i'r amlwg drwy'r amser, felly mae'n hanfodol ein bod yn chwilio am opsiynau newydd yn gyson i roi hwb i argaeledd tai fforddiadwy."

 

Yn ogystal ag amlinellu'r argymhelliad i symud ymlaen gyda'r pryniannau eiddo pellach, yn amodol ar hyfywedd ariannol a'r cyllid grant angenrheidiol, mae'r adroddiad i'r Cabinet hefyd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr argyfwng tai parhaus.

 

Mae llety dros dro yn llawn, gyda 563 o deuluoedd yn byw mewn llety dros dro safonol ar hyn o bryd a 183 mewn gwestai. Mae llety ar gyfer pobl sengl hefyd yn llawn gyda 780 o unigolion mewn llety dros dro ac argyfwng yn ogystal â 153 o unigolion mewn darpariaeth gwesty, tra bod nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd yn y ddinas wedi aros ar oddeutu 50 o unigolion.

 

Disgwylir i bwysau ychwanegol gael effaith bellach ar ddarpariaeth sydd eisoes yn brin ar gyfer llety i deuluoedd a phobl sengl dros y misoedd nesaf, felly daethpwyd o hyd i westy arall i ddarparu lle i bobl sengl, tra bod disgwyl i'r gwaith o gwblhau datblygiad modiwlaidd ar hen safle'r gwaith nwy, a throsglwyddo'r unedau sy'n weddill, fod yn ddigon i ateb y galw ar gyfer teuluoedd.

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Thorne: "Mae'r galw presennol o ran digartrefedd yn parhau i fod yn hynod heriol.

Roeddem wedi gobeithio lleihau nifer y gwestai rydym wedi bod yn eu defnyddio fel llety dros dro, ond nid yw hynny wedi bod yn bosibl yn anffodus ac rydym yn parhau o hyd yng nghanol yr argyfwng hwn.

 

"Rydyn ni'n adeiladu cartrefi cyngor newydd ar draws y ddinas felly mae gwell cyflenwad o dai fforddiadwy, ond nid yw'n ddigon cyflym i fodloni'r gofynion eithriadol rydyn ni'n eu profi ar hyn o bryd.  Mae angen mwy o lety arnom ar frys felly rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu'r rhai sydd angen ein cymorth tai."

 

Bydd y Cabinet hefyd yn cael ei ddiweddaru ar yr ymgynghoriad diweddar ar wasanaethau digartrefedd yng Nghaerdydd, gan gynnwys y newidiadau polisi arfaethedig i helpu pobl i symud allan o lety dros dro i gartrefi parhaol yn gyflymach. Yn dilyn yr ymgynghoriad a gynhaliwyd dros yr haf, bydd y newidiadau sy'n cynnwys cynnig llety y tu allan i Gaerdydd lle bo hynny'n briodol a hefyd lle bo'n briodol, cynnig tai parhaol i ymgeiswyr digartref lle bynnag y daw tai addas ar gael yn y ddinas, yn cael eu datblygu.

 

Bydd y Cabinet yn cyfarfod ar 26 Medi i drafod argymhellion yr adroddiad. Gallwch weld yr adroddiad llawn yma: https://cardiff.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=151&MId=8546&LLL=1 

Cyn y cyfarfod hwnnw, bydd Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol ac Oedolion yn cyfarfod ddydd Llun 23 Medi. Mae papurau'r cyfarfod ar gael yma: https://cardiff.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=141&MId=8560&LLL=1

 

A gallwch wylio'r cyfarfod drwy'r gwe-ddarllediad byw yma: https://cardiff.public-i.tv/core/portal/home