Back
Ysgol Gynradd yr Holl Saint yr Eglwys yng Nghymru wedi ei chanmol gan Estyn am ethos gofalgar cryf

27/6/2024

Mae Estyn, arolygiaeth addysg Cymru, wedi ymweld ag Ysgol Gynradd yr Holl Saint yr Eglwys yng Nghymruyn Llanedern yn ddiweddar ac mae ei hadroddiad yn cydnabod awyrgylch meithringar ac arweinyddiaeth effeithiol yr ysgol.

Darganfu arolygwyr foddisgyblion yn cael eu hannog i fod yn ddysgwyr caredig, gofalgar, a brwdfrydig sy'n arddangos ymddygiad rhagorol.  

Dywedwyd bod arweinyddiaeth effeithiol wedi bod yn gonglfaen i lwyddiant yr ysgol ac mae'r pennaeth gweithredol a phennaeth yr ysgol wedi cydweithio i greu gweledigaeth glir ar gyfer gwella addysgu a dysgu. Cefnogwyd y weledigaeth hon gan gydweithrediad staff a gweithredu cwricwlwm sy'n seiliedig ar ymchwiliad, gan roi llais cryf i ddisgyblion yn eu haddysg. 

Mae'r adroddiad yn nodi bod athrawon yn cael eu grymuso i archwilio dulliau addysgu newydd, gan elwa o ymddiriedaeth a hyder y tîm arweinyddiaeth ac mae'r ymagwedd arloesol hon yn effeithio'n gadarnhaol ar les staff a chanlyniadau myfyrwyr.

Canfuwyd hefyd bod yr ysgol wedi ymrwymo i welliant parhaus gyda gweithdrefnau cadarn ar waith a bod disgyblion yn gyffredinol yn gwneud cynnydd cadarn, gan ddod yn hyderus ac yn alluog wrth gymhwyso eu sgiliau ar draws y cwricwlwm. 

Dywedodd Claire Cook, Pennaeth Ffederasiwn y Seintiau: "Mae Ysgol Gynradd yr Holl Saint yr Eglwys yng Nghymru yn lle arbennig iawn lle mae plant a staff yn teimlo'n ddiogel ac yn cael eu gwerthfawrogi. Mae hyn o ganlyniad i dîm cryf sy'n darparu profiadau addysgu a dysgu meithringar a heriol, sy'n hyrwyddo ethos Cristnogol ein hysgol. Rydym am i bob plentyn sy'n ymuno â'r Holl Saint gyflawni eu gorau ac mae staff wedi ymrwymo i sicrhau bod gan bob plentyn yr addysgu a'r dysgu o'r safon uchaf sy'n paratoi ein plant ar gyfer byd sy'n newid yn barhaus.

"Mae'r staff a'r corff llywodraethu yn falch iawn o'n hadroddiad arolygu diweddar sy'n cydnabod gwerthoedd y plant a'u brwdfrydedd tuag at eu dysgu, fodd bynnag nid ydym yn hunanfodlon, a'r her nawr yw parhau i ffynnu fel 'Ffederasiwn y Seintiau'.

"Hoffwn gydnabod yn gyhoeddus ymroddiad ein staff, ein llywodraethwyr, ein rhieni a'n partneriaid. Rwy'n ddiolchgar iawn i bawb am gyfoethogi bywydau ein disgyblion ac, wrth wneud hynny, cryfhau'r gymuned ehangach." 

Ar y cyfan, dyma adroddiad cadarnhaol, ac mae Estyn wedi gwneud dau argymhelliad y bydd yr ysgol yn mynd i'r afael â nhw yn ei chynllun gweithredu. Gwella profiadau addysgol i ddisgyblion yn y dosbarth derbyn hyd at Flwyddyn 2 drwy hyrwyddo annibyniaeth a chwilfrydedd a chryfhau'r ddarpariaeth ar gyfer datblygu sgiliau lleferydd Cymraeg a galluoedd datrys problemau mathemategol. 

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Mae'r adroddiad arolygu yn tynnu sylw at rywfaint o'r gwaith cadarnhaol sy'n digwydd yn Ysgol Gynradd yr Holl Saint yr Eglwys yng Nghymru ac mae'n amlwg bod disgyblion yn hyderus, yn hapus ac wedi'u gwreiddio mewn amgylchedd diogel lle mae ymddiriedaeth mewn staff yn hollbwysig. 

"Maen nhw'n cymryd rhan eiddgar mewn sgyrsiau am eu profiadau yn yr ysgol ac yn teimlo eu bod wedi'u grymuso trwy gael dweud eu dweud yn eu cwricwlwm. Roedd yn galonogol clywed, trwy grwpiau llais y disgybl amrywiol, fel y Grŵp Hawliau, eu bod yn cyfrannu'n weithredol at newidiadau cadarnhaol, gan feithrin dealltwriaeth o'u hawliau a'u gwerthoedd dosbarth."

"Bydd yr ysgol yn cael ei chefnogi i fynd i'r afael â'r argymhellion gan Estyn fel bod modd gwneud gwelliannau a gall yr ysgol barhau i deimlo'n ddiogel, wedi'i chefnogi ac yn llawn cymhelliant i ddysgu."

Adeg yr arolygiad, roedd gan Ysgol Gynradd yr Holl Saint yr Eglwys yng Nghymru 141 o ddisgyblion ar y gofrestr. Mae 21.6% o'r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, mae 11.2% o ddisgyblion yn nodi bod ganddynt anghenion dysgu ychwanegol ac mae 9.0% yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol.