Mae Caerdydd sy'n Dda i Bobl Hŷn, rhwydwaith o bartneriaid gwasanaethau cyhoeddus gan gynnwys Cyngor Caerdydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Heddlu De Cymru a'r trydydd sector yn ogystal â sefydliadau eraill gan gynnwys busnesau, siopau, lleoliadau adloniant, grwpiau cymunedol a phobl hŷn eu hunain, wedi datblygu'r cynllun pum mlynedd newydd fel map ffordd ar gyfer creu amgylchedd lle mae pobl hŷn yn cael eu cefnogi i fod yn fwy egnïol, lle gallan nhw gymryd rhan ym mhob agwedd ar fywyd y ddinas, a byw'n annibynnol yn eu cartrefi a'u cymunedau eu hunain cyhyd ag y bo modd.
Mae datblygiad cynllun 2024 – 2028, a drafodwyd gan
Gabinet Cyngor Caerdydd yn ei gyfarfod heddiw (19 Medi), yn adeiladu ar y
cynnydd sylweddol a wnaed gan Gaerdydd sy'n Dda i Bobl Hŷn ers dod yn aelod
cyntaf Cymru o Rwydwaith Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ar gyfer
Dinasoedd a Chymunedau sy'n Dda i Bobl Hŷn ym mis Mawrth 2022. Mae gwaith
Caerdydd sy'n Dda i Bobl Hŷn, sydd bellach yn cael ei ystyried yn "aelod
rhagorol" o'r rhwydwaith gan Sefydliad Iechyd y Byd, wedi cael ei
arddangos i aelodau eraill ledled y byd fel enghraifft o arfer da.
Mae’r cynllun yn cyd-fynd â nifer o strategaethau a chynlluniau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, gan gynnwys Cynllun Corfforaethol y Cyngor 2024-27 a Strategaeth Heneiddio'n Dda 2022 – 2027, Strategaeth Llunio Ein Llesiant i’r Dyfodol 2023-2035 Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Cyd-gynllun Ardal Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a'r Fro 2023-28 a 'Cymru sy'n Dda i Oedran: ein strategaeth ar gyfer cymdeithas sy'n heneiddio', ac mae’n tynnu sylw at gyflawniadau'r flwyddyn ddiwethaf gan gynnwys:
· 36,318 awr o ofal wedi’u
darparu gan Hybiau Gofal
· 344 o ymweliadau cartref
wedi’u cynnal gan Sight Life, elusen ar gyfer pobl â nam ar eu golwg
· 2,055 o ddigwyddiadau pobl
hŷn wedi eu darparu yn Hybiau Caerdydd
· 33,147 o gysylltiadau
cwsmeriaid wedi’u rheoli gan dîm Pwynt Cyswllt Cyntaf y Cyngor
· 12,000 o Archwiliadau
Diogelwch Cartref wedi’u cynnal gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru
· 290 o fusnesau sy'n deall
dementia
· 17,144 o ymwelwyr â gwefan
Caerdydd sy’n Deall Dementia
· Dros 200 o ddigwyddiadau
ymgysylltu gan Heddlu De Cymru
Mae'r cynllun newydd yn ymrwymo i sicrhau bod dinasyddion yn gallu byw'n annibynnol, ac wedi’u cysylltu â'u cymunedau, gan ystyried beth sy’n bwysig iddyn nhw; i greu cymunedau cydnerth a datblygu rhwydweithiau cymunedol cryf a all gefnogi pobl hŷn i fyw'n dda a darparu gwasanaethau mewn lleoliad lleol, yn agos i gartrefi dinasyddion.
Mae gwaith deall dementia y ddinas yn parhau i fod
yn flaenoriaeth yn ogystal â sicrhau bod pobl hŷn yn gallu manteisio ar
gyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau a digwyddiadau i wella lles a
chyfoethogi eu bywydau. Mae trafnidiaeth agored a hygyrch, y canlyniadau tai
gorau i bob person hŷn a chydweithio i wella arferion asesu, diagnosis a
chynllunio gofal yn amcanion allweddol hefyd.
Mae'r cynllun wedi'i strwythuro o amgylch yr wyth parth a ddefnyddir gan Sefydliad Iechyd y Byd i ddisgrifio dinasoedd oed-gyfeillgar, sef:
Mannau awyr agored ac adeiladau cyhoeddus •Tai • Trafnidiaeth • Cymorth Cymunedol a Gwasanaethau Iechyd • Cyfathrebu a Gwybodaeth • Cyfranogiad Dinesig a Chyflogaeth • Cyfranogiad Cymdeithasol • Parch a Chynhwysiant Cymdeithasol
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Oedolion a Hyrwyddwr Pobl Hŷn, y Cynghorydd Leonora Thomson: “Mae gan Gaerdydd boblogaeth sy'n heneiddio ac er bod y ffaith bod pobl yn byw'n hirach yn rhywbeth y dylem ei ddathlu, mae'n bwysig ein bod yn gweithio gyda'n gilydd i helpu pobl hŷn i fod yn egnïol, yn iach ac mor annibynnol â phosibl wrth iddynt heneiddio.
“Mae cynllun 2024-2028 yn ganlyniad cydweithio
helaeth â phartneriaid ac ymgynghori â'n cymuned. Rydym i gyd yn rhannu'r
weledigaeth ar y cyd bod ein dinas yn diwallu anghenion a dyheadau ein
dinasyddion hŷn, gan barhau i symud ymlaen ar ein taith oed-gyfeillgar ac
adeiladu ar y cynnydd rhagorol a gyflawnwyd hyd yn hyn.”
Darllenwch y cynllun yma: https://cardiff.moderngov.co.uk/documents/s80675/CAB%2019%20September%202024%20-%20Age%20Friendly%20Cardiff.pdf?LLL=0&fbclid=IwY2xjawFfWslleHRuA2FlbQIxMAABHXWV-ZqvTXS9KAybGkENNqJQgssKtg4A6K-nXNA87YoqZF6NyW5zJoHxAA_aem_h2joMTD_O3UZ4CKuakgR2Q