Back
Tafarndai hanesyddol Caerdydd i’w cynnig ar gyfer Rhestr Treftadaeth Leol

25.07.24

Mae Cyngor Caerdydd wedi clustnodi 71 o dafarndai, clybiau a lleoliadau cymdeithasol neu ddiwylliannol presennol a blaenorol i'w cynnwys ar Restr Treftadaeth Leol y ddinas.

Mae'r cam hwn yn ceisio cydnabod a gwarchod yr adeiladau hyn am eu cyfraniad cadarnhaol i ddiwylliant a natur weledol y ddinas.

Ymhlith y tafarndai a gyflwynwyd i'w cynnwys mae:

  •  Y Butchers Arms yn Rhiwbeina
  • Yr Albany ym Mhlasnewydd
  • Y Cottage yn y Sblot
  • Y Cornwall yn Grangetown
  • Y Pineapplel yn Ystum Taf, a
  • Yr Halfway yn Riverside

Dwedodd Dan De'Ath, Aelod Cabinet y Cyngor sy'n gyfrifol am Gynllunio Strategol, bod y cynnig i ychwanegu'r adeiladau at y Rhestr Treftadaeth Leol yn cyd-fynd â chynllun corfforaethol 'Cryfach, Tecach, Gwyrddach' yr awdurdod lle mae'n ymrwymo i "Defnyddio ein pwerau i warchod a dathlu adeiladau lleol fel tafarndai, gofodau cymunedol a lleoliadau cerddoriaeth, yn enwedig y rhai sy'n gyfoethog o ran hanes dosbarth gweithiol y ddinas;"

Mae'r Cyngor bellach wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar yr ychwanegiadau i’r rhestr leol arfaethedig sy'n ffurfio cam cyntaf adolygiad llawn o'r Rhestr Treftadaeth Leol. I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad - sy'n cau ar Fedi 18 eleni - ewch i www.cardiffldp.co.uk/local-list a rhoi eich barn.

Mae gan Gaerdydd Restr Leol sy'n bodoli eisoes o tua 200 o adeiladau ond mae’n hen bryd cael adolygiad cynhwysfawr. Ers i'r rhestr wreiddiol gael ei mabwysiadu ym 1997, rhestrwyd tua thraean o'r 323 adeilad a ddynodwyd bryd hynny gan Cadw oherwydd eu pwysigrwydd cenedlaethol, gan roi gwarchodaeth statudol iddynt.

Fodd bynnag, mae rhai adeiladau wedi'u newid neu eu dymchwel hyd yn oed.  "O ganlyniad," meddai'r Cynghorydd De'Ath, "mae angen diwygio'r rhestr i gynnwys ychwanegiadau newydd a rhoi rheolaethau ar waith dros newid neu ddymchwel lle bo hynny'n bosibl.

"Rydym eisoes wedi cymryd camau i ddiogelu rhai adeiladau pwysig yn y ddinas, gan gyflwyno cyfarwyddiadau Erthygl 4 ar dafarn y Rompney Castle a Neuadd Stacey, ar y sail y byddai datblygiad yn arwain at golli adeiladau hanesyddol.

"Gall Erthygl 4 roi bloc ar hawliau datblygu a ganiateir, sydd fel rheol yn caniatáu i ddatblygwr ddymchwel adeilad y mae'n berchen arno - dim ond cytuno ar fodd dymchwel yr adeilad y gall y cyngor ei wneud.

"Bydd adolygu'r Rhestr Leol ac ychwanegu adeiladau ato yn ein galluogi i gyflwyno cyfarwyddiadau Erthygl 4 ar yr adeiladau hynny os bydd angen. Bydd hyn yn helpu i ddod â dymchwel yn ôl o dan reolaeth yr adran gynllunio ac atal dymchwel heb roi caniatâd cynllunio llawn. Nid yw'n datrys pob sefyllfa, fel y gwelsom gyda Chilgant Guildford lle cafodd ffryntiad y stryd ei ddymchwel - er y bydd hwnnw'n cael ei adfer gan y datblygwr – ond gall weithredu i roi stop ar ddymchwel wrth i ni ymchwilio i ffyrdd y gellir cadw adeiladau, fel agweddau ar adeiladau sy’n bwysig i'n cymuned.

"Roedd y dicter a'r anghrediniaeth ynghylch yr hyn ddigwyddodd yn Cilgant Guildford yn real iawn ac i’w deimlo’n amlwg ar draws y ddinas. I mi a'r pwyllgor cynllunio roedd rhwystredigaeth go iawn ynglŷn â'r modd y cafodd hyn ei drin gan y datblygwr. Rwy'n benderfynol ac yn obeithiol y gall adolygu'r rhestr ddechrau gwneud gwahaniaeth ac annog gwell dealltwriaeth o bwysigrwydd treftadaeth Caerdydd i ddatblygwyr wrth symud ymlaen."

Ni chynigir adeiladau i'w rhestru'n lleol os ydynt eisoes ar restr statudol Cadw (Gradd II neu uwch) neu os ydynt wedi'u gwarchod yn rhinwedd y ffaith eu bod o fewn ardal gadwraeth. Felly, mae llawer o dafarndai yng Nghaerdydd eisoes wedi eu gwarchod rhag newid neu ddymchwel trwy'r dynodiadau statudol presennol hyn.

Bydd rhestru lleol yn golygu y bydd ceisiadau cynllunio yn y dyfodol yn cael eu hasesu i sicrhau eu bod yn 'cadw neu'n gwella' 'ansawdd pensaernïol, arwyddocâd hanesyddol a diwylliannol, cymeriad, uniondeb a/neu leoliad' pob adeilad. 

Yn dilyn yr ymgynghoriad, bydd crynodeb o'r ymatebion yn cael ei lunio ac adroddir yn ôl arno i Gabinet y Cyngor.