19/9/2024
Mae Ysgol Gynradd Kitchener yng Nglan Yr Afon wedi cael ei chanmol gan Estyn am ei hamgylchedd cynhwysol a chroesawgar, sy'n meithrin diwylliant o barch, cyfrifoldeb ac empathi ymhlith ei chorff amrywiol o fyfyrwyr.
Yn ystod ymweliad gan yr arolygiad gan yr Arolygiaeth Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, canmolodd yr adroddiad ethos cynhwysol yr ysgol, gan nodi bod disgyblion, staff a rhieni yn rhannu perthnasoedd cryf, cadarnhaol wedi'u hadeiladu ar gyd-ymddiriedaeth. Mae'r amgylchedd cefnogol hwn yn galluogi disgyblion i deimlo'n ddiogel ac yn meithrin eu cymhelliant i ddysgu.
Nododd arolygwyr fod yr ysgol yn cynnig amrywiaeth gyfoethog o brofiadau dysgu ysgogol sy'n ennyn diddordeb ac yn cymell disgyblion ac sydd wedi bod yn effeithiol wrth gefnogi disgyblion i ddod yn ddysgwyr annibynnol, gyda'r rhan fwyaf o ddisgyblion Blwyddyn 6 yn dangos hunanddibyniaeth a dyfalbarhad cryf.
Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at ymrwymiad yr ysgol i ddathlu amrywiaeth ac ehangu dealltwriaeth disgyblion o ddigwyddiadau byd-eang. Anogir disgyblion i ystyried materion cymhleth yn feddylgar ac i ddeall sut y gallant gyfrannu at newid cadarnhaol. Mae hyn wedi bod yn rhan allweddol o'u datblygiad fel unigolion sydd â parch ac sy'n ymwybodol o'r byd o'u cwmpas.
Dywedodd y Pennaeth Reena Patel: "Rwy'n falch o arwain ysgol sy'n gwerthfawrogi ei chymuned, sy'n adlewyrchu anghenion amrywiol ei phlant yn y cwricwlwm, ac yn sicrhau bod gan bawb lais ac yn cael ei werthfawrogi."
Mae adroddiad cadarnhaol, Estyn wedi argymell dau faes allweddol ar gyfer gwella pellach y bydd yr ysgol yn mynd i'r afael â nhw yn ei chynllun gweithredu;
Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg: "Mae Ysgol Gynradd Kitchener yn adnabyddus am ei chymuned fywiog ac amrywiol ac mae Estyn wedi cydnabod y gwaith da sy'n digwydd yn yr ysgol sy'n rhoi cyfleoedd sy'n helpu plant i dyfu, nid yn unig yn ddinasyddion academaidd, ond hefyd fel dinasyddion tosturiol ac ymgysylltiedig â'r byd.
"Mae'r ysgol yn amlwg wedi creu gofod lle mae pob plentyn yn teimlo ei fod yn cael ei barchu, ei werthfawrogi a'i rymuso i lwyddo ac mae'r awyrgylch cadarnhaol a gynhelir gan staff ymroddedig, yn galluogi disgyblion i gyflawni a gwneud cynnydd cryf, gan ddangos effeithiolrwydd dulliau addysgu'r ysgol.
"Llongyfarchiadau i ddisgyblion, staff a'r gymuned am adroddiad cadarnhaol."
Ar adeg yr arolygiadau, roedd gan Ysgol Gynradd Kitchener 451 o ddisgyblion ar y gofrestr a chan 79.7% o ddisgyblion Saesneg fel iaith ychwanegol ac mae 35.6% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.