Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 16 Gorffennaf 2024
 Dyma’ch diweddariad dydd Mawrth, sy’n cynnwys: 

  • ·       Cyngor yn ymrwymo i fynd i'r afael â diffyg o £49.7m yn y gyllideb
  • ·       Rhaglen 'Gigs Bach' yn arddangos talent y dyfodol yng Nghlwb Ifor Bach
  • ·       85% o ddisgyblion Caerdydd yn mynychu ysgol sydd wedi ymrwymo i wreiddio hawliau plant

Cyngor yn ymrwymo i fynd i'r afael â diffyg o £49.7m yn y gyllideb


Mae Cyngor Caerdydd wedi datgelu ei fod yn wynebu diffyg o bron i £50m yn y gyllideb yn 2025/26.

Mae'r cyngor nawr yn gweithio ar gynllun cyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf - a allai weld rhai gwasanaethau'n cael eu cwtogi neu eu hatal yn llwyr - i bontio'r bwlch.

Achosir diffyg pan nad yw'r arian y mae'r cyngor yn ei dderbyn gan y Llywodraeth, sy'n cael ei ychwanegu at yr arian y mae'n disgwyl ei godi o daliadau fel y dreth gyngor, yn ddigon i dalu am y 700 a mwy o wasanaethau y mae'r cyngor yn eu darparu i breswylwyr.

Mae adroddiad i Gabinet Cyngor Caerdydd, Ddydd Iau, 18 Gorffennaf, yn manylu ar y pwysau ariannol y mae'r cyngor yn ei wynebu ar hyn o bryd oherwydd costau a galw cynyddol am ofal cymdeithasol, ysgolion ac addysg, adeiladau, ffyrdd a pharciau, ochr yn ochr â'r galw cynyddol am nifer o wasanaethau eraill.

Darllenwch fwy yma
 

Rhaglen 'Gigs Bach' yn arddangos talent y dyfodol yng Nghlwb Ifor Bach

Roedd hi'n hydref pan aeth cyfres o 'Gigs Bach' gan rai o'r perfformwyr mwyaf poblogaidd ar y sîn gerddoriaeth Gymreig ar daith o gwmpas ysgolion uwchradd Caerdydd, gan gychwyn rhaglen Cyngor Caerdydd gyda'r nod o ysbrydoli dysgwyr a sicrhau talent ddawnus ar gyfer sector cerddoriaeth Caerdydd.

Yr wythnos diwethaf - ar ôl rhaglen fentora, hyfforddiant a chymorth gan bartneriaid y diwydiant cerddoriaeth, gan gynnwys Cerddcf, Anthem, a Sound Progression, yn ogystal â Duke al Durham, Maddie Jones, Alex Jones, Wonderbrass, Dflexx a Farrah - aeth disgyblion o ysgolion ledled Caerdydd i'r llwyfan yng Nghlwb Ifor Bach mewn cyfres o ddigwyddiadau arddangos arbennig o flaen cynulleidfa a oedd yn cynnwys DJ BBC 6 Music, Huw Stephens, a DJ BBC Radio 1, Sam MacGregor. 

Darllenwch fwy yma

 

Mae 85% o ddisgyblion Caerdydd yn mynychu ysgol sydd wedi ymrwymo i wreiddio hawliau plant

Fis Tachwedd diwethaf, cyhoeddwyd Caerdydd yn swyddogol yn Ddinas sy'n Dda i Blant UNICEF - y cyntaf o'i math yn y Deyrnas Unedig.

Dyfarnwyd y statws mawreddog a gydnabyddir yn rhyngwladol i gydnabod y camau y mae'r Cyngor a'i bartneriaid wedi'u cymryd i hyrwyddo hawliau dynol plant a phobl ifanc ledled y ddinas.

Wrth hyrwyddo hawliau plant, mae 55 o ysgolion Caerdydd bellach wedi ennill aur neu arian yng Ngwobrau Ysgolion sy'n Parchu Hawliau UNICEF. Mae hyn yn cydnabod bod ysgolion yn rhoi hawliau plant ar waith - lle mae plant yn cael eu parchu, eu doniau yn cael eu meithrin, a'u bod yn gallu ffynnu.

Trwy gefnogaeth gan dîm Caerdydd sy'n Dda i Blant, mae 85% o'r holl blant a phobl ifanc yn mynychu ysgol sydd â chynllun gweithredu hawliau ar waith.

Darllenwch fwy yma