Back
Cynnig ugain o gaeau pêl-droed 3G newydd fel rhan o strategaeth 'Anelu am yr Aur'


12/7/24

Mae 20 o gaeau 3G newydd yn cael eu cynnig gan Gyngor Caerdydd fel rhan o strategaeth hirdymor newydd mewn partneriaeth â Chymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC), Sefydliad Pêl-droed Cymru (SPC), a chynghreiriau lleol.

 

Nod y strategaeth 'Anelu am yr Aur' yw lleihau nifer y gemau sy'n cael eu canslo oherwydd y tywydd, denu buddsoddiad mewn caeau glaswellt, a chynyddu cyfranogiad mewn pêl-droed.

 

Os caiff ei gymeradwyo gan y Cabinet mewn cyfarfod a gynhelir ddydd Iau 18 Gorffennaf 2024, ac yn amodol ar ymgynghori â rhanddeiliaid, gallai'r strategaeth newydd hefyd weld rhesymoli caeau glaswellt yn nifer llai o safleoedd hybiau a gynhelir i lefel uchel ledled y ddinas, unwaith y bydd y caeau 3G newydd yn cael eu cyflwyno.

 

A group of kids playing footballDescription automatically generated

Pêl-droedwyr ifanc yn mwynhau cae 3G wedi'i agor yn ddiweddar yn Y Sblot.

 

Nod dull y hybiau yw gwella ansawdd caeau glaswellt a darparu cyfleusterau newid ac ategol o ansawdd gwell. Cynigir y bydd y prif safleoedd hyb ym Mharc Trelái yn y gorllewin, Caeau Pontcanna/y Gored Ddu yng nghanol Caerdydd a safle arall, sydd eto i'w nodi, yn nwyrain y ddinas. Efallai y bydd angen hybiau ychwanegol yn y gogledd neu'r de. Byddai'r hybiau'n gweithredu fel cyrchfannau aml-chwaraeon, gan ddarparu ar gyfer chwaraeon eraill fel Rygbi, Pêl fas a Phêl Feddal yn ogystal â Phêl-droed.

 

Dywedodd y Cynghorydd Jennifer Burke, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau:  "Mae dros 10,000 o chwaraewyr, 97 o glybiau a thros 1,000 o dimau yn gwneud pêl droed y gamp fwyaf poblogaidd yng Nghaerdydd - ac mae'n braf nodi poblogrwydd cynyddol gêm y merched yng Nghaerdydd, gyda merched yn cynrychioli mwy na 30% o chwaraewyr ar y lefel dan 13 oed - ond mae'r niferoedd hynny'n rhoi pwysau anhygoel ar y 70 cae glaswellt sy'n cael eu cynnal ar hyn o bryd gan y Cyngor.

 

"Mae symud i fodel hyb yn cael ei gefnogi gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru a Sefydliad Pêl-droed Cymru a byddai'n caniatáu i ni ganolbwyntio ein hadnoddau cynyddol gyfyngedig ar gynnal clystyrau o gaeau o ansawdd uwch, gyda chyfleusterau gwell.  Hefyd, o gyflwyno mwy o gaeau 3G pob tywydd bydd llai o ganslo ac, yn y pen draw, mwy o bobl yn chwarae pêl-droed bob wythnos."

 

Ar hyn o bryd, gellir colli 3-4 mis o bob tymor yn sgil canslo oherwydd y tywydd, gyda phroblemau sy'n cael eu hachosi gan gyfnodau hir o dywydd gwlyb wedi'u gwaethygu gan ddraenio gwael, ac mae sesiynau hyfforddi a gemau heb eu rheoleiddio yn cael eu chwarae y tu allan i gemau swyddogol yn arwain at rai caeau'n cael eu gorddefnyddio'n aml.

