16/7/24
Mae dwy ysgol gynradd yng Nghaerdydd wedi ennill gwobr o £100 yr un am gymryd rhan yn Rhaglen Cenhadon Democratiaeth Cyngor Caerdydd.
Mae Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd yn yr Eglwys Newydd ac Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Dewi Sant, Pentwyn wedi bod yn llwyddiannus yn y rhaglensydd wedi'i threfnu gan y tîm Gwasanaethau Etholiadol i gefnogi ysgolion cynradd ac uwchradd yn y ddinas i ddysgu mwy am ddemocratiaeth leol.
Gwahoddwyd athrawon ledled y ddinas i gofrestru fel Cenhadon Democratiaeth, i gael mynediad at ystod eang o adnoddau a syniadau i ennyn diddordeb disgyblion a myfyrwyr, hyfforddiant Datblygiad Proffesiynol Parhaus a chefnogaeth barhaus gan dîm y Gwasanaethau Etholiadol.
Roedd Ysgolion Cynradd Melin Gruffydd a Dewi Sant ymhlith19 ysgol - 17 ysgol gynradd a dwy ysgol uwchradd, a gymerodd ran yn y rhaglen dros y flwyddyn ysgol ddiwethaf.
Mae'r rhaglen wedi cynnwys ymweliadau â Neuadd y Sir lle mae disgyblion wedi dysgu am bleidleisio ac etholiadau, sut mae'r Cyngor yn gwneud penderfyniadau ac wedi cwrdd â'r Arglwydd Faer tra bod cynghorwyr lleol wedi ymweld ag ysgolion sy'n cymryd rhan i egluro eu rôl ac ateb cwestiynau'r plant.
Mae'r fenter hefyd wedi cynnwys gwersi, gwasanaethau ysgol a gweithdai ar y thema democratiaeth leol a sut y gall pawb gymryd rhan yn y broses.
Enillodd Ysgolion Cynradd Melin Gruffydd a Dewi Santy raffl yr oedd ysgolion yn cofrestru ar ei chyfer drwy ymuno â'r rhaglen cyn mis Hydref diwethaf. Gellir gwario'r wobr o £100 ar adnoddau i helpu addysgu am etholiadau a democratiaeth, teithiau ysgol i'r Senedd neu offer i alluogi ysgolion i gynnal eu hetholiadau eu hunain.
Dywedodd y Cynghorydd Bablin Molik, a oedd yn Arglwydd Faer Caerdydd adeg ymweliadau'r ysgolion â Neuadd y Sir: "Llongyfarchiadau i Ysgol Gynradd Melin Gruffydd ac Ysgol Gynradd Dewi Sant ar eu buddugoliaeth! Rydym wedi bod yn falch iawn o ymgysylltiad ysgolion â'r rhaglen eleni. Cafwyd llawer o hwyl wrth ddysgu am bwnc pwysig iawn.
"Mae athrawon wedi dweud wrthym fod y rhaglen wedi bod yn werth chweil, ac y bydd y wybodaeth a gafwyd a'r profiadau y mae eu disgyblion wedi'u cael drwy'r rhaglen nid yn unig yn gwella llais y disgybl yn eu hysgolion, ond hefyd yn cefnogi'r plant i ddod yn ddinasyddion mwy ymgysylltiedig wrth iddynt dyfu."
Mae cofrestru ar gyfer Rhaglen Cenhadon Democratiaeth 2024/25 bellach ar agor.
Gall ysgolion cynradd gofrestru yma: https://forms.office.com/e/XQg3KLQzc6 a gall ysgolion uwchradd gofrestru yma https://forms.office.com/e/8fKQm4Ae77
Am fwy o wybodaeth am y rhaglen, e-bostiwcherin.davies@caerdydd.gov.uk