Gweithiodd
dros 1,200 o staff – y mwyafrif o staff y cyngor – ddoe a thrwy’r nos yng
nghyfrif Etholiad Cyffredinol Caerdydd.
O agor a rheoli gorsafoedd pleidleisio
i gludo pleidleisiau yn ddiogel i gyfri canolfannau; o gyfrif pleidleisiau i
reoli'r cyfryngau, roedd staff y cyngor yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o
gynnal yr etholiad ym mhrifddinas Cymru.
Dywedodd
Prif Weithredwr Cyngor Caerdydd a Swyddog Canlyniadau Cyngor Caerdydd, Paul
Orders: "Roeddwn i eisiau
achub ar y cyfle hwn i ddiolch i Dîm Gwasanaethau Etholiadol y Cyngor a
weithiodd yn galed i gael yr holl drefniadau angenrheidiol yn eu lle ar fyr
rybudd, a diolch hefyd i bawb arall a chwaraeodd eu rhan yn gweithio ar yr
etholiad hwn.
"Rydych
chi i gyd wedi gwneud gwaith gwych gyda llawer yn gweithio oriau hir. Ni
orffennodd ein timau cyfrif tan oriau mân y bore.Bydd pawb a weithiodd yn yr etholiad wedi blino heddiw, ond
fe ddylen nhw fod yn falch o'u hymdrechion."
Cafodd yr Etholiad
Cyffredinol ddoe yng Nghaerdydd ei ymladd dros 4 etholaeth. Dyma’r canlyniadau:
Dwyrain Caerdydd – Jo
Stevens - Etholwyd Llafur Cymru a
chafodd 15,833 o bleidleisiau (40%)
· Cyfanswm y pleidleisiau a fwriwyd oedd 39,123 o
etholaeth o 72,876
· Y ganran a bleidleisiodd – 54%
Gogledd Caerdydd – Anna
McMorrin - Etholwyd Llafur Cymru a
chafodd 20,849 o bleidleisiau (44%)
· Cyfanswm y pleidleisiau a fwriwyd oedd 47,473 o
etholaeth o 71,460
· Y ganran a bleidleisiodd – 67%
De Caerdydd a Phenarth –
Stephen John Doughty - Etholwyd y Blaid Gydweithredol a Llafur a chafodd 17,428 o bleidleisiau
(44%)
· Cyfanswm y pleidleisiau a fwriwyd oedd 39,176 o
etholaeth o 73,060
· Y ganran a bleidleisiodd – 54%
Gorllewin Caerdydd – Alex
Barros-Curtis - Etholwyd Llafur Cymru a
chafodd 16,442 o bleidleisiau (37%)
· Cyfanswm y pleidleisiau a fwriwyd oedd 44,757 o
etholaeth o 75,697
· Y ganran a bleidleisiodd – 59%.
Cyngor teithio ar gyfer Monster Jam ar 6 Gorffennaf 6 yn
Stadiwm Principality yng Nghaerdydd
Wrth i Monster Jam gael ei gynnal yn Stadiwm
Principality, bydd holl ffyrdd canol y ddinas gyfan ar gau o amgylch y stadiwm
ar 6 Gorffennaf rhwng 11.30am a 7.30pm.
Bydd Stryd y Castell, o gyffordd Heol y Gogledd hyd at Heol y Porth yn
parhau ar gau tan hanner nos oherwydd cyngerdd Manic
Street Preachers a Suede ar diroedd y Castell.
Mae disgwyl i draffordd yr M4 fod yn brysur
oherwydd y digwyddiad hwn - felly cynlluniwch ymlaen llaw – ac os ydych
yn mynd i’r Monster Jam, osgowch y tagfeydd yng Nghaerdydd drwy ddefnyddio’r
cyfleusterau parcio a theithio ym maes parcio hen safle Toys R Us yn y Pentref
Chwaraeon - CF11 0JS. Mae’r cyfleuster parcio
a theithio’n cau am 7.30pm, felly nid ar gael i’w rhai sy’n mynychu’r cyngerdd
ar dir Castell Caerdydd.
Gallwch chi weld gwybodaeth gyfredol am y draffordd a chefnffyrdd ar wefan Traffig Cymru, neu @TrafficWalesS ar Twitter a Facebook.
Mae pobl sy'n
mynd i’r digwyddiad yn cael eu cynghori'n gryf i gynllunio eu taith ymlaen llaw
a mynd i mewn i'r stadiwm yn gynnar. Sylwch ar yr eitemau gwaharddedig
wedi’u rhestru yn https://www.principalitystadium.wales/safety-and-security/, yn arbennig y
polisi bagiau (dim bagiau mawr) cyn teithio i'r ddinas.