Back
Grymuso Yfory: Caerdydd sy'n Dda i Blant yn Dathlu Young Changemakers!

  

19/7/2024

 

Yn ddiweddar, dathlodd Caerdydd sy'n Dda i Blant, mewn partneriaeth â Plan UK, gyflawniadau rhyfeddol y bobl ifanc a wnaeth gais llwyddiannus am gyllid o dan gynllun gweithredu cymdeithasol Young Changemakers.  

Gan ganolbwyntio ar fynd i'r afael â heriau sy'n ymwneud â rhywedd a meithrin sgiliau arwain ac eiriolaeth, nod y digwyddiad oedd arddangos y prosiectau arloesol a arweinir gan bobl ifanc, gan ddangos y rôl bwerus y gallant ei chwarae wrth ysgogi newid cymdeithasol.

Dwedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg:  "Yn rhan o'n blaenoriaeth i fod yn 'Gyfartal a Chynhwysol', gwnaeth Caerdydd sy'n Dda i Blant gydnabod yr angen brys i fynd i'r afael â materion rhywedd wrth feithrin sgiliau arwain ac eiriolaeth ymhlith pobl ifanc. 

"Mae ein hymroddiad i rymuso pobl ifanc yn amlwg yn llwyddiant cynllun Young Changemakers.  Drwy roi llwyfan i bobl ifanc ymgymryd â rolau gweithredol yn eu cymuned, yn enwedig o ran cydraddoldeb rhyw, rydym yn helpu ein plant a'n pobl ifanc i dyfu'n oedolion sydd wedi'u grymuso ac sy'n gwybod sut i ddefnyddio eu lleisiau yn gadarnhaol ar gyfer newid.

"Rydym yn hynod falch o'r creadigrwydd a'r ymroddiad a ddangoswyd gan ein crewyr newid ifanc, mae eu gwaith yn mynd i'r afael â materion rhywedd hanfodol ac hefyd yn dangos yr effaith gadarnhaol y gall pobl ifanc ei chael yn eu cymunedau.

"Mae'r fenter hon yn cyd-fynd â'n cenhadaeth ehangach i ymgorffori hawliau plant i wead y ddinas, a sicrhau bod lleisiau ifanc nid yn unig yn cael eu clywed ond eu bod yn allweddol wrth lunio cymuned fwy cynhwysol a chyfiawn, ac yn parhau â'n taith i wneud hawliau plant yn realiti yng Nghaerdydd, yn dilyn ennill statws dinas gyntaf y DU i fod yn un sy'n Dda i Blant yn 2023."

Yn ystod y digwyddiad cyflwynwyd Adroddiad Rhywedd Caerdydd sy'n Dda i Blant, sy'n crynhoi canfyddiadau'r holl brosiectau rhywedd mae Caerdydd sy'n Dda i Blant wedi ymgymryd â nhw ac sy'n nodi argymhellion yn seiliedig ar y canfyddiadau. Mae'r adroddiad yn gonglfaen ar gyfer trafodaethau a chamau gweithredu parhaus yn y gymuned i weithredu ei argymhellion, gan gadarnhau ymhellach ein hymrwymiad i wneud Caerdydd yn arweinydd ym maes hawliau plant a thegwch rhywedd.

Ychwanegodd y Cynghorydd Merry:  "Rydym yn gobeithio y bydd Adroddiad Rhywedd Caerdydd sy'n Dda i Blant yn arwain ymdrechion yn y dyfodol i greu Caerdydd mwy cynhwysol a theg."

I gael rhagor o wybodaeth am Adroddiad Rhywedd CDdB a sut rydym yn cefnogi ein pobl ifanc i fod yn arweinwyr yfory, ewch iAdroddiadau: Caerdydd sy'n Dda i Blant

Mae Caerdydd sy'n Dda i Blant yn fenter sydd â'r nod o wneud Caerdydd yn ddinas lle mae lleisiau, anghenion, blaenoriaethau a hawliau plant yn rhan annatod o bolisïau, rhaglenni a phenderfyniadau cyhoeddus. Fel Dinas gyntaf y DU i fod yn un Dda i Blant, mae Cyngor Caerdydd wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid ac UNICEF UK i sicrhau bod hawliau plant yn cael eu parchu a'u hyrwyddo ymhob sector a bod Caerdydd yn lle sy'n dangos sut mae mwy o blant yn teimlo'n ddiogel, yn cael eu clywed, yn derbyn gofal ac yn gallu ffynnu o ganlyniad.

Mae Plan UK yn elusen fyd-eang i blant sy'n gweithio i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gallu manteisio ar yr addysg, gofal iechyd a'r cyfleoedd sydd eu hangen arnynt i ffynnu.  Mae Plan UK yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau fel Caerdydd sy'n Dda i Blant i gefnogi hawliau a lles plant ledled y byd.