8.7.24
Bydd angen newidiadau sylweddol ar system ynni Caerdydd, gan gynnwys datblygu ffermydd solar newydd, paneli solar wedi'u gosod ar doeau ar filoedd o eiddo domestig, nifer o dyrbinau gwynt, mabwysiadu pympiau gwres yn eang a gwaith uwchraddio i'r grid cenedlaethol, er mwyn cyflawni sero-net, yn ôl Cynllun Ynni Ardal Leol (CYAL) newydd ar gyfer y ddinas.
Mae Cynlluniau Ynni Ardal Leol yn cael eu datblygu ar gyfer pob un o ardaloedd awdurdodau lleol Cymru ac wedi cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru, a fydd yn defnyddio'r canfyddiadau i lywio a datblygu eu cynlluniau a'u polisïau ynni cenedlaethol.
Mae National Grid Electricity Distribution (Western Power gynt) a Wales & West Utilities wedi ymrwymo hefyd i ddefnyddio'r Cynllun i lywio eu strategaethau datgarboneiddio.
Meddai Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Newid Hinsawdd, y Cynghorydd Dan De'Ath: "Mae'r dystiolaeth bellach yn glir - mae angen chwyldro ynni gwyrdd ar Gaerdydd a fydd yn galluogi'r ddinas i gyrraedd targed Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru sero-net erbyn 2050, pweru ei dyfodol a chreu swyddi medrus newydd."
"Cynllun ar gyfer y ddinas gyfan yw hwn ac nid yw llawer o'r hyn sydd ei angen - er enghraifft cynyddu capasiti'r grid cenedlaethol - yn rhywbeth i'r Cyngor ei gyflawni ei hun, ond rydym wedi gweithio'n agos gyda darparwyr seilwaith ynni, busnesau a diwydiannau i ddatblygu'r cynllun, fel y gall fod yn sylfaen dystiolaeth allweddol i arwain datblygiad system ynni wyrddach."
Ar sail data helaeth a gasglwyd gan bartneriaid a rhanddeiliaid ar draws y ddinas-ranbarth a gan ddefnyddio technegau modelu safonol y diwydiant, mae'r cynllun yn amlinellu gweledigaeth o sut olwg fyddai ar system ynni carbon sero-net i Gaerdydd erbyn 2050, gan nodi angen am:
Paneli ffotofoltäig solar 120MW wedi'u gosod ar y ddaear (sy'n gyfwerth â 12 fferm solar Ffordd Lamby).
Yn ogystal â hyn, bydd angen mewnforio tua 4410Gwh o drydan o ffynonellau adnewyddadwy - tua 78% o drydan Caerdydd - o'r tu allan i'r ddinas o hyd.
Aeth y Cynghorydd De'Ath ymlaen: "Heddiw, mae un fferm solar yng Nghaerdydd - mae'r cyfleuster 9MW newydd sy'n eiddo i'r Cyngor ar hen safle tirlenwi Ffordd Lamby. Mae'r ffaith ei bod yn debygol y bydd angen adeiladu cyfwerth â deuddeg ohonynt eto dros y 25 mlynedd nesaf yn tynnu sylw at raddfa'r hyn sydd angen ei gyflawni.
"Bydd yn her - a bydd angen sicrhau buddsoddiad sylweddol yn y sector preifat a chyllid allanol - ond mae yna gamau y gall y Cyngor eu cymryd i gefnogi'r cynllun nawr ac yn y dyfodol: integreiddio'r canfyddiadau i'r Cynllun Datblygu Lleol Newydd ac edrych ar newidiadau i ganllawiau cynllunio; defnyddio data'r cynllun i ddatblygu polisïau economaidd sy'n hwyluso'r broses bontio a sicrhau'r potensial gorau posibl ar gyfer twf economaidd gwyrdd; a datblygu Bargen Werdd ar gyfer y ddinas a fydd yn gyrru ein strategaeth Caerdydd Un Blaned yn ei blaen ac yn helpu i sicrhau dyfodol carbon niwtral i Gaerdydd."
Bydd y Cynllun Ynni Ardal Leol yn cael ei drafod gan Gabinet Cyngor Caerdydd mewn cyfarfod a gynhelir am 2pm ar 18 Gorffennaf. Bydd yr holl bapurau sy'n ymwneud â'r cyfarfod ar gael cyn hynny, ynghyd â gwe-ddarlledu byw ar y diwrnod, yma: https://cardiff.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=143&MId=8224&LLL=1
Cyn y Cabinet, bydd y Pwyllgor Craffu Amgylcheddol yn craffu ar y Cynllun Ynni Ardal Leol yn eu cyfarfod cyhoeddus am 4.30pm ddydd Iau 11 Gorffennaf. Bydd yr holl bapurau sy'n ymwneud â'r cyfarfod ar gael yma: https://cardiff.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=142&MId=8471&LLL=0 lle bydd gwe-ddarlledu byw o'r cyfarfod hefyd ar gael ar y diwrnod.