Back
Canmoliaeth i Ysgol Gynradd Llys-faen am safonau ac arweinyddiaeth eithriadol

19/62024

Yn ystod ymweliad diweddar ag Ysgol Gynradd Llys-faen, mae Estyn wedi canmol yr ysgol am ei safonau eithriadol, ei harweinyddiaeth ragorol a'i hamgylchedd meithringar sy'n cefnogi pob disgybl i gyflawni lefelau uchel o lwyddiant.

Disgrifiwyd yr ysgol gan arolygwyr o Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru fel sefydliad hynod lwyddiannus a hapus lle mae safonau uchel yn treiddio i bob agwedd ar ei bywyd a'i gwaith.

Mae'r adroddiad arolygu yn tynnu sylw at yr arweinyddiaeth gref ac effeithiol a ddarperir gan y pennaeth, y llywodraethwyr a'r uwch arweinwyr. Mae eu dealltwriaeth ddofn o gryfderau'r ysgol a'r meysydd i'w gwella, ynghyd â chasglu tystiolaeth gywir am berfformiad yn rheolaidd a chynllunio effeithiol, yn sicrhau bod unrhyw ddiffygion yn cael sylw cyflym.

Mae'r adroddiad yn nodi bod bron pob disgybl, gan gynnwys y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY), yn gwneud cynnydd cryf iawn ac mae'r cwricwlwm sydd wedi'i gynllunio'n dda a'r cyfleoedd cwricwlaidd ehangach yn rhoi profiadau dysgu dilys a chyffrous i ddisgyblion.

Mae llawer o ddisgyblion yn hynod gymwys mewn mathemateg, yn dangos sgiliau ysgrifennu aeddfed at wahanol ddibenion, ac yn cyflawni safonau uchel iawn mewn llafaredd a darllen ac mae dull ysgol gyfan yr ysgol o addysgu a hyrwyddo'r Gymraeg wedi arwain at y rhan fwyaf o ddisgyblion yn datblygu sgiliau Cymraeg cynhwysfawr ac ymwybyddiaeth gref o hanes, diwylliant a phobl Cymru (cynefin).

Mae'r ddarpariaeth i gefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn hynod effeithiol, gan arwain at gynnydd sylweddol o fannau cychwyn unigol ac mae'r adroddiad yn canmol ansawdd uchel yr addysgu, gan nodi bod y rhan fwyaf o athrawon yn cynllunio gwersi sy'n adeiladu ar ddysgu blaenorol disgyblion ac yn gosod disgwyliadau uchel. Mae'r dull hwn yn annog disgyblion i ymateb yn gadarnhaol i heriau a datblygu brwdfrydedd dros ddysgu.

Canfu'r arolygiad fod bron pob disgybl yn ymddwyn yn berffaith, gan ryngweithio â'i gilydd mewn modd gofalgar a chefnogol. Mae'r berthynas cadarnhaol rhwng disgyblion a staff, ynghyd ag amgylchedd meithringar, yn sicrhau bod lles disgyblion yn cael ei gefnogi'n dda. Mae yna hefyd ddiwylliant cryf o ddiogelu yn yr ysgol.

Dywedodd Melanie Jenkins, y Pennaeth: "Rwyf wrth fy modd gyda'n hadroddiad Estyn, sy'n tynnu sylw at ymdrechion diflino fy staff i sicrhau'r gorau i bob disgybl ac yn dathlu'r holl bethau sy'n annwyl i ni yma yn Ysgol Gynradd Llys-faen.

"Mae'r staff yn ymroddedig iawn ac yn gweithio'n galed iawn i greu amgylchedd ysgol meithringar, cynhwysol a bywiog yn ogystal â llunio cwricwlwm deniadol a pherthnasol sy'n helpu ein disgyblion i ragori yn eu dysgu. Mae'r adroddiad yn adlewyrchu'r 'safonau uchel sy'n treiddio i bob agwedd ar fywyd ysgol' yma yn Llys-faen ac yn dathlu cyflawniad ein holl ddisgyblion, y bartneriaeth â'n rhieni a gofal ac ymroddiad anhygoel ein staff a'n llywodraethwyr. Rwy'n hynod falch o fod yn Bennaeth ysgol mor wych."

Er bod yr adroddiad yn gadarnhaol yn gyffredinol, mae Estyn wedi gwneud un argymhelliad i'r ysgol ynghylch cynyddu cyfleoedd i ddisgyblion gyfeirio eu dysgu eu hunain mewn gwersi a fydd yn cael sylw yng nghynllun gweithredu'r ysgol.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Mae Estyn wedi cydnabod bod Ysgol Gynradd Llys-faen yn ysgol fywiog a chynhwysol sydd wedi ymrwymo i ddarparu addysg o ansawdd uchel lle gall pob disgybl ffynnu.

"Mae'n amlwg o'r adroddiad bod disgyblion yn chwarae rhan flaenllaw wrth wella'r ysgol, gyda chyfleoedd rheolaidd i ddylanwadu ar wneud penderfyniadau ar lefelau dosbarth ac ysgol gyfan. Mae'r cyfranogiad hwn yn helpu dysgwyr i ddatblygu sgiliau arwain allweddol a theimlo bod eu llais yn bwysig ac yn cael ei glywed. Roedd yn arbennig o braf clywed am yr Hyrwyddwyr Lles sydd wedi cyfrannu at adolygu polisi gwrth-fwlio'r ysgol a'r Arweinwyr Digidol a gynhaliodd arolygon staff i drefnu hyfforddiant iddynt ddefnyddio gwahanol raglenni digidol gyda gwell dealltwriaeth.

"Dylai staff a disgyblion yr ysgol a'r gymuned deimlo'n falch o'r adborth cadarnhaol hwn sy'n ailadrodd ymrwymiad yr ysgol i welliant parhaus."

Adeg yr arolygiad, roedd gan Ysgol Gynradd Llys-faen 458 o ddisgyblion ar y gofrestr. Mae 4.4% o'r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, mae 3.9% o ddisgyblion yn nodi bod ganddynt anghenion dysgu ychwanegol ac mae 3.4% yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol.

Cynhaliwyd yr arolygiad hwn fel rhan o roi cynnig ar drefniadau arolygu newydd Estyn.

I gael mwy o wybodaeth neu i ddarllen yr adroddiad arolygu llawn, ewch iYsgol Gynradd Llys-faen | Estyn (llyw.cymru)