Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 9 Gorffennaf 2024
 Dyma’ch diweddariad dydd Mawrth.
 

Mae angen 'chwyldro ynni gwyrdd' ar Gaerdydd i gyrraedd sero-net

Bydd angen newidiadau sylweddol ar system ynni Caerdydd, gan gynnwys datblygu ffermydd solar newydd, paneli solar wedi'u gosod ar doeau ar filoedd o eiddo domestig, nifer o dyrbinau gwynt, mabwysiadu pympiau gwres yn eang a gwaith uwchraddio i'r grid cenedlaethol, er mwyn cyflawni sero-net, yn ôl Cynllun Ynni Ardal Leol (CYAL) newydd ar gyfer y ddinas.

 

Mae Cynlluniau Ynni Ardal Leol yn cael eu datblygu ar gyfer pob un o ardaloedd awdurdodau lleol Cymru ac wedi cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru, a fydd yn defnyddio'r canfyddiadau i lywio a datblygu eu cynlluniau a'u polisïau ynni cenedlaethol.

 

Mae National Grid Electricity Distribution (Western Power gynt) a Wales & West Utilities wedi ymrwymo hefyd i ddefnyddio'r Cynllun i lywio eu strategaethau datgarboneiddio.

 

Darllenwch fwy yma https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/33831.html

 

Lansio ymgynghoriad ar gynlluniau i warchod 11 o barciau yng Nghaerdydd

Mae ymgynghoriad cyhoeddus wyth wythnos wedi'i lansio ar gynlluniau i warchod 11 o barciau yng Nghaerdydd a sicrhau eu bod yn parhau i fod yn fannau gwyrdd sydd ar gael i'r cyhoedd.

 

Yn amodol ar ganlyniadau’r ymgynghoriad, mae Cyngor Caerdydd yn cynnig ymrwymo i gytundeb cyfreithiol a elwir yn 'weithred gyflwyno' gyda Fields In Trust - elusen annibynnol ledled y DU sy'n ymroddedig i warchod parciau a mannau gwyrdd.

 

O dan delerau'r cytundeb, byddai'n rhaid i'r Cyngor gynnal a chadw'r tir at y dibenion chwarae a hamdden awyr agored yn unig - sy'n golygu na ellid ei werthu i'w ddatblygu na'i ddatblygu gan y Cyngor.

 

Darllenwch fwy yma https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/33828.html

  

Canllaw i helpu i leihau'r risg o ddementia bellach ar-lein

 

Mae adnodd newydd i helpu preswylwyr i ddeall sut i leihau eu tebygolrwydd o ddatblygu dementia bellach ar gael ar-lein.

Mae'r canllaw - 'Lleihau'ch risg o ddatblygu dementia', yn rhoi gwybodaeth am rai o'r ffactorau risg sy'n gysylltiedig â datblygu dementia a sut y gall gwneud newidiadau nawr helpu i gadw'ch corff yn iach ac atal niwed i'ch ymennydd.

Cynhyrchwyd y canllaw mewn partneriaeth gan Gaerdydd sy'n Deall Dementia, Y Fro Dementia-Gyfeillgar a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.

Darllenwch y canllaw yma https://bipcaf.gig.cymru/ein-gwasanaethau/dementia/ynglyn-a-dementia/dementia-prevention-booklet-cy-pdf/

 

Tîm y Cyngor yn helpu i drawsnewid Stadiwm Principality ar gyfer hwyl Monster Jam

 

Creodd 4,000 tunnell o bridd o Motocross Caerdydd y trac epig ar gyfer Monster Jam yn Stadiwm Principality y penwythnos diwethaf! 

Diolch yn fawr iawn i Mark Thomas, arweinydd ein Rhaglen Addysg Alwedigaethol a'i dîm, am gydlynu'r gwaith o ddosbarthu 222 o lwythi lori o bridd dros ddau ddiwrnod

 

 

Llain ‘dim torri’r gwair’ yn gartref i 39 o rywogaethau o blanhigion

Mae llain yng Nghyncoed, 1 o 33 safle newydd eleni lle nad yw gwair yn cael ei dorri tan fis Medi, i gefnogi natur eisoes yn gartref i 39 o rywogaethau o blanhigion!

 

Mae 144 o safleoedd fel hyn yng Nghaerdydd nawr - ardal maint 272 o gaeau pêl-droed.

 

Darllenwch fwy yma https://www.cardiffnewsroom.co.uk/releases/c25/33388.html