Back
Ysgol Bro Eirwg yn derbyn canmoliaeth am arweinyddiaeth gref ac amgylchedd dysgu cyfoethog yn arolwg diweddaraf Estyn

 

18/9/2024


Mae Ysgol Bro Eirwg, ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yn Nhredelerch, wedi cael canmoliaeth uchel gan Estyn, Arolygiaeth Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, yn ei hadroddiad arolygu diweddaraf.

Mae'r ysgol, sy'n rhan o Ffederasiwn y Ddraig, wedi cael ei chydnabod am ei harweinyddiaeth glir, ei hamgylchedd cefnogol, a'i hymrwymiad i feithrin balchder disgyblion yn eu hunaniaeth Gymreig.

Nododd arolygwyr fod y pennaeth, mewn cydweithrediad ag uwch arweinwyr, yn darparu arweinyddiaeth glir ac effeithiol sydd wedi cyfrannu'n sylweddol at gysondeb yn narpariaeth yr ysgol ac addysg gyfannol ei disgyblion. Mae'r cydweithrediad effeithiol o fewn y ffederasiwn a chydag ysgolion clwstwr Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern wedi cryfhau'r arweinyddiaeth hon ymhellach.

Mae'r ysgol wedi creu amgylchedd cefnogol sy'n blaenoriaethu gofal a lles o ansawdd uchel i'w disgyblion ac mae'r awyrgylch cadarnhaol hwn yn cael ei adlewyrchu yn ymddygiad ac agweddau'r disgyblion tuag at ei gilydd ac oedolion.

Mae'r adroddiad yn cydnabod prosesau hunanwerthuso a chynllunio ar gyfer gwella effeithiol iawn yr ysgol a'r ffordd y defnyddiodd arweinwyr wybodaeth a gasglwyd i gyfoethogi darpariaeth yr ysgol yn fedrus, yn enwedig wrth ddatblygu amgylchedd dysgu ysgogol sy'n meithrin chwilfrydedd a hyder ymhlith y disgyblion ieuengaf.

Mae athrawon yn yr ysgol yn cael eu canmol am gynllunio cyfleoedd pwrpasol sy'n datblygu ymdeimlad cryf o hunaniaeth gymunedol a Chymreig ymhlith disgyblion ac mae'r ysgol yn darparu ystod eang o brofiadau gwerthfawr sy'n ehangu gorwelion disgyblion ac yn cyfrannu at eu datblygiad cyffredinol.

Er bod y rhan fwyaf o ddisgyblion yn mynd i'r ysgol gyda sgiliau Cymraeg lafar islaw'r lefel ddisgwyliedig, maent yn gwneud cynnydd sylweddol yn ystod eu hamser yn yr ysgol ac erbyn diwedd eu cyfnod yn Ysgol Bro Eirwg, mae'r rhan fwyaf o ddisgyblion yn gallu cyfathrebu'n hyderus yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Mae Estyn wedi gwahodd yr ysgol i baratoi astudiaeth achos ar ei dull llwyddiannus o greu amgylchedd dysgu cyfoethog ac ysgogol. Bydd yr astudiaeth achos hon yn cael ei rhannu ar wefan Estyn er budd ysgolion eraill ledled Cymru.

Dywedodd y Pennaeth Iwan Ellis: "Rwy'n falch iawn o'n hadroddiad Estyn ac wrth fy modd ei fod wedi gofyn i ni ysgrifennu astudiaeth achos yn rhannu ein harferion rhagorol yn y dosbarthiadau meithrin a derbyn. Mae'r adroddiad yn cadarnhau bod yr ysgol yn gymuned ddysgu lwyddiannus, bod y disgyblion yn hapus ac yn gwrtais, a bod y berthynas rhwng staff a disgyblion yn gryfder.

 

"Mae Ysgol Bro Eirwg yn rhan o Ffederasiwn y Ddraig, ac rwy'n hynod falch bod adroddiad Estyn yn tynnu sylw at lwyddiant ein Ffederasiwn, bod y ddwy ysgol, Ysgol Bro Eirwg ac Ysgol Pen y Pîl, yn cydweithio'n effeithiol i ‘greu cymuned ddysgu lwyddiannus sy'n dathlu Cymreictod, yn darparu gofal a pharch ac yn cynnig profiadau gwerthfawr i ddisgyblion. Gellir teimlo balchder disgyblion yn eu hysgol, eu hardal leol a Chymru yn glir o fewn yr amgylchedd dysgu.'  Mae hyn yn ganlyniad i waith caled ac ymroddiad yr holl staff i sicrhau'r addysg orau bosibl i'n holl ddisgyblion."

Yn adroddiad cadarnhaol, mae Estyn wedi gwneud un argymhelliad y bydd yr ysgol yn mynd i'r afael ag ef yn ei chynllun gweithredu; datblygu ei darpariaeth darllen Cymraeg i gefnogi disgyblion yn well i ddeall testunau ar draws pob maes dysgu.

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg: "Dylai staff, disgyblion a chymuned yr ysgol fod yn falch o'r adroddiad hwn, ac mae Estyn yn cydnabod yn glir y cynnydd a wnaed gan ddisgyblion yn ystod eu cyfnod yn Ysgol Bro Eirwg a'r ymdeimlad cryf o gymuned sy'n cael ei feithrin yn yr ysgol.

"Mae'r pennaeth a'r staff wedi dangos ymrwymiad i weithio'n galed i sicrhau bod pob disgybl yn cael yr addysg orau bosibl a datblygu gwerthfawrogiad dwfn o'u treftadaeth Gymreig."

Adeg yr arolwg, roedd 391 o ddisgyblion ar gofrestr Ysgol Bro Eirwg, ac roedd 28.9% o'r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Roedd gan 2.7% o'r disgyblion anghenion dysgu ychwanegol ac roedd 24.4% o'r disgyblion yn siarad Cymraeg gartref.