Mae disgwyl i draffordd yr M4 fod yn brysur iawn oherwydd
y cyngerdd, felly cynlluniwch ymlaen llaw ac osgoi'r tagfeydd yng Nghaerdydd
drwy ddefnyddio’r cyfleusterau parcio a theithio yng Nghlwb Pêl-droed Dinas
Caerdydd yn Lecwydd.
Gallwch chi
weld gwybodaeth gyfredol am y draffordd a chefnffyrdd ar wefan Traffig Cymru, neu @TrafficWalesS ar Twitter a Facebook.
Mae pobl sy'n
mynd i’r cyngerdd yn cael eu cynghori'n gryf i gynllunio eu taith o flaen llaw
a mynd i mewn i'r stadiwm yn gynnar. Darllenwch y rhestr o eitemau
gwaharddedig yn principalitystadium.cymru, yn arbennig y
polisi bagiau (dim bagiau mawr) cyn teithio i'r ddinas.
Cau ffyrdd
Bydd Heol Scott a Heol y Parc yn cael eu cau yn
gynnar o 7am i baratoi Gât 5 a diogelu cefnogwyr a fydd yn ciwio.
Caiff y ffyrdd canlynol eu cau fel rhan o
drefniant cau ffyrdd llawn canol y ddinas am 3pm tan ganol nos.
·
Yn ogystal,
bydd Heol Penarth ar gau 30 munud cyn i'r cyngerdd orffen ac am hyd at awr wedi
diwedd y cyngerdd er diogelwch i deithwyr sy’n cyrraedd ac yn gadael yr orsaf
drenau.
Ychwanegiadau:
Y Ganolfan Ddinesig:Rheolir mynediad i ran o’r Ganolfan Ddinesig
drwy’r dydd. Caniateir mynediad yn unig i barcio ar gyfer y digwyddiad,
rhywfaint o barcio ar gyfer cymudwyr, llwytho a mynediad at feysydd parcio
preifat.
Mae’r ffyrdd yr effeithir arnynt yn cynnwys
Rhodfa'r Brenin Edward VII, Rhodfa'r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y
Coleg a Heol Gerddi’r Orsedd.
Trenau
Bydd Trafnidiaeth
Cymru yn ychwanegu capasiti lle bo modd i ar lwybrau i mewn ac allan o Gaerdydd ddydd Gwener 9 Awst, ond
disgwylir i’r trenau fod yn brysur iawn felly rydym yn annog cwsmeriaid i
ganiatáu digon o amser ar gyfer eu taith.
Bydd ciwiau ar ôl y digwyddiad ar gyfer
gwasanaethau’r brif lein yn y Sgwâr Canolog a chiwiau ar gyfer gwasanaethau'r
Cymoedd y tu cefn i’r orsaf. Bydd Heol y Frenhines Caerdydd yn cau am 21:30,
heblaw am fynediad hygyrch a theithwyr sy'n dymuno teithio i Fae Caerdydd.
Bydd gwiriadau refeniw yn cael eu
cynnal yng Nghaerdydd drwy gydol y dydd. Gall pobl fynd i i trc.cymru neu i ap
newydd Trafnidiaeth Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am deithio.
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol hefyd yn
cael ei chynnal ym Mhontypridd sy’n golygu y gallai gwasanaethau fod yn
brysur.
Bydd Great Western
Railway (GWR) yn cynnal gwasanaethau ychwanegol i helpu
cwsmeriaid i gyrraedd adref wedi'r cyngerdd.
Bydd trenau ychwanegol o Gaerdydd Canolog i Abertawe, Casnewydd, Bryste
a Swindon; gyda digon o lefydd parcio ar gael ym meysydd parcio'r orsaf.
Fodd bynnag, mae disgwyl i drenau fod yn brysur
iawn yn syth ar ôl y cyngerdd a bydd system giwio ar waith y tu allan i'r orsaf
i helpu pobl i ddefnyddio’r trenau'n ddiogel.
Dylai'r rhai sy'n teithio’n bellach wirio
gwasanaethau cysylltiol, ac amser eu trên olaf adref yn www.gwr.com/check.
Cyfleusterau Parcio a Theithio
Bydd gwasanaeth Parcio a Theithio Digwyddiad ar gael yn
Stadiwm Dinas Caerdydd yn Lecwydd, a gallwch chi gyrraedd yma o gyffordd 33 yr
M4 drwy ddilyn yr arwyddion i’r safle.
Y man gollwng fydd Arglawdd Fitzhammon.
Mae’r safle Parcio a Theithio 1.5 milltir o ganol y
ddinas, sy’n daith o tua 10 i 15 munud.
Rhaid talu £15 ar y diwrnod. Arian parod yn unig.
Bydd staff yn cyrraedd y maes parcio am 8.45am pan fydd
y safle’n agor. Bydd y bws cyntaf yn gadael am 9.00am. Bydd y bws olaf yn
gadael Arglawdd Fitzhammon am hanner nos a bydd y safle parcio a theithio yn
cau am 12:30am y bore wedyn.
Parcio yng Nghanol y Ddinas ar Ddiwrnod
Digwyddiad (Ceir a Bysus)
Cyrraedd yno: Gadewch wrth Gyffordd 32 yr M4,
ewch tua’r de ar yr A470 i ganol y ddinas a dilyn yr arwyddion i’r ganolfan
ddinesig.
Cost: £20 yn daladwy ar y diwrnod am gar a £30 am fws – mae taliadau
cerdyn hefyd ar gael nawr.
Amserau parcio: Bydd y maes parcio yn
agor am 8am ac yn cau am hanner nos.
Parcio ar Ddiwrnod Digwyddiad yng Ngerddi Sophia
Gerddi Sophia (ceir)
(Taith gerdded o tua 0.5 milltir i Stadiwm
Principality, Gât 2).
