Back
Contract wedi'i ddyfarnu ar gyfer adeiladu Ysgol Uwchradd Willows newydd

 

18/9/2024

Gall Cyngor Caerdydd gyhoeddi bod y contract i gyflawni'r prif waith adeiladu ar Ysgol Uwchradd Willows wedi'i ddyfarnu i Morgan Sindall Construction.

Bydd y buddsoddiad addysg gwerth mwy na £60 miliwn, yn darparu amgylcheddau addysg o ansawdd rhagorol i gefnogi a gwella dysgu ac addysgu, yn ogystal âchyfleusterau chwaraeon cynhwysfawr, gan gynnwys neuadd chwaraeon, campfa, stiwdio ddrama a chaeau gwair a fydd ar gael i'r cyhoedd eu defnyddio y tu allan i oriau ysgol. 

Bydd y cynllun diweddaraf sydd i'w gyflawni o dan raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Band B, Cyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru, yn golygu y bydd yr Ysgol Uwchradd Willows bresennol yn cael ei hadleoli a'i hailadeiladu i ddarparulle i 900 o ddysgwyr rhwng 11 ac 16 oed yn ogystal â 30 lle mewn Canolfan Adnoddau Arbennig ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Cymhleth.Bydd cyfleusterau gwell i gerddwyr i gefnogi trefniadau teithio llesol ar safle'r ysgol newydd hefyd yn cael eu darparu fel rhan o'r cynllun.   

Ym mis Mai, cymeradwyodd Pwyllgor Cynllunio Cyngor Caerdydd i'r llety newydd sbon gael ei adeiladu ar dir oddi ar Heol Lewis yn Sblot ac mae'r gwaith galluogi sy'n gysylltiedig â'r cynllun wedi'i wneud gan Morgan Sindall Construction ers mis Awst 2023. 

Mae'r gwaith galluogi yn cynnwys gorchymyn cau ar Heol Lewis a gwaith priffyrdd perthnasol i ganiatáu i ddatblygiadau fynd rhagddynt, adeiladu llwybrau teithio llesol i berimedr dwyreiniol y safle a dymchwel adeiladau presennol ar Heol Portmanmor ac ar safle Marchnad Sblot.

Er mwyn paratoi ar gyfer dechrau'r prif waith, mae gosod cyfleustodau newydd ac adleoli gwasanaethau presennol, cloddio a gwaith tir, gan gynnwys cael gwared ar ddeunydd halogedig ar ôl tarfu ar y tir a gosod ffensys diogel o gwmpas ffin y safle hefyd yn cael eu cyflawni.

Dywedodd y Pennaeth, Chris Norman: "Mae pob un ohonom yn Willows yn croesawu'r newyddion hyn ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Chyngor Caerdydd a Morgan Sindall i ddatblygu a chyflwyno ysgol a fydd yn darparu cyfleusterau dysgu rhagorol i'n disgyblion ac a fydd o fudd mawr i'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu."

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, a'r Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Sarah Merry: "Ar ôl ei chwblhau, bydd yr Ysgol Uwchradd Willows newydd yn darparu amwynderau addysgol, arbenigedd a chyfleoedd addysgu eithriadol i fyfyrwyr a staff. Mae hyn yn cynrychioli buddsoddiad sylweddol yn yr ardal leol a bydd y gymuned gyfan yn elwa o'r cyfleusterau gwell a ddarperir yn yr ysgol newydd, gan gynnwys caeau chwaraeon sydd ar gael i'r cyhoedd eu defnyddio." 

"Mae dyfarnu'r contract hwn yn garreg filltir gyffrous yn nyfodol yr ysgol newydd ac edrychaf ymlaen at weld drosof fy hun wrth i'r ysgol newydd ddatblygu." 

Dywedodd RobWilliams, Cyfarwyddwr Ardal Morgan Sindall Construction: "Mae'n fraint wirioneddol i gael ein dewis i ddod a'r Ysgol Uwchradd Willows newydd yn fyw - ni all ein tîm Morgan Sindall aros i ddechrau ar y safle a gweithio'n agos gyda Chyngor Caerdydd ar y prosiect. Ar ôl darparu cyfleusterau addysgol o'r radd flaenaf ledled Cymru, rydym wedi gweld, â'n llygaid ein hunain, faint mae'r mannau y mae plant yn dysgu ynddynt yn cael effaith enfawr ar eu dysgu, a bydd yr adeilad modern hwn yn sicr yn amgylchedd gwych i ddisgyblion ffynnu ynddo ar ôl ei adeiladu." 

Rhagwelir y bydd yr ysgol newydd yn cael ei chwblhau ym mlwyddyn academaidd 2026/27.