8.7.24
Mae ymgynghoriad cyhoeddus wyth wythnos wedi'i lansio ar gynlluniau i warchod 11 o barciau yng Nghaerdydd a sicrhau eu bod yn parhau i fod yn fannau gwyrdd sydd ar gael i'r cyhoedd.
Yn amodol ar ganlyniadau'r ymgynghoriad, mae Cyngor Caerdydd yn cynnig ymrwymo i gytundeb cyfreithiol a elwir yn 'weithred gyflwyno' gyda Fields In Trust - elusen annibynnol ledled y DU sy'n ymroddedig i warchod parciau a mannau gwyrdd.
Parc Trelái, un o'r parciau y mae Cyngor Caerdydd yn cynnig ei warchod.
O dan delerau'r cytundeb, byddai'n rhaid i'r Cyngor gynnal a chadw'r tir at y dibenionchwarae a hamdden awyr agored yn unig - sy'n golygu na ellid ei werthu i'w ddatblygu na'i ddatblygu gan y Cyngor.
Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd y Cyngor: "Fyddai Caerdydd ddim yn Gaerdydd heb ei pharciau a'i mannau gwyrdd. Byddai ein cynllun yn fwy na dyblu nifer y parciau dinesig sy'n cael eu gwarchod rhag datblygiad ac yn golygu bod 254,000 o drigolion - 69% o'r boblogaeth - yn byw o fewn taith 10 munud ar droed i fannau gwyrdd gwarchodedig."
Y parciau a gynigir ar gyfer y gwarchod hyn yw:
Byddai Cyngor Caerdydd yn parhau i berchen ar y safleoedd ac i fod yn gyfrifol am eu rheoli a'u cynnal a'u cadw.
Parhaodd y Cynghorydd Thomas "Nid yw gwerthu parciau ar gyfer datblygu ar yr agenda, ond nid ydym yn gwybod beth allai gweinyddiaeth wahanol gyda blaenoriaethau gwahanol fod eisiau ei wneud yn y dyfodol. Bydd gwarchod y safleoedd hyn gyda Fields in Trust bellach yn sicrhau eu bod yn cael eu gwarchod er mwyn i genedlaethau'r dyfodol eu mwynhau."
"Gallai hyn fod yn gam cadarnhaol iawn, ond cyn i ni fynd ymhellach, mae'n bwysig bod trigolion yn cael cyfle i rannu eu barn."
Gall trigolion ddysgu mwy am y cynlluniau, a rhannu eu barn mewn arolwg byr ar-lein cyn iddo gau ar 2 Medi 2024, yma: https://www.outdoorcardiff.com/cy/parciau/cynigion-i-warchod-mannau-gwyrdd/
Mae deg safle sy'n eiddo i'r cyngor eisoes wedi'u gwarchod yn barhaol gan Fields In Trust. Sef: Gerddi Alexandra, Gerddi'r Faenor, Parc y Mynydd Bychan, Man Agored Hywel Dda, Parc Llanisien, Parc y Morfa, Caeau Pontcanna, Caeau Pontprennau, Cae Rec y Rhath a Chae Rec Tredelerch.
Mae Cae Rec Creigiau a Chae Chwarae Pentref Llaneirwg hefyd yn cael eu gwarchod yn y modd hwn. Mae'r safleoedd hyn yn cael eu rheoli gan gynghorau cymuned lleol.