·
20
o Faneri Gwyrdd i fannau gwyrdd Cyngor Caerdydd
·
Addewid Caerdydd yn cyrraedd rownd derfynol Gwobrau
Symudedd Cymdeithasol y DU 2024
·
Rhaglen ddigwyddiadau DYDDiau Da o Haf i bobl ifanc
Caerdydd
· Cyngor Caerdydd i fabwysiadu Siarter Rhianta Corfforaethol ar gyfer plant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal.
20 o Faneri Gwyrdd i fannau
gwyrdd Cyngor Caerdydd
Mae ugain o barciau a mannau gwyrdd sy'n cael eu rheoli gan Gyngor
Caerdydd wedi derbyn Baneri Gwyrdd gwerthfawr, gan gynnwys, am y tro cyntaf,
Parc Cathays yng nghanolfan ddinesig hanesyddol Caerdydd a Pharc y Brag yn y
Sblot, sydd newydd ei adnewyddu.
Wedi'i uwchraddio'n ddiweddar fel rhan o raglen fuddsoddi gwerth £3
miliwn ym mharciau Caerdydd, mae Parc y Brag bellach yn cynnwys ardal chwarae
naturiol, parc sglefrfyrddio ac ardal gemau aml-ddefnydd, ochr yn ochr â choed
newydd a dolydd. Mae delweddau hanesyddol o'r Sblot, ardal o'r ddinas sydd â
rhai o'r lefelau amddifadedd uchaf a'r lefelau isaf o fannau gwyrdd fesul pen,
hefyd wedi'u hymgorffori yng nghynllun y parc.
Yng nghanol hanesyddol y ddinas, mae Parc Cathays, sy'n cynnwys Gerddi
Alexandra, Gerddi'r Orsedd, apharc
newydd Mackenzie- a enwyd er anrhydedd i'r Athro benywaidd cyntaf yng Nghymru, Millicent
Mackenzie - hefyd wedi cyflawni'r nod ansawdd rhyngwladol uchel-ei-barch am y
tro cyntaf.
Mae'r gwobrau, sy'n cydnabod parciau a mannau
gwyrdd mewn 20 o wledydd ar draws y byd, yn cael eu rhedeg yng Nghymru gan yr
elusen amgylcheddol Cadwch Gymru'n Daclus ac yn cael eu beirniadu'n annibynnol
yn erbyn ystod o feini prawf llym, gan gynnwys: bioamrywiaeth, cyfranogiad
cymunedol, glendid a rheolaeth amgylcheddol.
Mae Addewid Caerdydd wedi cyrraedd rownd
derfynol Sefydliad Sector Cyhoeddus y Flwyddyn yn wythfed Gwobrau Symudedd
Cymdeithasol blynyddol y DU (SOMOs).
Mae'r
gwobrau'n cydnabod ac yn dathlu sefydliadau blaengar sy'n mynd ati i greu newid
cymdeithasol cadarnhaol i'w gweithwyr ac yn eu cymunedau, trwy ymgorffori
mentrau symudedd cymdeithasol yn eu strategaeth fusnes graidd.
Mae Addewid Caerdydd yn gynghrair o
gyflogwyr, sefydliadau addysgol a phartneriaid cymunedol ledled y ddinas sy'n
ymroddedig i fanteisio i'r eithaf ar adnoddau economaidd, diwylliannol a
chymdeithasol Caerdydd er budd plant a phobl ifanc.
Mae'r fenter wedi cael ei chydnabod am y
gwaith a wnaed i sicrhau cyfleoedd sy'n codi uchelgeisiau ac yn datblygu
sgiliau hanfodol sydd, trwy gydweithio, yn helpu disgyblion i gyflawni eu
potensial a chyfrannu at dwf economaidd y ddinas.
Ar ôl i gannoedd o bobl ifanc fwynhau
chwe wythnos o weithgareddau, digwyddiadau a phrofiadau ledled y ddinas y
llynedd, mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd unwaith eto yn trefnu 'DYDDiau Da o
Haf', rhaglen sydd â'r nod o ddarparu gweithgareddau i bobl ifanc 11-25 oed,
dros gyfnod y gwyliau.
Bydd y rhaglen ddigwyddiadau'n rhedeg o
ganol mis Gorffennaf tan ddiwedd mis Awst ac yn cynnig profiadau cynhwysol,
llawn hwyl i bob gallu gan gynnwys gweithgareddau awyr agored, teithiau dydd,
teithiau cyfnewid ieuenctid, digwyddiadau cymunedol, twrnament pêl-droed,
gweithdai syrcas a meddiannu'r Parc Dŵr a'r Ganolfan Dŵr Gwyn Ryngwladol.
Bydd clybiau ieuenctid rheolaidd hefyd yn
cael eu cynnal ar draws y ddinas i gynnig gweithgareddau fel coginio, celf a
chrefft, gemau a chwaraeon, i gyd mewn mannau diogel i bobl ifanc gysylltu â'i
gilydd, gwneud ffrindiau newydd a rhoi cynnig ar bethau newydd.
Disgwylir
i Gyngor Caerdydd gryfhau ei ymrwymiad i blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o
fod mewn gofal drwy fabwysiadu'r Siarter Rhianta Corfforaethol Cenedlaethol
sydd newydd ei datblygu.
Mae'r
Siarter, a grëwyd ar y cyd ag unigolion ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal
mewn uwchgynhadledd genedlaethol a gefnogir gan Lywodraeth Cymru a gwasanaethau
eiriolaeth plant blaenllaw, yn nodi egwyddorion ac addewidion a rennir y dylai
pob corff cyhoeddus gydymffurfio â nhw wrth ddarparu gwasanaethau i blant a
phobl ifanc.
Egwyddorion
a Rennir:canolbwyntio ar gydraddoldeb, dileu
stigma, meithrin undod, darparu cefnogaeth, hyrwyddo uchelgais, meithrin lles,
sicrhau iechyd da, a sicrhau cartrefi sefydlog.
Addewidion
yr Ymrwymiad:sicrhau parch, cyfranogiad, cyfathrebu
clir, tosturi, cymorth nodau, a mynediad at eiriolaeth i bob plentyn a pherson
ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal.