Back
Cyngor Caerdydd yn partneru gydag arbenigwr sero net ar brosiect ôl-osod 150 o gartrefi
20/8/24

Mae Cyngor Caerdydd wedi penodi Sero, arbenigwr sero net, ar brosiect i ôl-osod 153 eiddo sy’n 'anodd eu gwresogi' i wella effeithlonrwydd ynni a lleihau biliau ynni preswylwyr.

 

Bydd y prosiect gwerth miliynau o bunnoedd yn gweld gwelliannau i awyru ac inswleiddio waliau allanol mewn cartrefi Ffederasiwn Haearn a Dur Prydain (BISF) preifat a rhai’r cyngor yn ardal Tredelerch y ddinas.

 

Mae cwmni Sero, sydd wedi ei leoli yng Nghaerdydd, wedi'i benodi'n gydlynydd ôl-osod ar y prosiect a bydd yn gyfrifol am sicrhau bod y broses yn cyrraedd safon ôl-osod PAS 2035. Bydd y grŵp yn darparu trosolwg o'r dechrau i'r diwedd ar y prosiect ac yn llunio Cynlluniau Gwerthuso Opsiynau Gwella a Chynlluniau Gwella Tymor Canolig (CGTCau) ar gyfer pob cartref.

 

Bydd cyllid o Gyfrif Refeniw Tai'r Cyngor a chyfraniad gan Lywodraeth Cymru yn talu am y gwelliannau i’r cartrefi cyngor, tra bod y gwaith ar yr eiddo preifat yn cael ei dalu gan Lywodraeth Cymru yn unig.

 

Mae pob un o'r 153 o gartrefi wedi eu categoreiddio gan Gyngor Caerdydd a Sero fel rhai 'anodd eu gwresogi' ac mae disgwyl i'r gwaith wella effeithlonrwydd ynni, gan godi trigolion allan o dlodi tanwydd. Bydd y gwaith yn mynd rhagddo tan ddiwedd mis Mawrth 2025.

 

Dwedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau:   "Rydym wedi bod yn gweithio ers nifer o flynyddoedd i ganfod ateb cyllido i wella nid yn unig ein cartrefi BISF ein hunain, ond y cartrefi preifat hefyd ac fel rhywun a fagwyd mewn cartref BISF fy hun, rwy'n falch iawn ein bod bellach mewn sefyllfa i symud y cynllun hwn yn ei flaen.

 

"Mae'n newyddion gwych i'r preswylwyr sy'n byw yn y cartrefi hyn, rydym i gyd mor ymwybodol o gostau cynyddol gwresogi ein cartrefi ac mae'r cartrefi hyn yn arbennig o gostus o ran biliau tanwydd.   Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Sero y bydd ei arbenigedd ar gydlynu gwaith ôl-osod yn hanfodol ar y prosiect hwn, a gyda LCB y contractwr sy’n partneru â ni i gyflawni'r prosiect."

 

Dwedodd James Williams, cyd-sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Sero: "Rydym yn falch iawn o gael ein dewis i helpu Cyngor Caerdydd ar y cynllun ôl-osod pwysig hwn, a fydd yn cefnogi'r gymuned leol yn y pen draw.

 

"Mae tlodi tanwydd yn parhau i fod yn broblem ddifrifol mewn cartrefi ledled y DU ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod y prosiect hwn yn cyrraedd y safonau gwaith ôl-osod uchaf. Ar ôl cydlynu rhaglenni ôl-osod mawr o'r blaen, byddwn yn rhoi yr hyn a ddysgwyd ar brosiectau blaenorol gennym ar waith i sicrhau bod y gwaith hwn yn cael ei gyflawni'n esmwyth."