Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, sy'n cynnwys:
Cau ffyrdd ar gyfer gorymdaith Pride Cymru ar 22 Mehefin
Mae Pride Cymru yn ôl gyda gŵyl ddeuddydd wedi'i threfnu yng nghanol dinas Caerdydd ar 22 a 23 Mehefin.
Bydd yr orymdaith ar 22 Mehefin a bydd ffyrdd ar gau i sicrhau y gellir cynnal y digwyddiad yn ddiogel.
Bydd pawb yn ymgynnull ar Heol y Porth cyn dechrau'r orymdaith am 11am a cherdded i fyny Stryd y Castell i'r Stryd Fawr, ac yna Heol Eglwys Fair, yn ôl i'r Ais, ymlaen i Heol Eglwys Ioan, ar hyd Heol y Frenhines, i fyny Plas y Parc, yn ôl ar hyd Heol y Brodyr Llwydion, ymlaen i Ffordd y Brenin a gorffen ar Stryd y Castell.
Cyngor teithio ar gyfer y Foo Fighters ar 25 Mehefin yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd
Bydd y Foo Fighters yn perfformio yn Stadiwm Principality ar 25 Mehefin. Bydd gatiau'r stadiwm yn agor am 4pm, felly bydd ffyrdd canol y ddinas yn cau'n llawn o gwmpas y stadiwm o 3pm tan hanner nos.
Mae disgwyl i draffordd yr M4 fod yn brysur iawn oherwydd y cyngerdd hwn - felly cynlluniwch ymlaen llaw - ac osgowch y tagfeydd yng Nghaerdydd drwy ddefnyddio'r cyfleuster parcio a theithio yng Nghlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd yn Lecwydd - CF11 8AZ.
Gallwch chi weld gwybodaeth gyfredol am y draffordd a chefnffyrdd ar wefan Traffig Cymru, neu @TrafficWalesS ar Twitter a Facebook.
Mae pobl sy'n mynd i'r cyngerdd yn cael eu cynghori'n gryf i gynllunio eu taith o flaen llaw a mynd i mewn i'r stadiwm yn gynnar. Darllenwch y rhestr o eitemau gwaharddedig yn principalitystadium.cymru, yn arbennig y polisi bagiau (dim bagiau mawr) cyn teithio i'r ddinas.
Adroddiad Blynyddol yn Tynnu Sylw at Addewid Caerdydd i Blant sy'n Derbyn Gofal
Mae adroddiad a gyhoeddwyd gan Bwyllgor Cynghori Rhianta Corfforaethol y Cyngor yn tynnu sylw at ymroddiad Caerdydd i gynnig y gofal a'r gefnogaeth orau i blant sy'n derbyn gofal a phobl sy'n gadael gofal.
Mae'r Pwyllgor yn cydweithio ag amryw sectorau, gan gynnwys Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd, Addysg ac asiantaethau statudol eraill, i sicrhau cyfrifoldeb cyfunol dros les plant sy'n derbyn gofal, gan ymdrechu i ddiogelu eu buddiannau a rhoi'r cyfleoedd gorau iddynt lwyddo mewn bywyd.
Mae Adroddiad Blynyddol 2023/2024 yn tynnu sylw at yr ystod o fentrau a gynhaliwyd gan y Pwyllgor Cynghori Rhianta Corfforaethol dros y flwyddyn ddiwethaf ac yn nodi nifer o weithgareddau allweddol megis ehangu'r gwasanaethau lles emosiynol ac iechyd meddwl, darpariaeth integredig i blant a phobl ifanc gydag un pwynt mynediad a'r dull Dim Drws Anghywir. Mae nifer o welliannau yn cynnwys twf sylweddol yn y gweithlu, un pwynt mynediad gyda llinell ymgynghori ar gyfer gweithwyr proffesiynol, a llwybrau clir o lwyfannau gofal a chyfathrebu a gyd-gynhyrchwyd gyda phlant a phobl ifanc.
Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at ddatblygiad cyflym y Strategaeth Llety a ddatblygwyd i nodi'r weledigaeth a'r cyfeiriad ar gyfer darparu gwasanaethau dros y tair blynedd nesaf. Mae'n amlinellu sut y bydd Caerdydd yn ceisio gweithio gyda phartneriaid i ddiwallu anghenion plant, pobl ifanc a'u teuluoedd, gan ddefnyddio'r dull lleiaf ymyrrol. Mae'n canolbwyntio ar dri maes allweddol: Lle, Pobl ac Ymarfer ac mae'n rhoi trosolwg o'r cynlluniau uchelgeisiol i gynyddu'r ddarpariaeth gofal preswyl i blant a phobl ifanc. Mae'r cynigion am wneud defnydd o'r asedau sydd eisoes yn bodoli o fewn yr awdurdod, yn ogystal â chaffael a datblygu nifer o eiddo eraill.
Canmoliaeth i Ysgol Gynradd Llys-faen am safonau ac arweinyddiaeth eithriadol
Yn ystod ymweliad diweddar ag Ysgol Gynradd Llys-faen, mae Estyn wedi canmol yr ysgol am ei safonau eithriadol, ei harweinyddiaeth ragorol a'i hamgylchedd meithringar sy'n cefnogi pob disgybl i gyflawni lefelau uchel o lwyddiant.
Disgrifiwyd yr ysgol gan arolygwyr o Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru fel sefydliad hynod lwyddiannus a hapus lle mae safonau uchel yn treiddio i bob agwedd ar ei bywyd a'i gwaith.
Mae'r adroddiad arolygu yn tynnu sylw at yr arweinyddiaeth gref ac effeithiol a ddarperir gan y pennaeth, y llywodraethwyr a'r uwch arweinwyr. Mae eu dealltwriaeth ddofn o gryfderau'r ysgol a'r meysydd i'w gwella, ynghyd â chasglu tystiolaeth gywir am berfformiad yn rheolaidd a chynllunio effeithiol, yn sicrhau bod unrhyw ddiffygion yn cael sylw cyflym.
Mae'r adroddiad yn nodi bod bron pob disgybl, gan gynnwys y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY), yn gwneud cynnydd cryf iawn ac mae'r cwricwlwm sydd wedi'i gynllunio'n dda a'r cyfleoedd cwricwlaidd ehangach yn rhoi profiadau dysgu dilys a chyffrous i ddisgyblion.
Mae llawer o ddisgyblion yn hynod gymwys mewn mathemateg, yn dangos sgiliau ysgrifennu aeddfed at wahanol ddibenion, ac yn cyflawni safonau uchel iawn mewn llafaredd a darllen ac mae dull ysgol gyfan yr ysgol o addysgu a hyrwyddo'r Gymraeg wedi arwain at y rhan fwyaf o ddisgyblion yn datblygu sgiliau Cymraeg cynhwysfawr ac ymwybyddiaeth gref o hanes, diwylliant a phobl Cymru (cynefin).
Mae'r ddarpariaeth i gefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn hynod effeithiol, gan arwain at gynnydd sylweddol o fannau cychwyn unigol ac mae'r adroddiad yn canmol ansawdd uchel yr addysgu, gan nodi bod y rhan fwyaf o athrawon yn cynllunio gwersi sy'n adeiladu ar ddysgu blaenorol disgyblion ac yn gosod disgwyliadau uchel. Mae'r dull hwn yn annog disgyblion i ymateb yn gadarnhaol i heriau a datblygu brwdfrydedd dros ddysgu.
Canfu'r arolygiad fod bron pob disgybl yn ymddwyn yn berffaith, gan ryngweithio â'i gilydd mewn modd gofalgar a chefnogol. Mae'r berthynas cadarnhaol rhwng disgyblion a staff, ynghyd ag amgylchedd meithringar, yn sicrhau bod lles disgyblion yn cael ei gefnogi'n dda. Mae yna hefyd ddiwylliant cryf o ddiogelu yn yr ysgol.