Cafodd
Serhang Ahmadi, 35 oed, o Gaerdydd ei ddedfrydu ar ôl y deg aelod arall o'r gang, oherwydd
cyhuddiad ychwanegol o fygwth tystion yn ymwneud â'r achos a arweiniodd at
achos tri diwrnod, ond fe’i cafwyd yn ddieuog o'r cyhuddiad hwn oherwydd
tystiolaeth ail law.
Gyda'r ddedfryd olaf hon yn cael ei rhoi gan y
llys, dedfrydwyd y Grŵp Troseddau Cyfundrefnol i gyfanswm o 29 mlynedd o
garchar gyda 9 mlynedd arall wedi'u rhoi mewn dedfrydau gohiriedig, am gynnal
'busnes at ddiben twyllodrus' gwerth £1.8 miliwn rhwng 6 Medi 2013 tan 5
Chwefror 2022.
Yn yr achos twyll gwreiddiol, plediodd Mr Ahmadi yn
euog i'r drosedd ar 15 Tachwedd 2023, saith diwrnod ar ôl i'r achos ddechrau.
Am y rheswm hwnnw, yn ystod y ddedfryd ddydd Gwener diwethaf, rhoddodd y barnwr
ostyngiad o 5% i'w ddedfryd a chyda'r amser y mae eisoes wedi'i dreulio yn y
ddalfa, bydd Mr Ahmadi yn treulio dwy flynedd a hanner arall yn y carchar.
Yn ystod yr ymchwiliad, atafaelodd swyddogion o
Wasanaethau Rheoliadol a Rennir (GRhR) Cynghorau Caerdydd, Pen-y-bont ar Ogwr
a'r Fro werth £600,000 o dybaco anghyfreithlon, yn seiliedig ar gost y
farchnad, ynghyd â gwerth £12,500 o gynwysyddion Ocsid Nitraidd.
Dechreuodd y gwaith yn erbyn y gang ym mis Chwefror
2020, yn dilyn gwybodaeth bod nifer o siopau yn ardal De Cymru yn gwerthu
tybaco anghyfreithlon ac ocsid nitraidd. Cafodd symiau sylweddol o sigaréts a
thybaco eu hatafaelu i ddechrau, ond roedd yn ymddangos bod y siopau yn
ailstocio ar unwaith, ac yn parhau i werthu'r nwyddau anghyfreithlon i'r
gymuned leol, gan gynnwys plant.
Roedd y grŵp troseddol yn gweithredu eu busnes mewn
o leiaf saith siop yn Ne Cymru, roedd y rhan fwyaf yng Nghaerdydd ond roedd
siopau yn Y Barri a Phen-y-bont hefyd yn cael eu defnyddio gan gynnwys:
Defnyddiodd y gang y siopau fel wyneb, gan
ymddangos eu bod yn gwerthu cynhyrchion dilys a chynnyrch cyfreithlon arall,
ond mewn gwirionedd, roedd ystryw cymhleth yn cael ei gynnal gyda fflatiau
uwchben y siopau a mannau cudd eraill yn cael eu defnyddio i guddio llawer iawn
o dybaco anghyfreithlon a oedd yn cael ei werthu i gwsmeriaid.
Clywodd y llys fod pob siop, ar amcangyfrifiad
ceidwadol, yn gwneud tua £1000 y dydd o werthu tybaco anghyfreithlon ac Ocsid
Nitraidd, gyda chyfanswm gwerthiant anghyfreithlon o £3.8m.
Cafodd peth o'r tybaco anghyfreithlon ei storio
mewn unedau Safestore neu yng nghartrefi'r diffynnydd, gyda'r tybaco a'r
sigaréts yn cael eu symud mewn ceir gyda ffenestri wedi’u duo i'r siopau a'r
fflatiau uwchben yn hwyr yn y nos neu yn oriau mân y bore.
Yn aml, roedd y tybaco anghyfreithlon yn cael ei
storio mewn mannau mawr wedi'u cuddio yn y siopau neu'r fflatiau. Defnyddiwyd
magnetau trydanol pwerus, a reolir o bell i ddatgloi'r gofodau hyn a oedd yn
anweledig i'r llygad dynol a dim ond trwy ddefnyddio cŵn snwyro a thrwy dorri
trwy waliau oedd modd eu canfod.
Ymhlith y technegau eraill a ddefnyddiwyd gan y gang
i gyflenwi eu cynnyrch roedd winshis trydan a thiwbiau plastig yn cysylltu'r
siop â'r fflat uwchben, gyda thybaco yn cael ei basio i lawr tiwb pan wnaeth
cwsmer brynu.
Dywedodd
Helen Picton, Pennaeth Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir:"Arweiniodd chwiliadau
a phrofion prynu ym mhob un o'r saith siop at £600,000 o dybaco anghyfreithlon
wedi'i dynnu oddi ar strydoedd De Cymru. Rhan fach o faint y drosedd a wnaed yn
yr achos hwn oedd hyn, gan nad yw'n ystyried unrhyw sigaréts neu dybaco a
werthwyd gan y gang troseddol.
"Er eu bod yn credu eu bod yn gweithredu'n
ddi-ganlyniad, yr hyn nad oeddent yn ei wybod yw eu bod yn cael eu monitro ar
hyd y daith, ac fel y dangosodd y ddau achos, roedd tystiolaeth enfawr i
reithgor eu cael yn euog o'r troseddau hyn. Roedd eu hymddygiad yn ystod yr
achosion yn warthus. Roedden nhw'n credu bod ganddyn nhw'r hawl i gynnal eu
busnes twyllodrus ac nid oedden nhw'n dangos llawer o edifeirwch.
"Mae tybaco anghyfreithlon yn gwneud niwed
mawr yn y gymuned. Mae’r ffaith ei fod
yn rhad ac yn hawdd cael gafael arno’n arbennig o ddeniadol i bobl ifanc ac
eraill ar incwm is, ac mae'n dileu'r cymhelliant pris i ysmygwyr presennol
roi'r gorau i'r arfer. Rwy'n falch iawn o weld canlyniad llwyddiannus yr
ymchwiliad hir ac estynedig hwn. Mae angen i droseddwyr wybod y byddant yn wynebu canlyniadau os byddant yn dewis delio yn y
cynhyrchion anghyfreithlon hyn."
Dywedodd
Sarsiant Jake Rollnick o Heddlu De Cymru: “Mae timau heddlu lleol caerdydd a’r fro wedi bod
yn gweithio’n agos gyda Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir ag asiantau eraill I
ddod a’r troseddwydd yma o flaen eu gwell dros gynod o 18 mis.Mae’r Gwaith, sy’n cynnwys gweithredu warrantiaid
yn dangos yn glir beth ellid ei gyflawnu drwy weithio gyda’n gilydd mewn
partneriaieth”.