6/8/2024
Bellach yn ei nawfed flwyddyn, maeBwyd a HwylCaerdydd yn dychwelyd eleni, gyda'r nifer uchaf erioed o ysgolion wedi cofrestru i gyflwyno'r rhaglen cyfoethogi'r gwyliau ysgol.
Bydd 28 o ysgolion, gan gynnwys tair ysgol uwchradd, 20 ysgol gynradd cyfrwng Saesneg, dwy ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg, dwy ysgol arbennig ac un uned cyfeirio disgyblion yn golygu y bydd mwy na 1700 o ddisgyblion yn cael mynediad at y ddarpariaeth iechyd a lles arobryn yn ystod gwyliau'r ysgol.
Gyda'r nod o helpu i leddfu'r pwysau ariannol ar lawer o deuluoedd ledled y ddinas yn ystod gwyliau'r haf, mae Bwyd a Hwyl yn darparu prydau maethlon iach ochr yn ochr â chyfleoedd i gymdeithasu, cymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol a dysgu sgiliau newydd.
Mae'r rhaglen gyffrous yn cynnwys darpariaeth addysgol, sgiliau a chwaraeon a ddarperir gan nifer o bartneriaid ledled y ddinas a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro sy'n cefnogi sesiynau addysg maeth.
Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Rwyf wrth fy modd bod y rhaglen Bwyd a Hwyl yn cyrraedd mwy o blant nag erioed eleni, gan sicrhau bod llawer o deuluoedd yn elwa trwy helpu i leddfu'r baich ariannol a ddaw yn sgil y gwyliau ysgol chwe wythnos.
"Yn bwysig, gall y plant hynny sydd ei angen fwyaf, gael mynediad at ystod eang o weithgareddau na fyddant fel arfer yn cael cyfle i gymryd rhan ynddynt, o chwaraeon, ymgysylltu cymdeithasol, prydau iach a sesiynau bwyd a maeth.
"Mae hyn diolch i waith partneriaeth llwyddiannus a thîm o staff ymroddedig, sy'n chwarae rhan allweddol wrth gefnogi iechyd a lles cadarnhaol mewn plant, gan gyd-fynd â'n cenhadaeth ehangach i ymgorffori hawliau plant i wead y ddinas yn dilyn ein cyflawniad o ddod yn Ddinas sy'n Dda i Blant gyntaf y DU yn 2023."
Mewn ymgais i gefnogi'r defnydd cynyddol o gynnyrch a dyfir yn lleol mewn prydau ysgol, maeBwyd a Hwylunwaith eto yn cymryd rhan ym mhrosiect Llysiau Cymru mewn Ysgolion a gydlynir gan Synnwyr Bwyd Cymru.
Gan weithio gyda'i gilydd, mae tyfwyr lleol, Bwyd Caerdydd, Cyngor Caerdydd a chyflenwr prydau ysgol y ddinas, Castell Howell, yn archwilio sut y gellid ymgorffori mwy o gynnyrch lleol mewn prydau ysgol trwy ymgysylltu â phlant a'r gadwyn gyflenwi.
Mae'n adeiladu ar ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod pob plentyn oed cynradd yn cael cynnig pryd o fwyd am ddim a, lle bo'n bosibl, bod pob pryd bwyd yn cael ei gynhyrchu gan ddefnyddio bwyd o ffynonellau lleol, tra'n cefnogi ymrwymiad Caerdydd i gyflenwi dau ddogn o lysiau ym mhob cinio ysgol.
Cafodd y cynllunBwyd a Hwylei ddatblygu gan dîm Cyfoethogi Gwyliau'r Haf Caerdydd yn 2015 ac fe'i mabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru a'i gyflwyno i weddill Cymru yn ystod y ddwy flynedd ddilynol. Mae wedi cael ei ddefnyddio fel enghraifft o Arfer Gorau ac mae wedi arwain at gydnabod mai Cymru sydd â'r ddarpariaeth gwyliau fwyaf datblygedig yng ngwledydd Prydain.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i: Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau'r Ysgol, Bwyd a Hwyl | Bwyd Caerdydd