Back
Llwyddiant Olympaidd i Gyn-fyfyrwyr Ysgol Uwchradd Llanisien

20/8/2024

Bydd pedwar cyn-ddisgybl o Ysgol Uwchradd Llanisien yng Nghaerdydd yn dychwelyd o Baris fel Olympiaid ac enillwyr medalau.

Enillodd y seiclwr trac Elinor Barkerfedal arian Olympaidd i Brydain ym Madison y merched a dychwelodd i'r podiwm i gael medal efydd ochr yn ochr ag Anna Morris fel rhan o bedwarawd Prydain yn ras tîm y merched, gyda chyn ddisgybl arall, Megan Barker yn eilydd.

Elinor yw'r fenyw gyntaf o Gymru i ennill pedair medal Olympaidd.

Mewn athletau, fe redodd Jeremiah Azu gymal cyntaf y ras gyfnewid 4x100 metr a chael medal efydd, y drydedd fedal Olympaidd i gyn-ddisgyblion Caerdydd ym Mharis.

Talodd Pennaeth Ysgol Uwchradd Llanisien, Sarah Parry, deyrnged i'r pedwar enwog: "Rydym yn rhyfeddu at eu llwyddiant ac yn hynod o falch.

"Maen nhw'n ysbrydoliaeth i'n cymuned ysgol gyfan ac rydyn ni'n edrych ymlaen yn eiddgar at groesawu Elinor, Anna, Megan a Jeremeia yn ôl i'r ysgol i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf ymhellach.

"Llongyfarchiadau iddyn nhw i gyd, a chariad at eu teuluoedd a'u rhwydweithiau cymorth am y gwaith caled sydd y tu ôl i'r llwyddiannau hyn."

Ychwanegodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg:  "Mae llwyddiant yr unigolion hyn wedi bod yn syfrdanol ac rwy'n rhannu balchder yr ysgol. Maen nhw'n ysbrydoliaeth i bobl ifanc ledled y ddinas ac yn brawf y gellir cyflawni unrhyw beth trwy waith caled ac ymrwymiad."