Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 23 Gorffennaf 2024

Dyma'ch diweddariad dydd Mawrth, sy'n cynnwys:

  • SuperTed - a cherflun nodedig - i ymddangos mewn arddangosfa newydd yng Nghaerdydd
  • Grymuso Yfory: Caerdydd sy'n Dda i Blant yn Dathlu Young Changemakers!
  • Anrhydedd mawr i ysgol am ei darpariaeth Gymraeg
  • Mae cerflun newydd yn tynnu sylw at Ynys Echni wedi'i osod ar Forglawdd Bae Caerdydd

 

SuperTed - a cherflun nodedig - i ymddangos mewn arddangosfa newydd yng Nghaerdydd

SuperTed, yr arwr anwes a grëwyd gan dîm animeiddio yng Nghaerdydd, oedd un o raglenni teledu mwyaf poblogaidd y 1980au ac mae'n parhau i swyno plant heddiw.

Bellach, mae'r cymeriad ar fin serennu mewn cynhyrchiad newydd - arddangosfa yn Amgueddfa Caerdydd yn canolbwyntio ar hanes hamdden yn y ddinas.

Mae curaduron yr amgueddfa, sydd wedi'i lleoli yn yr Ais yng nghanol Caerdydd, wedi dod o hyd i boster gwreiddiol yn hyrwyddo'r cartŵn a chanllaw darlunio diddorol i artistiaid ei ddefnyddio wrth greu'r arth boblogaidd.

Uchafbwynt arall o'r arddangosfa yw atgof byw o gynnal Gemau'r Ymerodraeth a'r Gymanwlad yn y ddinas ym 1958. Bydd model 4 troedfedd o daldra o'r taflwr gwaywffon enfawr a safai ar ben siop adrannol Howell yn ystod y gemau yn cael ei arddangos. Mae wedi ei adfer gan staff cadwraeth a myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn barod ar gyfer yr arddangosfa ac fe'i defnyddiwyd yn wreiddiol fel canllaw i grewyr y cerflun go iawn - dywedir ei fod mor fawr fel y gallai'r person a'i cerfluniodd sefyll y tu mewn i'w ben!

Dywedodd y Cynghorydd Jennifer Burke, Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd sy'n gyfrifol am Ddiwylliant, ei bod hi wrth ei bodd gydag ansawdd yr arddangosion sy'n cael eu harddangos. "Mae pawb yn cofio SuperTed ac mae'n bwysig dathlu ei gysylltiadau â'r diwydiannau creadigol yng Nghaerdydd," meddai. "Mae stori cerflun y taflwr gwaywffon yn ddiddorol iawn i mi hefyd - mae lleoliad y cerflun gwreiddiol maint llawn yn ddirgelwch, felly efallai y bydd rhywun sy'n ymweld â'r arddangosfa yn gallu taflu rhywfaint o oleuni ar hynny."

Darllenwch fwy yma

 

Grymuso Yfory: Caerdydd sy'n Dda i Blant yn Dathlu Young Changemakers!

Yn ddiweddar, dathlodd Caerdydd sy'n Dda i Blant, mewn partneriaeth â Plan UK, gyflawniadau rhyfeddol y bobl ifanc a wnaeth gais llwyddiannus am gyllid o dan gynllun gweithredu cymdeithasol Young Changemakers.  

Gan ganolbwyntio ar fynd i'r afael â heriau sy'n ymwneud â rhywedd a meithrin sgiliau arwain ac eiriolaeth, nod y digwyddiad oedd arddangos y prosiectau arloesol a arweinir gan bobl ifanc, gan ddangos y rôl bwerus y gallant ei chwarae wrth ysgogi newid cymdeithasol.

Dwedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg:  "Yn rhan o'n blaenoriaeth i fod yn 'Gyfartal a Chynhwysol', gwnaeth Caerdydd sy'n Dda i Blant gydnabod yr angen brys i fynd i'r afael â materion rhywedd wrth feithrin sgiliau arwain ac eiriolaeth ymhlith pobl ifanc. 

"Mae ein hymroddiad i rymuso pobl ifanc yn amlwg yn llwyddiant cynllun Young Changemakers.  Drwy roi llwyfan i bobl ifanc ymgymryd â rolau gweithredol yn eu cymuned, yn enwedig o ran cydraddoldeb rhyw, rydym yn helpu ein plant a'n pobl ifanc i dyfu'n oedolion sydd wedi'u grymuso ac sy'n gwybod sut i ddefnyddio eu lleisiau yn gadarnhaol ar gyfer newid.

"Rydym yn hynod falch o'r creadigrwydd a'r ymroddiad a ddangoswyd gan ein crewyr newid ifanc, mae eu gwaith yn mynd i'r afael â materion rhywedd hanfodol ac hefyd yn dangos yr effaith gadarnhaol y gall pobl ifanc ei chael yn eu cymunedau.

"Mae'r fenter hon yn cyd-fynd â'n cenhadaeth ehangach i ymgorffori hawliau plant i wead y ddinas, a sicrhau bod lleisiau ifanc nid yn unig yn cael eu clywed ond eu bod yn allweddol wrth lunio cymuned fwy cynhwysol a chyfiawn, ac yn parhau â'n taith i wneud hawliau plant yn realiti yng Nghaerdydd, yn dilyn ennill statws dinas gyntaf y DU i fod yn un sy'n Dda i Blant yn 2023."