Parcio ar gyfer Digwyddiad yng Ngerddi Sophia
Cyrraedd yno: Gadewch wrth gyffordd 32 yr M4.
Cost: £20 i geir a £30 i fysus - mae taliadau
cerdyn ar gael nawr.
Amserau parcio: Bydd y maes parcio yn agor am
8.00am ac yn cau am 12 hanner nos.
Sylwer: Bydd staff ym maes parcio Gerddi Sophia tan 7.00pm. Gadewir pob cerbyd
ar y safle ar risg y perchennog. Ni fydd Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am unrhyw
ladrad neu ddifrod i geir nac i eiddo personol. Cyflwynir dirwy i unrhyw
gerbydau sy’n cael eu gadael yn y maes parcio ar ôl yr amser cau.
Bws
Bysus lleol:
Caiff gwasanaethau bws eu dargyfeirio tra bydd
ffyrdd canol y ddinas ar gau
Ewch i wefan y cwmni bws perthnasol i gael
rhagor o wybodaeth am eich llwybrau bws penodol.
Ar gyfer gwasanaethau Stagecoach, ewch i: Croeso
i Stagecoach (stagecoachbus.com)
Ar gyfer gwasanaethau Bws Caerdydd, ewch i: https://www.cardiffbus.com/principality-stadium
Am ragor o wybodaeth am wasanaethau NAT, ewch i: https://www.natgroup.co.uk/
National Express:
Bydd bysus National Express yn defnyddio Gerddi Sophia fel yr arfer.
Allwch chi feicio neu gerdded?
Bydd y beicffyrdd a'r beicffyrdd dros dro yn yr
ardal cau ffyrdd yn parhau ar agor i feicwyr eu defnyddio yn ystod y
digwyddiad, ond oherwydd nifer y bobl y disgwylir iddynt fynychu'r cyngerdd,
gofynnwn i bob beiciwr gymryd gofal a thalu sylw.
Mae'r trefniadau cau ffyrdd yn berthnasol i bob
cerbyd modur o unrhyw fath, ond nid i feiciau â phedalau.
Gall y rheini sy’n byw yng Nghaerdydd fod eisiau
beicio neu gerdded.Mae
ymchwil yn dangos bod 52% o’r teithiau car ym mhrifddinas Cymru yn llai na 5km
o hyd. Mae hwn yn bellter y gellir ei
feicio’n braf mewn 20 munud.
Gwyddom hefyd yr hoffai 28% o drigolion Caerdydd
nad ydyn nhw’n beicio ar hyn o bryd roi cynnig arni.
Pan fo tagfeydd ar y ffyrdd, mae hyn yn gwneud
beicio yn ddewis mwy atyniadol fyth oherwydd byddai teithio ar feic yn gynt nag
yn y car yn ystod oriau brig neu ddigwyddiadau mawr.
Parcio i Siopwyr
Mae meysydd parcio ar gael yng nghanol y ddinas hefyd: Meysydd Parcio
Heol y Gogledd; Canolfan Siopa Dewi Sant; John Lewis; Canolfan Siopa Capitol ac
NCP (Stryd Adam, Plas Dumfries a Heol y Brodyr Llwydion).
Parcio i Bobl Anabl
Argymhellir bod gyrwyr anabl yn defnyddio Gerddi
Sophia. Mae lleoedd parcio i bobl anabl hefyd ar gael mewn meysydd parcio
preifat amrywiol.
Gweler argaeledd ar wefannau unigol.
Tacsis
Mae tacsis cerbyd Hacni (du a gwyn) a cherbydau hurio preifat yn gweithredu'n wahanol iawn o dan wahanol ddeddfwriaeth. Darllenwch fwy am hynny yma - https://www.cardiffnewsroom.co.uk/releases/c25/17047.html
Mae'n ofynnol yn gyfreithiol i dacsis cerbyd Hacni dderbyn archebion o safleoedd tacsis sy'n dechrau ac yn gorffen o fewn ffin y ddinas oni bai bod ganddynt esgus rhesymol (megis cario bwyd agored, bod yn feddw neu'n ymosodol) a rhaid iddynt hefyd ddefnyddio'r mesurydd tacsi wedi'i ffitio i gyfrifo'r pris. Mae gwrthod y prisiau hyn neu beidio â defnyddio'r mesurydd yn drosedd.
Os yw rhywun yn cael tacsi sy'n teithio’r tu allan i ffin Caerdydd - does dim rhaid defnyddio'r mesurydd, ac mae'r pris y cytunwyd arno yn cael ei drafod rhwng y gyrrwr a'r cwsmer fel cytundeb llafar. Trafodwch gyda'r gyrrwr tacsi.
Tra bydd rhai tacsis yn cymryd taliadau cardiau, mae'r mwyafrif yn cymryd arian parod yn unig, cofiwch hyn cyn cael tacsi o’r safle a gwiriwch gyda'r gyrrwr cyn i'ch taith adref ddechrau.
Os gwrthodir taith i chi, neu os cymerir mwy na’r ffi gan dacsi cerbyd hacni, nodwch rif y gyrrwr neu fanylion y rhif plât, yn ogystal â ble a phryd y digwyddodd hyn, ac e-bostiwch trwyddedu@caerdydd.gov.uk. Sylwch y bydd angen datganiad gan y cwsmer arnom i ymchwilio i'r drosedd honedig, ac efallai y gofynnir i'r cwsmer fynychu pwyllgor fel rhan o'r broses ddisgyblu.
Bydd safle tacsis Heol
Eglwys Fair (y tu allan i House of Fraser) yn cau am 3pm ac yn ailagor am
hanner nos.