 

Byddai caeau 3G newydd, sydd â mwy na phedair gwaith capasiti chwarae caeau glaswellt, yn cael eu darparu fel rhan o raglen Ysgolion â Ffocws Cymunedol y Cyngor, gyda'r uchelgais o sicrhau y gall pob ysgol uwchradd yng Nghaerdydd gael mynediad at gae 3G.

 

Mae mynediad i gyfleusterau chwaraeon, gan gynnwys caeau chwarae 3G, yn parhau i fod yn un o'r ffyrdd gorau i drigolion lleol elwa o'r buddsoddiad sy'n cael ei wneud mewn ysgolion, ac mae'r cyngor yn cynnig ymgynghori ag ysgolion ar ddatblygu dull mwy cyson o ran caeau a chyfleusterau 3G ar eu safleoedd ar gael i'w defnyddio gan y gymuned leol y tu allan i oriau ysgol.

 

Mae'r Cyngor hefyd yn bwriadu parhau â'i waith parhaus i drosglwyddo caeau a chyfleusterau newid i glybiau pêl-droed lleol allu hunan-reoli. Mae'r trefniadau hyn yn rhoi'r sicrwydd hirdymor sydd ei angen ar glybiau i ddenu buddsoddiad i wella cyfleusterau trwy gael mynediad at gyllid allanol gan gyrff llywodraethu chwaraeon nad yw ar gael i gynghorau.

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Burke: "Mae'r trefniadau hunan-reoli ffurfiol hyn eisoes yn helpu clybiau lleol i adeiladu'r cyfleusterau newid, tyllau ymochel a'r grandstandiau sydd eu hangen i symud ymlaen trwy'r cynghreiriau, ac rydym yn credu y gallai fod llawer mwy o glybiau a allai, gyda'n cefnogaeth ni, elwa o gymryd cyfrifoldeb dros gynnal a chadw eu caeau cartref."

 

Unwaith y bydd y stoc bresennol o gaeau 3G wedi cynyddu'n sylweddol, mae'r Cyngor yn bwriadu symud tuag at safleoedd hybiau a chanolbwyntio ei waith cynnal a chadw caeau glaswellt yn y lleoliadau hyn.

 

Byddai'r holl gaeau presennol nad ydynt yn cael eu trosglwyddo i glybiau i hunan-reoli neu nad ydynt yn rhan o un o safleoedd hybiau'r dyfodol yn parhau fel man agored cyhoeddus mewn cymunedau, ar gael ar gyfer defnydd hamdden a chwaraeon anffurfiol, ond ni fyddent bellach wedi'u gosod allan yn ffurfiol fel caeau chwarae ac ni fyddent yn ddarostyngedig i'r drefn torri gwair bresennol.

 

Byddai'r holl gaeau glaswellt sy'n cael eu rheoli eu hunain gan glybiau, neu sy'n rhan o'r safleoedd hybiau newydd yn parhau i fod ar gael i'r cyhoedd, pan na fydd clybiau'n eu defnyddio.

 

Gellir gweld adroddiad Fframwaith Strategol Cyfleusterau Pêl-droed Caerdydd yn llawn, yma: https://cardiff.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=142&MId = 8471&LLL = 0

 

Bydd y Cabinet yn trafod yr adroddiad yn eu cyfarfod ar Ddydd Iau 18 Gorffennaf. Bydd papurau a ffrwd fyw o'r cyfarfod ar gael i'w gweld yma:  https://cardiff.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=151&MId=8473&LLL=0

 

Cyn cyfarfod y Cabinet, bydd Pwyllgor Craffu'r Economi a Diwylliant yn craffu ar yr adroddiad yn eu cyfarfod cyhoeddus am 5pm ar ddydd Mawrth 11 Gorffennaf. Bydd yr holl bapurau sy'n ymwneud â'r cyfarfod ar gael yma: https://cardiff.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=142&MId=8471&LLL=0 lle bydd ffrwd fyw o'r cyfarfod hefyd ar gael ar y diwrnod.