Darllenwch fwy yma

 

Anrhydedd mawr i ysgol am ei darpariaeth Gymraeg

Mae Ysgol y Court yng Nghaerdydd wedi ennill gwobr nodedig am hyrwyddo'r Gymraeg ar draws ei chwricwlwm.

Mae gan yr ysgol, sydd ar hyn o bryd yn Heol yr Orsaf, Llanisien, 42 o blant oed cynradd ag anghenion dysgu ychwanegol. Er ei bod yn addysgu'n bennaf trwy gyfrwng y Saesneg, anrhydeddwyd hi gyda gwobr arian Siarter Iaith am ei rhagoriaeth o ran hyrwyddo'r Gymraeg ym mhob rhan o'r ysgol.

Dywedodd adroddiad yn dilyn arfarniad o'i defnydd o'r iaith: "Mae ethos Cymreig cryf yn amlwg o'r eiliad rydych chi'n cyrraedd yr ysgol... mae gan bob dosbarth arddangosfeydd Cymraeg priodol ac mae gan bob dosbarth enwau Cymraeg," ac aeth ymlaen, "Mae cynnydd tuag at dargedau Campws Siarter Iaith Gymraeg yn cael ei arddangos yn falch mewn ardal gymunedol."

Ychwanegodd yr adroddiad fod pob disgybl ac oedolyn yn defnyddio geiriau ac ymadroddion Cymraeg yn gyson tra bod 'Criw Cymraeg' yr ysgol yn dewis 'ymadrodd yr wythnos' cyfrinachol y mae disgyblion, dosbarthiadau ac aelodau staff yn cael eu gwobrwyo am ei ddefnyddio.

"Mae pawb yn yr ysgol yn cael ei ystyried yn siaradwr Cymraeg," meddai'r adroddiad, "ac maen nhw i bob pwrpas yn cael eu hannog a'u cefnogi i ddefnyddio'r Gymraeg sydd ganddyn nhw, ble bynnag a phryd bynnag y bo modd."

Dywedodd y Pennaeth Jamyn Beesley fod gan y 'Criw Cymraeg' gynrychiolwyr o bob dosbarth a'i fod yn cwrdd yn rheolaidd. "Mae'n cymryd perchnogaeth gynyddol ar y Siarter Iaith," meddai. "Maen nhw'n penderfynu sut i integreiddio'r Gymraeg ym mhob maes o'r cwricwlwm ac mae pawb yn mwynhau dysgu popeth am hanes a threftadaeth Cymru a hefyd dysgu am Gymru gyfoes.

"Wrth ddathlu ac ymfalchïo yn eu cynnydd, mae'r ysgol yn awyddus i barhau â'i llwyddiant a datblygu ymhellach, gan anelu at y wobr aur nesaf."

Darllenwch fwy yma

 

Mae cerflun newydd yn tynnu sylw at Ynys Echni wedi'i osod ar Forglawdd Bae Caerdydd

Mae cerflun newydd sy'n symboleiddio Ynys Echni ac â'r nod o gysylltu pobl ar y tir mawr â'r ynys fel rhan o brosiect celfyddydau, wedi'i osod ar Forglawdd Bae Caerdydd, i'r de o Gofeb Scott.

Mae cerflun radio pedwar metr o daldra o bren caled yn garreg filltir bwysig ym Mhrosiect Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, "Ynys Echni - Cerdded Drwy Amser," ac mae'n rhan o gasgliad o gynnwys celf newydd a grëwyd ac a ddyluniwyd gan yr artist Glenn Davidson. Mae'r gwaith celf yn dathlu'r trosglwyddiad radio diwifr cyntaf dros ddŵr agored o Drwyn Larnog i'r ynys ym 1897 ac yn ogystal â choffáu cyflawniad technolegol, mae hefyd yn dirnod sy'n dynodi un o'r cysylltiadau niferus rhwng y tir mawr a'r ynys.

Mae'r cerflun wedi'i leoli hanner ffordd ar hyd y Morglawdd ac mae ei leoliad golygfaol yn cynnig pwynt o ddiddordeb i ymwelwyr sy'n cerdded heibio, lle gallan nhw weld Ynys Echni yn y pellter. Mae celf arall sy'n gysylltiedig â'r prosiect hwn yn cynnwys cerddi, monologau, seinweddau o'r ynys, ffilmiau byrion a phodlediadau, y gall y cyhoedd eu canfod ar wefan.

Mae "Ynys Echni - Cerdded Drwy Amser" yn trawsnewid yr ynys o ganlyniad i ddyfarniad gwerth i £1.8 miliwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, sy'n rhan o fuddsoddiad o £2.8 miliwn i adfywio'r ynys. Mae cyllid ychwanegol yn cynnwys buddsoddiad cyfalaf gan Gyngor Caerdydd a chyfraniadau gan gynnwys adnoddau staff gan sefydliadau partner fel RSPB Cymru a Chymdeithas Ynys Echni. Mae'r buddsoddiad hwn yn cefnogi gwaith atgyweirio ac adnewyddu adeiladau hanesyddol, gwelliannau i gynefinoedd bywyd gwyllt, a gweithgareddau amrywiol i ymgysylltu â'r gymuned ac ymwelwyr, gan gynnwys y cerflun newydd. Gall ymwelwyr archwilio taith hunan-dywys yr ynys, sy'n tynnu sylw at ei gorffennol sylweddol, gan gynnwys yr hen ysbyty colera a bywyd gwyllt ffyniannus.

Darllenwch fwy yma